Magwyd Andrew Williams yng Nghaerloyw cyn ymgofrestru yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant yn 1980 i astudio daearyddiaeth. Roedd yn hoff iawn o bellenigrwydd Llambed. Oherwydd y bu’n byw yn Esgairdawe, yn aml, byddai’n rhedeg y nifer mawr o filltiroedd yn ôl ac ymlaen i’r Coleg er mwyn cynnal ei astudiaethau.
Roedd ef yn frwdfrydig iawn dros redeg, rhywbeth a fyddai’n elfen bwysig o’i fywyd am weddill ei oes. Cynrychiolodd ef y Coleg yn y rasio Draws Gwlad, ac ef oedd Capten yr 2il dîm XI Pêl-droed. Ar ôl ymuno â Chorfflu Hyfforddi Swyddogion Prifysgol Cymru yn ei ail flwyddyn, cafodd ei ddyrchafu’n gyflym i Is-swyddog Iau, cyn penderfynu ar yrfa yn y Fyddin.
Comisiynwyd ef i Gatrawd Swydd Gaerloyw yn 1984. Treuliodd ei ddyletswydd gatrodol gynnar yn y DU, Kenya a Berlin, ynghyd â nifer o fisoedd bob blwyddyn yn arwain Tîm Biathlon y Gatrawd yn Norwy. Dilynodd teithiau byrion i jyngloedd Brunei a Belize, a gwnaeth ef hefyd reoli cwmni amlwladol ar gyfer y Cenhedloedd Unedig yng Nghyprus.
Mae ei benodiadau staff iau yn cynnwys capten gweithrediadau G3 ym Mhencadlys 39 Brigâd y Milwyr Traed yn Belfast, ac am hynny, dyfarnwyd iddo Gymeradwyaeth y Frenhines am Wasanaeth Gwerthfawr, uwchgapten cynlluniau / gweithrediadau G3/G5 ym Mhencadlys Gogledd Iwerddon, ac am hynny, rhoddwyd iddo MBE, a Chynorthwyydd Milwrol i’r Ysgrifennydd Milwrol a hefyd i’r Dirprwy Gadfridog.
Mae ganddo brofiad gweithredol sylweddol, ar y cychwyn fel cadlywydd platŵn yng Ngogledd Iwerddon, ac yn fwy diweddar yn y Balcanau, Irac ac Afghanistan. Gwnaeth ef reoli Catrawd Swydd Stafford rhwng 2003 – 2005, gan gynnwys gweithrediadau yn Kosovo ac Irac. Cafodd ei uwchraddio i OBE am ei arweinyddiaeth ragorol yn Irac.
Roedd ei gyd-ddyletswyddau yn cynnwys bod yn hyfforddwr i’r Rheolaeth Gwasanaethau ar y cyd ac i’r Coleg Staff, ac yn Ddirprwy Bennaeth Cynorthwyol y Staff J5 (Polisi a Chynlluniau -Y Dwyrain Canol) yn y Cyd-bencadlys Parhaol. Yno, roedd ef yn benodol gyfrifol am ddrafftio opsiynau ar gyfer cyfraniad milwrol y DU at Irac rhwng 2006 a 2008.
Ymunodd ef â’r Coleg Astudiaethau Amddiffyn Brenhinol ar ôl blwyddyn o fod yn gyrnol gyda’r Rheolaeth Trosglwyddo Diogelwch Gyfunol, yn bennaf, ar gyfer yr Unol Daleithiau – Afghanistan. Yno, bu ef yn benodol gyfrifol am ddylunio i’r dyfodol ac am ddiwygio Gweinyddiaethau Amddiffyn Afghanistan a’r Mewndiroedd. Dyfarnwyd iddo Fedal Seren Efydd yr UD am ei gyfraniad.
Ar gael ei ddyrchafu’n Frigadydd yn 2010, gwnaeth Andrew reoli Brigâd (Dwyrain) 49, a chyn hynny, am dair blynedd a hanner, bu’n Ddirprwy Ysgrifennydd Milwrol – yn gyfrifol am reoli gyrfaoedd yn y Fyddin. Yn ystod y cyfnod hwnnw yng Nglasgow, daeth hefyd yn gynrychiolydd ar bwyllgor Combat Stress (Yr Alban). Dechreuodd ef reoli’r Ysgol Milwyr Traed ym mis Mehefin 2015, cyn ymddeol yn gynnar i ymgymryd â swydd ymgynghorol gyda’r cwmni strategaeth fyd-eang Kearney yn y Dwyrain Canol.
Yn ogystal â’i radd oddi wrth Brifysgol Cymru, graddiodd hefyd o Goleg Staff y Fyddin ac mae ganddo Radd Meistr o Cranfield. Wedi ei benodi gan Ei Mawrhydi, Y Frenhines, i’r swydd anrhydeddus Cyrnol Y Gatrawd Fersiaidd, yn drist, bu rhaid iddo adael y cyfrifoldebau hynny ar ôl a symud dramor. Mae ef yn briod â Jacs – Cyn-swyddog Nyrsio yn y Fyddin – a gwnaeth ef gwrdd â hi wrth ymweld â Belize; mae ganddynt dri o blant sy’n oedolion. Mae ef yn dal i gymryd rhan gystadleuol mewn rasys triathlon a digwyddiadau dygnwch seiclo a rhedeg eraill. Mae ef wedi ennill yn gyson amrywiol gategorïau mewn nifer o farathonau mynydd, yn ogystal â Ras Copaon Ynysoedd yr Alban, ac mae ef yn un o enillwyr blaenorol y Ras Hwylio / Rhedeg Bryniau’r Tri Chopa, ac mae hyn efallai yn dyst o’i ddyddiau rhedeg cynnar ar fryniau Cymreig Ceredigion.