Gweithiodd Walter Evans (1916-2007) fel caplan yn y fyddin am bron deugain mlynedd, gan wasanaethu yng Ngogledd Affrica, yr Eidal, Gwlad Belg, yr Almaen, Malaia, Singapore, Cenia ac Oman. Gelwid wrth ei lysenw ‘Evans above’, a gwnaeth weithio bron ym mhob math o swydd a oedd gan gaplaniaeth y fyddin ei chynnig.

Ganwyd Evans ar Awst 2 1916 yng nghartref teulu ei fam yn Eglwyswrw, Sir Benfro. O fewn ychydig o wythnosau aethpwyd ag ef i Lambed; bedyddiwyd ef yn Evan Walter yn Eglwys St Pedr. Mae cofrestr y bedyddiadau yn rhoi enwau ei rieni fel David, saer dodrefn, ac Eleanor.  Bu’r teulu yn byw yn Station Terrace, a gwnaeth Walter, pan oedd yn ifanc, fynychu Ysgol Coleg Dewi Sant. Gwnaethant fynychu eglwys St Pedr, lle y bu Walter yn gôr-fachgen (o ansawdd canolig).  

Yn drist, bu farw mam Walter yn 1932 o ganser yr afu, pan oedd Walter dim ond yn bymtheg mlwydd oed.  Yn ystod y deuddeg wythnos pan oedd hi’n sâl, arhosodd Walter gartref o’r ysgol i helpu ei dad. Gwnaeth hyn olygu na wnaeth ef sefyll ei arholiadau Tystysgrif Ysgol Uwch (a oedd yn gywerth â Lefelau A). Ond am ei fod wedi pasio Tystysgrif Ysgol Rhydychen gydag wyth credyd , gwnaeth hyn ei alluogi i sefyll arholiad am Ysgoloriaeth i Goleg Dewi Sant. Ymhen hir a hwyr, gwnaeth raddio yn 1936 gyda gradd mewn hanes, ychydig cyn ei ben-blwydd yn ugain mlwydd oed. Y pennaeth bryd hynny oedd Maurice Jones, cyn-gaplan yn y fyddin, a wnaeth annog yn gyson nifer bach o ddynion i ymuno â’r lluoedd arfog.  

Ar ôl iddo raddio, gwnaeth Evans lwyddo pasio Rhan 1 a Rhan 2 o’r Arholiad Ordeinio Cyffredin yn ogystal â threulio blwyddyn yn addysgu yn Ysgol Coleg Dewi Sant. Ar ôl cael ei ordeinio, ei swydd gyntaf oedd fel curad yn Arberth. Yna, symudodd i Aberteifi, gan aros yno am ddwy flynedd cyn ymuno â’r Fyddin. Bu’n weithredol yn gyrru ambiwlans i’r Patrôl Cyrchau Awyr (Air Raid Patrol  - ARP), sef car mawr a oedd wedi cael ei addasu i gario pedwar stretsier. Roedd hefyd yn ymwneud a’r Gwarchodlu Cartref fel rhyw fath o Swyddog Cudd-ymchwil.  

Yn 1942, derbyniwyd Evans yn gaplan milwrol. Roedd ei gwrs derbyn yn fyr ac yn llym, ac yn parhau pythefnos yn unig. Cafodd ei anfon yn gyntaf yn ôl i Gymru at uned 184 (Byddin) Maesgatrawd y Magnelwyr Brenhinol, yng Ngwersyll Coed-y-Brenin, ychydig o filltiroedd i’r gogledd o Ddolgellau. Roedd hwn yn wersyll hyfforddi enfawr a phrysur. Ar ôl ychydig o fisoedd yno, anfonwyd ef at uned 79 (Iwmyn Hertfordshire ) Llu Gwrthawyrennol Trwm y Magnelwyr Brenhinol. Cyrhaeddodd yn Bône (Annaba), yng ngogledd-ddwyrain Algeria, ym mis Chwefror 1943. Yna, gwnaeth ei gatrawd ddechrau amddiffyn yn wrthawyrennol tref a phorthladd Skikda, tua 60 milltir i’r gorllewin o Bône. Bob dydd Sul, byddai Evans yn ceisio cynnal gwasanaeth o 30 munud ar gyfer pob mintai. Yn aml, byddai’n cynnal wyth neu naw gwasanaeth y dydd, ac weithiau un neu ddau wasanaeth min nos yn ystod yr wythnos. O safbwynt y dynion, roedd ymweliad y caplan a’r gwasanaeth yn rhan fawr o’r ddefod wythnosol. Roedd salwch yn rhan fawr o fywyd. Ar un adeg, roedd tua 150 o’r 1000 o ddynion a oedd yn y gatrawd yn yr ysbyty, y mwyafrif ohonynt yno oherwydd malaria. Yn ddiweddarach, yn 1943, symudodd uned 79 (Llu Gwrthawyrennol Trwm – Heavy Anti-Aircraft - HAA) yn ôl i Bône. Yn ogystal ag addoli yn Saesneg, gwnaeth Evans a chyd-gaplan a oedd hefyd yn Gymro Cymraeg drefnu gwasanaethau misol yn y YMCA.  

Yn ystod adeg y Pasg, 1944, hwyliodd y gatrawd i’r Eidal. Y meysydd awyr o gwmpas Foggia, ger Bari, ar arfordir yr Adriatig oedd ei chyrchfan nesaf. Ei rôl byddai amddiffyn y Llu Awyr Brenhinol rhag gwrthymosodiadau gan yr Almaenwyr. Ar ôl ychydig o fisoedd yno, gwnaeth symud i gyfeiriad y gogledd er mwyn darparu grym tanio ar gyfer 5ed Fyddin yr Americaniaid, a leolwyd yng ngorllewin yr Eidal, ac yna i ffrynt yr 8fed Fyddin yn Rimini.  Ymhen hir a hwyr, dadfyddinwyd uned 79 HAA, a chafodd Evans ei anfon am gyfnod byr i uned 56 Catrawd Drom, y Magnelwyr Brenhinol (a fyddai yn y dyfodol yn enwog oherwydd roedd Spike Milligan yn arfer bod yn un o’i haelodau).  

Byddai rôl nesaf Evans yn un anarferol; anfonwyd ef at y Grŵp Brigâd Iddewig Annibynnol a oedd newydd gael ei sefydlu. Roedd y Frigâd yn cynnwys carcharorion a oedd wedi dianc o’r gwersylloedd crynhoi, gwirfoddolwyr Iddewig o bob rhan o’r byd, ac Iddewon o Balestina ei hun, pob un ohonynt yn cael ei gynorthwyo gan arbenigwyr o’r unedau Prydeinig a oedd wedi’u lleoli yn yr Eidal. Roedd tua 20% o’r frigâd yn dod o Brydain; ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau o Eglwys Loegr. Gwnaeth Evans, a oedd wedi’i leoli gyda’r Ambiwlans Maes, weinidogaethu ochr yn ochr â thri chaplan Iddewig.  Sylwodd Evans nad oedd Gorchmynion Brigâd yn cael eu rhoi ar y Sabath Iddewig, na’r post yn cyrraedd chwaith. Ar ôl i’r rhyfel yn Ewrop ddod i ben, gwnaeth cerbydau’r Frigâd gymryd rhan weithredol, gan gludo Iddewon a oedd wedi cael eu dadleoli i lawr drwy’r Eidal er mwyn eu galluogi i hwylio i Balestina.  

Ar ôl cyfnod byr yng Ngwlad Belg a’r Iseldiroedd, anfonwyd Evans i’r Almaen gyda’r Marchlu Brenhinol. Roedd bywyd yn yr Almaen yn ddiddorol a dweud y lleiaf. Roedd yno filoedd o bobl a oedd wedi cael eu dadleoli a ffoaduriaid, dwsinau o encilwyr, a phob math o ysbïwr.  

Yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn honno, pan oedd Evans ar ymweliad â Phrydain, priododd ef Peggy Evans. Cartref Peggy oedd pentref Llanfihangel-ar-arth, un ar ddeg o filltiroedd i gyfeiriad y de-orllewin o Lambed. Byddai hi a Walter yn cael dwy ferch, Ann a Ruth.  

Cafodd Walter ei ddadfyddino yn gynnar yn 1947. Ar ôl treulio ychydig o fisoedd fel curad dros dro, daeth yn Rheithor Didmarton gydag Oldbury-on-the Hill a Sopworth, lle gwledig ar y ffin rhwng Swydd Gaerloyw a Wiltshire. Arhosodd Evans yn Didmarton am bum mlynedd. Daeth yn Gynghorydd Dosbarth Gwledig y plwyf , ymunodd â’r Fyddin Diriogaethol (Territorial Army – TA) a daeth yn Gaplan (TA) i Iwmyn Brenhinol Wiltshire. Ond dechreuodd sylweddoli ei fod yn gweld eisiau disgyblaeth strwythuredig, brawdoliaeth a chwlwm cyffredin y fyddin. Bryd hynny, roedd Rhyfel Corea yn cael ei ymladd, ac roedd caplaniaid milwrol yn brin. Ym mis Gorffennaf 1952, ailymunodd Evans â’r Adran Caplaniaid Byddin Frenhinol, roedd ef ynghlwm wrth ‘The Buffs’ (Catrawd Frenhinol Dwyrain Caint). Ar y cychwyn, lleolwyd ef yn Nofr; ym mis Chwefror 1953, gwnaeth y bataliwn ymladd yn erbyn llifogydd Arfordir y Dwyrain a wnaeth niwed difrifol i foryd Tafwys. Yn ystod y mis canlynol, aeth ef gyda’r ‘Buffs’ i Genia, a oedd bryd hynny yng nghanol gwrthryfel y Mau-Mau. Cawsant eu lleoli yn gyntaf  yn Ol-joro-orok,  9000 troedfedd uwchben lefel y môr, ond pedair milltir yn unig o’r cyhydedd. Ar y cychwyn, rôl  y ‘Buffs’ oedd ‘cadw a chynnal heddwch’; wedyn, eu tasg oedd restio llwythddynion y Kikuyu a oedd wedi cymryd rhan yn y gwrthryfel. Yn 1955, ar ôl cyfnod byr ym Mhrydain, symudodd y ‘Buffs’ i’r Almaen, gan ymuno â Garsiwn Wuppertal. Ar ôl i’r ‘Buffs’ ymadael am Aden, arhosodd Evans yn yr Almaen; anfonwyd ef i  Krefeld, sydd ar y Rhein.  Anfonwyd ef nesaf yn ôl i Brydain at Fataliwn Arweinwyr Iau’r Troedfilwyr, a oedd wedi’i leoli yn Plymouth, ac yna, i’r Academi Filwrol Frenhinol yn Sandhurst.  

Yn 1962, anfonwyd Evans at Dirluoedd y Dwyrain Pell, ac yn gyntaf i Kluang, ym Maleisia. Oherwydd roedd ei ferched yn dal i fod yn yr ysgol, aeth yno ar ei ben ei hun, gan adael Peggy ym Mhrydain. O bosib, oherwydd hyn, cafodd ei symud o gwmpas llawer o weithiau  - i Brunei ac i Singapore, yn ogystal ag i Faleisia ei hun. Yn Singapore, bu’n warden ‘Church House’, encilfa fechan a thŷ gorffwys ar Ynys Blakang Mati, (a elwir erbyn hyn yn Sentosa). Yna, yn dechrau ym mis Ionawr 1965, cafodd ei anfon nesaf i brifysgol y fyddin ei hun, y Coleg Milwrol Brenhinol yn Shrivenham, ger Swindon. Meddai ef mai hwn oedd un o’r lleoedd gorau ar gyfer anfon pobl a oedd ar gael. Hefyd, yn 1965, fe wobrwywyd ef ag MBE yn ystod Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. Ond byddai’n aros yn  Shrivenham am ddwy flynedd yn unig; ei gyrchfan nesaf oedd Depo’r Caplaniaid yn Bagshot, Surrey. Byddai caplaniaid newydd yn dod yno i gael eu dogfennu, eu hyfforddi a’u citio. Y lle olaf i Evans gael ei anfon oedd yr Henffordd, cartref yr SAS. Roedd y gwersyll wedi dirywio a chwt yr eglwys mewn cyflwr ofnadwy. Roedd Evans bob amser wedi bod o blaid ymweld â phobl yn rheolaidd. Drwy fynd o ddrws i ddrws, fel y dyn llaeth a dyn y post, ei fwriad oedd ymweld â phob tŷ tuag unwaith pob chwech neu wyth wythnos.   

Erbyn hyn, oed ymddeol arferol caplaniaid y fyddin oedd pum deg a phum mlwydd oed. Roedd hi’n amser i Evans ddychwelyd i fywyd bob dydd. Ym mis Ionawr 1972, daeth yn gaplan i Ysbyty Brenhinol Chelsea; arhosodd yno tan oedd yn chwe deg a phum mlwydd oed. Roedd tua 400 o bensiynwyr preswyl yn byw yno; byddai tua 70 o bobl yn cael ei derbyn a 70 yn marw yno bob blwyddyn. Gwnaeth Evans gynnig gweinidogaeth lawn a gwnaeth fwynhau ei waith yn fawr. O fis Tachwedd 1980 tan fis Tachwedd 1981, ef hefyd oedd Caplan yr Arglwydd Faer, yn cynorthwyo’r Cyrnol a’r Henadur Ronald Gardner-Thorpe, a oedd yn gyn-Brif Swyddog bataliwn gyda’r ‘Buffs’. Fel rhan o’i ddyletswyddau, gwnaeth bregethu tair gwaith yn Eglwys Gadeiriol St Paul, gofyn bendith ar nifer mawr o giniawau a gynhaliwyd yn Neuadd y Gorfforaeth a’r Plasty, a mynychu priodas y Tywysog Siarl a’r Arglwyddes Diana Spencer.  

Yn 1985, symudodd Evans yn ôl i’w gartref yng Ngheredigion; gwnaeth ef a Peggy ymgartrefu yn Llandysul. Bu farw yn 2007. Siaradodd y Cadfridog Syr Peter de la Billière, yn ei angladd, a gynhaliwyd yn eglwys blwyf St Tysul, Llandysul. 

Ysgrifennodd Evans am ei waith ‘The Chaplain represents something basic to men’s needs, whatever they are involved in. My task, as I saw it, was to do my best, wherever I found myself, and represent a standard which many forget in their anxiety to be something different and new in their lives.’ Meddai De la Billière amdano ‘A good Padre is the conscience of the Commanding Officer and the patron of the men – certainly this fits Padre Evans.’

Ffynonellau 

Evans, W. (1996). ‘Evans above …!! The life and times of an army chaplain 1942-1981. Llandysul: Walter Evans 

 ‘Evans above’. A tribute to Revd. E.W. (Walter Evans) MBE. (2007) The Journal / The Regimental Association of The Queen’s Own Buffs (PWRR). 15,37-38. Adalwyd ar Ragfyr 11 2020 oddi wrth http://thequeensownbuffs.com/wp-content/uploads/2016/12/Journal-No-15-Autumn-2007.pdf