John Edmunds-Davies

Ganwyd John Edmunds-Davies yn Llanbedr Pont Steffan yn 1893 i Walter ac Agnes. Roedd yn unig blentyn, yn dilyn marwolaethau ei dri brawd a chwaer yn fabanod. Roedd Walter yn gymeriad lleol pwysig a oedd yn berchen ar siop ddefnydd ac yn 1911, gwasanaethodd fel Maer Llanbedr Pont Steffan. Derbyniodd John ei addysg yn Ysgol Coleg Dewi Sant, Coleg Aberhonddu ac Ysgol Sir Tywyn. Pan ddechreuodd y rhyfel, cofrestrwyd John yng Ngholeg Dewi Sant.

Ymunodd John â Bataliwn Catrawd Llundain ar gyfer Prifysgolion ac Ysgolion Bonedd ym mis Medi 1914 fel milwr cyffredin cyn cael ei ddyrchafu i Ddegfed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Yn 1916, gadawodd John am Ffrainc a derbyn swydd fel swyddog bomio ei fataliwn a oedd yn rhan o nifer o frwydrau'r Somme yn ystod y flwyddyn honno. 

Ar ôl byw trwy arswyd y Somme, daeth John adref i Gymru am gyfnod byr ac ym mis Hydref 1916, priododd Olive Gwynedd Davies o Gaerfyrddin; aethon nhw ar eu mis mêl i Fae Langland ym Mhenrhyn Gŵyr. 

Y gwanwyn canlynol, bu bataliwn John yn rhan o Frwydr Arras a ymladdwyd rhwng 9 Ebrill ac 16 Mai 1917. Cafodd John anaf angheuol yn Vimy Ridge ar ddiwrnod cyntaf yr ymladd. Yn ôl adroddiadau’r papurau newydd "cafodd ei anafu â shrapnel ac er iddo oroesi’r llawdriniaeth, cafodd ei daro’n wael eto cyn marw". Roedd ei rieni a'i wraig ifanc wedi dechrau teithio i Ffrainc ar unwaith ond pan wnaethant gyrraedd Llundain, dywedwyd wrthynt am ei farwolaeth. Bu John farw yn Ysbyty Abbeville ar 12 Ebrill yn 23 mlwydd oed. 

Fe'i disgrifiwyd yn ei ysgrif goffa fel dyn o "gymeriad hwyliog a charedig yr oedd pawb a oedd yn ei adnabod yn ei hoffi’n fawr. Yn ystod ei yrfa fer, roedd wedi gwneud nifer o ffrindiau a bydd colled fawr ar ei ôl. Roedd yn athletwr da ac enillodd gapiau dros ei ysgol a'i goleg. Roedd yn fatiwr brwd a chyflawnodd gamp unigryw wrth chwarae gyda’i gatrawd yn Nhywyn pan gipiodd chwe wiced mewn un belawd." 

Mae John wedi'i gladdu ym mynwent gymunedol Abbeville yn Ffrainc ac wedi'i goffau ar restr anrhydedd y coleg a chofeb dref Llanbedr Pont Steffan. Rhoddwyd cwpwrdd llyfrau a chasgliad o lyfrau i'r coleg 'er serchus gof' amdano gan ei rieni a'i fodrybedd; mae’r rhain bellach yn Llyfrgell y Sylfaenwyr. Mae ffenestr wydr lliw sy'n dynodi 'cyfiawnder ac aberth' wedi'i gosod er cof amdano yn eglwys blwyf leol San Pedr. 

"Pan dderbyniwyd y newyddion, ymledodd tywyllwch dros y dref, gan fod is-gapten yn ddyn poblogaidd." 

Cambrian News and Merionethshire Standard, 20 Ebrill 1917 

Ffynonellau: 

Roberts, S. (2018). 1918-2018 A Commemoration. Saint David’s College, Lampeter. Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.