Thomas Glasfryn Jones

Ganwyd Thomas Glasfryn Jones yn 1884 yn Llangeitho, saith milltir i’r gogledd o Lambed. Ef oedd trydydd plentyn John a Mary Jones; ei fam oedd merch Lewis Davies, saer coed yn Llambed, ac roedd ei dad yn saer maen.

Mynychodd Thomas Ysgol Sir Tregaron cyn ymgofrestru yng Ngholeg Dewi Sant gydag ysgoloriaeth fynediad, yn 1902. Astudiodd am radd BA mewn Hanes, gan arbenigo mewn Diwinyddiaeth, ac ar ôl graddio o Lambed yn 1905, parhaodd gyda’i astudiaethau yng Ngholeg Diwinyddol Mihangel Sant, Aberdâr. Ar ôl cael ei ordeinio, penodwyd Thomas yn Gurad Mostyn, ger Treffynnon, ac arhosodd yno am y naw mlynedd nesaf.   

Yn 1916, cynigiwyd i Thomas guradiaeth Bylchau ger Dinbych, ond yn lle hynny, dewisodd ymrestru gyda’r lluoedd; ymunodd ag Iwmyn Penfro fel Caplan 4ydd Dosbarth â chomisiwn yn Adran Caplan y Fyddin gydag 11eg Bataliwn Cyffinwyr De Cymru. Gwnaeth dros bum mil o gaplaniaid y fyddin gymryd rhan yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a gwnaeth 179 ohonynt golli eu bywydau. Eu tasg anfilwrol oedd gofalu am anghenion ysbrydol ac emosiynol y milwyr, ond yn aml, bydden nhw hefyd yn cael eu maglu yng nghanol y frwydr, yn dyst i farwolaeth a grym distrywiol rhyfel, ac yn profi’r un amgylchiadau erchyll â’r sawl a oedd dan eu gofal.  

Cymerodd adran Thomas ran mewn brwydrau yn Ffrainc a Fflandrys drwy gydol y flwyddyn ganlynol, ac ar Fawrth 24 1917, wrth iddo roi cymorth i filwr clwyfedig ar faes y gad, tarwyd Thomas gan fwled saethwr cudd. Gwnaeth y clwyfau ergyd gwn i’w ysgyfaint a’i asgwrn cefn ei adael wedi’i barlysu, a chafodd ei anfon i Ysbyty’r Ymerodraeth. Wedi ei sefydlu’n wreiddiol er mwyn darparu gofal i gleifion tramor a oedd yn talu ffioedd, cafodd yr ysbyty hwn yn Llundain ei feddiannu gan y Swyddfa Ryfel er mwyn trin swyddogion a oedd yn dioddef o baraplegia a achoswyd gan drawma, ac anafiadau i’r ymennydd oherwydd clwyfau a achoswyd gan fwledi neu shrapnel. Yn llai na thair wythnos ar ôl iddo gael mynd i’r ysbyty, bu farw Thomas o’i glwyfau. Roedd yn ddeuddeng mlwydd ar hugain oed.  

Dychwelwyd corff marw Thomas i Langeitho, i’w gladdu ym mynwent eglwys Sant Ceitho. Mae’n cael ei goffáu ar Restr Gwroniaid y Coleg ac ar gofebion eraill yn Llangeitho a Mostyn. Caiff Thomas hefyd ei gofio ar y Rhestr Gwroniaid sydd yn Eglwys y Drindod Croesoswallt, sef eglwys ei ddarpar wraig  Miss P. Roberts, a’r un sydd ar glwydi’r gofeb ryfel ym Mharc Cae Glas, Croesoswallt. Yn ystod ei gyfnod ym Mostyn, roedd wedi lletya gyda’r teulu Bithell, a phan, yn 1925, adeiladodd Mr Bithell gartref newydd i’w deulu, enwyd y tŷ ‘Glasfryn’ er anrhydedd iddo. 

“a good man and true, an eloquent and earnest preacher, and one who made the great sacrifice, and who shared all the perils and dangers of the men to whom he administered at the front” 

Dyfyniad o’r adroddiad am yr angladd, County Herald April 1917 

Ffynonellau: 

Roberts, S. (2018). 1918-2018 A Commemoration. Saint David’s College, Lampeter.Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.