Caplan y Llynges Frenhinol, Caplan y Fflyd a Chaplan Anrhydeddus i’r Frenhines
Ymgofrestrodd John Cawston yng Ngholeg Dewi Sant yn 1844, pan oedd yn hugain mlwydd oed, ac yno, cafodd yrfa academaidd ragorol. Enillodd ef wobr Ewclid, cafodd ei ethol yn Ysgolhaig Harford, ac yn 1846, dewiswyd ef yn Uwch Ysgolhaig y coleg. Yn 1847, ordeiniwyd ef gan Esgob Llandaf i guradiaeth St Paul, Casnewydd, Sir Fynwy. Y flwyddyn ganlynol, symudodd ef i St Michael and All Angels, Great Torrington, Dyfnaint, ac yno, fe weithiodd tan 1853, cyn cael ei benodi’n gaplan y Llynges Frenhinol.
Am y naw ar hugain mlynedd nesaf, cafodd Cawston yrfa ragorol, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, fe ddyfarnwyd iddo dair medal. Gwnaeth ef wasanaethu’n gyntaf ar HMS Bellerophon ar y Canolfor a’r Môr Du yn ystod Rhyfel Rwsia. Roedd ef yn bresennol yn ystod magneliad a gwarchae Sebastopol (1854-55), cartref Fflyd Môr Du’r Tsar a oedd yn bygwth y Canoldir. Dyfarnwyd iddo ddwy fedal, medal Rhyfel y Crimea a’r fedal Dwrcaidd, gyda chlesbyn Sebastopol am ei fod wedi cymryd rhan yn y frwydr honno.
Gwasanaethodd Cawston nesaf ar HMS Centaur (1855-58) ar y Môr Baltig a’r Canolfor, ac oherwydd hynny, rhoddwyd iddo fedal y Baltig. Yna, dilynodd cyfnod yn Ynysoedd India’r Gorllewin ar HMS Mersey, a oedd, gyda’i chwaerlong Orlando, yn un o’r ddwy long bren hiraf a adeiladwyd ar gyfer y Llynges Frenhinol. Nes ymlaen, gwelwyd Cawston yn ymgymryd â gwasanaeth arbennig ym Mexico yn ystod trafferthion sifil y wlad honno. Yn dilyn gwasanaethu ar HMS Sutley ar y Môr Tawel (1862-1867), gwelwyd ef yn gysylltiedig â Magnelaeth y Môr-filwyr Brenhinol, ac yna ym Mhorthladd Portsmouth, lle y bu ef yn gwasanaethu tan 1876.
Gwnaeth penodiadau diweddarach gynnwys caplan Coleg y Llynges Frenhinol, Ysbyty Greenwich gynt, a oedd rhwng 1873 a 1998 yn sefydliad hyfforddi swyddogion y llynges. Yn 1876, cafodd Cawston ei wneud yn Gaplan y Fflyd, swydd y gwnaeth ef ei chadw tan iddo ymddeol yn 1882. Sefydlwyd y rôl Caplan y Fflyd, hynny yw Pennaeth Caplaniaid y Llynges, yn 1859, a Cawston oedd y pedwerydd i gael ei benodi i’r swydd honno.
Yn 1877, er mwyn cydnabod ei wasanaeth i Eglwys y Llynges, dyfarnwyd iddo’r radd DD (Doethur Diwinyddiaeth) gan Dr Tait, Archesgob Caergaint. Cafodd gwasanaeth hir a disglair Cawston i’r Eglwys hefyd ei gydnabod yn 1888, pan benodwyd ef yn Gaplan Anrhydeddus i’r Frenhines.
Gwnaeth ymddeol yn 1882 i Blackheath Park lle y bu ef farw ar Fawrth 3ydd 1900. Cynhaliwyd ei wasanaeth angladdol yn St Margaret’s Lee, yr eglwys y gwnaeth ef ei mynychu am lawer o flynyddoedd a lle y gwnaeth ef helpu’n aml gyda’r gwasanaeth. Y Parchedig John L. Robinson, caplan Coleg y Llynges Frenhinol, Greenwich, gwnaeth weinyddu, ac roedd y Caplan y Fflyd ar y pryd hefyd yn bresennol. Gwnaeth Cawston adael ar ei ôl gweddw, merch a mab, hefyd o’r enw John, a ddaeth yn Rheolwr y Bathdy Brenhinol (1917-1921).
Ffynonellau:
Cylchgrawn Coleg Dewi Sant, Mehefin 1900, tud. 140-141