Ganwyd Parcell Rees Bowen yn Llangain, Sir Gaerfyrddin, ar Orffennaf 22 1893. Wedi derbyn ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin, ymgofrestrodd yng Ngholeg Dewi Sant ym mis Hydref 1912. Gwnaeth Bowen, a gafodd y llysenw ‘Plancio’ pan oedd yno, chwarae rhan weithredol ym mywyd chwaraeon y coleg. Yn flaenorol, wedi chwarae rygbi i’r ‘Carmarthen Quins’, ymunodd â thîm XV y Coleg yn 1913, gan geisio’n aflwyddiannus i gael ei benodi i’r swydd Ysgrifennydd Rygbi.

Gwnaeth cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf amharu ar fywyd academaidd Bowen, ac fe ymgofrestrodd ar unwaith fel milwr cyffredin yn y ‘1st Bedfordshire Army Service Corps.’ Anfonwyd ef i Ffrainc, ac yno, treuliodd aeaf 1914/15, ond cafodd ei anfon adref ym mis Chwefror 1915 am fod ei draed wedi dioddef yn wael oherwydd ewinrhew. Ar ddychwelyd i’r cwmni, comisiynwyd Bowen yn 2il Is-gapten ym 5ed Bataliwn Catrawd y Cymry. Yn ystod mis Gorffennaf y flwyddyn honno, hwyliodd i Gallipoli ar yr SS Huntsgreen, ac yno bu ei gatrawd yn rhan o’r ‘159 Brigade, 53rd (Welsh) Division’, a wnaeth ymladd yn Gallipoli tan iddi gael ei gwacáu ym mis Rhagfyr.  

Yn ystod y flwyddyn ganlynol, anfonwyd yr Adran i’r Aifft ac yno, trosglwyddodd Bowen i’r Corfflu Gynau Peiriant. Ym mis Awst 1917, rhoddwyd iddo ei fedal gyntaf, y Groes Filwrol, am ei ddewrder yn ystod Rhyfelgyrch Palestina.  Ym mis Ionawr 1918, trosglwyddodd Bowen i’r Llu Awyr Brenhinol, gan weithio fel Arsylwr i ‘14 Squadron’.  Hedfanodd RE8au gan gefnogi’r Fyddin wrth iddi symud ymlaen drwy Balestina i Ddamascus, tan i’r Cadoediad Twrcaidd ddigwydd ym mis Hydref 1918. Ym mis Chwefror 1919, rhoddwyd iddo’r Groes am Hedfan Neilltuol am ei ‘ddewrder a’i bendantrwydd’. 

Ar ôl y Cadoediad, gwnaeth Bowen wasanaethu yn Salonika a Mesopotamia cyn iddo gael ei gofrestru’n ddi-waith. Er hynny, gwnaeth ei frwdfrydedd dros antur ei yrru i wirfoddoli am wasanaeth pellach gyda’r Llu Awyr Brenhinol. Ym mis Gorffennaf 1919, cyrhaeddodd yn  Archangel, yng ngogledd Gorllewin Rwsia, ac yno, gwnaeth gwrdd â’i hen gydwladwr, yr archbeilot Ira ‘Taffy’ Jones. Yn ei hunangofiant, An Airfighter’s Scrapbook, ysgrifennodd Ira am Bowen, gan ei ganmol i’r cymylau, yn falch bod rhyfelwr arall o Gymru yn ei sgwadron.  

Gwasanaethodd Bowen gyda ‘No 3 Squadron, Slavo-British Aviation Corps’, yn Bereznik. Roedd y Corfflu hwn yn cynnwys cymysgedd o unigolion o Brydain a Rwsia a oedd yn ymladd ar ochr y Rwsiaid Gwynion yn erbyn y Bolsieficiaid. Ym mis Awst 1919, pan oedd Bowen yn hedfan mewn awyren ddwy sedd, gyda’r peilot William Roswell Moscrip wrth y llyw, ddechreuodd frwydr rhyngddynt â Nieuport Bolsiefig uwchben Toima. Cafodd y ddau ohonynt eu hanafu’n ddifrifol yn ystod yr ymladd, a gorfodwyd i Bowen gymryd rheolaeth dros yr awyren ar ôl i Moscrip lewygu, a’i hedfan am gant o filltiroedd, er ei fod wedi cael ei glwyfo yn ystod y frwydr yn ei benelin. Am wneud hyn, ychwanegwyd Bar at ei Groes am Hedfan Neilltuol.  

Anfonwyd Bowen adref wedi’i glwyfo, ac unwaith eto, cofrestrwyd ef yn ddi-waith, ond yn methu rhoi’r gorau i’r ymladd, gwirfoddolodd am Gomisiwn yn y Fyddin Lithwanaidd, gan wasanaethu gyda’r fyddin honno o fis Hydref 1919 tan fis Mawrth 1920. Bedwar mis ar ôl iddo ddychwelyd adref, derbyniodd Bowen swydd Dra Chyfrinachol gyda Llywodraeth Prydain, un a oedd wedi’i lleoli yn Nulyn pan oedd ‘Yr Helyntion’ ar eu gwaethaf. Gan actio mai asiant cwmni glo o Gymru ydoedd, gwnaeth letya gyda chyd-swyddog Prydeinig cudd arall, a daeth y ddau ohonynt yn gysylltiedig ag uned o gudd-weithredwyr Gwasanaeth Cudd-ymchwil Prydain, a elwid wrth eu llysenw ‘The Cairo Gang’.  

Ar Hydref 27 1920, treuliodd y ddau ddyn y prynhawn yn Donnybrook, yn gwylio gêm pêl-droed, ond ar ôl iddi orffen, gwnaeth Bowen ddiflannu. Darganfuwyd ei gorff yn ddiweddarach mewn mynedfa fwaog ar Lower Merrion Street, yn Nulyn, wedi’i saethu gydag un fwled .45 yn unig. Mae cwestiynau yn cael eu gofyn o hyd ynglŷn â’i farwolaeth, oherwydd fe honnir ei fod wedi cael ei lofruddio gan yr IRA, ond gwnaeth llyfr a gyhoeddwyd yn 1931 awgrymu ei fod wedi cael ei lofruddio gan ei gyd-gudd-weithredwyr Prydeinig.  

Anfonwyd corff Bowen yn ôl i Gaerfyrddin, ac yno fe gladdwyd gydag anrhydeddau milwrol llawn ym mynwent Eglwys Dewi Sant, Abergwili. 

Ffynonellau: 

Roberts, Sarah (2017) Parcell Rees Bowen St David’s College Student, WW1 Hero, Wounded by the Bolsheviks, Assassinated in Dublin. Exhibition booklet