Hafan YDDS  -  Casgliadau Arbennig ac Archifau  -  200 bywgraffiad yn Dathlu Daucanmlwyddiant Llambed  -  Lluoedd Arfog  -  Yr Is-lyngesydd Peter Wilkinson CB, CVO

Mae Peter Wilkinson yn swyddog y llynges, a gododd i fod yn Ddirprwy Bennaeth y Staff Amddiffyn, yn ogystal â Llywydd Cenedlaethol y Lleng Brydeinig Frenhinol.

Ganwyd Wilkinson yn Leytonstone, Essex, ond oherwydd y bu rhaid i’w deulu symud nifer o weithiau, mynychodd ef yr Ysgol Ramadeg Frenhinol yn High Wycombe. Ar ymadael â’r ysgol, ymunodd ef â’r Llynges Frenhinol, gan astudio yng Ngholeg Britannia’r Llynges Frenhinol, Dartmouth. Ar yr un pryd, astudiodd ef ddaearyddiaeth yn Llambed ar adeg pan yr Adran Ddaearyddiaeth oedd yr adran fwyaf yn y coleg hwnnw. Chwaraeodd ef rygbi a sboncen, ac ef oedd Capten y clwb hwylio. Ef hefyd oedd Trysorydd Clwb Rygbi’r Coleg, ac roedd hyn yn golygu mai ef oedd yn trefnu dosbarthu’r tocynnau ar gyfer gemau rhyngwladol Cymru ym Mharc yr Arfau Caerdydd. Etholwyd ef hefyd yn aelod o Bwyllgor Gweithredol Undeb y Myfyrwyr.

Ar ôl graddio o Goleg Prifysgol Dewi Sant, a chwblhau ei hyfforddiant yn Dartmouth, ymunodd Wilkinson â’r llongau tanfor, yn gweithio ar longau a oedd yn cael eu gyrru gan ddiesel ac ynni niwclear yn ogystal. Fel swyddog iau, ymgymerodd ef ag amrywiaeth o ddyletswyddau, ac yn 1987, dewiswyd ef i fynd ar y Cwrs Ymgymhwyso Prif Swyddogion. Yn dilyn hyn, rhoddwyd iddo reolaeth dros HMS Otter, HMS Superb a HMS Vanguard. Ei long danfor olaf, HMS Vanguard, oedd y cyntaf o’r llongau tanfor dosbarth Vanguard i gael eu harfogi gyda thaflegrau balistig. Gyda hyd o 150 metr a dadleoliad o 15 900 tunnell fetrig, hon oedd un o’r llongau tanfor mwyaf i gael eu gweithgynhyrchu yn y DU.  Mae Wilkinson wedi disgrifio symudiad araf y llong danfor hon o gwmpas y cefnforoedd, symudiad a oedd yn sicrhau’n barhaol na fyddai hi’n cael ei datgelu.  (Mae mwy o gyflymder yn golygu mwy o sŵn!). Pan oeddent yn patrolio, byddai amserlen ddyddiol y criw yn cynnwys gwylio, cysgu a bwyta, gydag amrywiaeth o ymarferion a driliau. Byddai’r cysylltiad â byd mawr y tu allan yn gyfyngedig dros ben. Byddai’r 150 o aelodau’r cwmni llong yn cael ychydig o wybodaeth, gan gynnwys darnau allan o’r papurau newydd yn ddyddiol, a negeseuon byrion yn wythnosol; ond roedd y rheolau llym ‘no transmission’ yn golygu nad oedd y criw yn gallu anfon unrhyw atebion na chyfarchion adref.  

Aseiniad gweithredol olaf Wilkinson oedd fel Capten 2il Sgwadron y Llongau Tanfor, wedi’i leoli yn  Devonport.  Dilynodd wedyn amrywiaeth o benodiadau staff yn Llundain a Portsmouth. Yn 2001, daeth ef yn Gyfarwyddwr Amodau Gwasanaeth y Llynges, yn atebol i Ail Arglwydd y Morlys, ac yn gyfrifol am amrywiaeth o bolisïau cadw. Dair blynedd yn ddiweddarach, dyrchafwyd ef yn Ôl-lyngesydd, ac yna, daeth ef yn Ysgrifennydd y Llynges yn gyfrifol am reoli gyrfaoedd 40,000 o bersonél Gwasanaeth y Llynges, yn amrywio o Longwyr Abl i’r Llyngesydd ei hun.  Ei swydd nesaf oedd Ysgrifennydd y Gwasanaethau Amddiffyn, wedi’i leoli yn y Weinyddiaeth Amddiffyn ac yn gweithio i Bennaeth y Staff Amddiffyn, yn ogystal â gweithio i Ysgrifennydd Preifat Ei Mawrhydi, y Frenhines, ym Mhalas  Buckingham. Yn 2007, dyrchafwyd ef yn Is-lyngesydd, a daeth ef yn Ddirprwy Bennaeth y Staff Amddiffyn (Personél), yn gyfrifol am gynhyrchu digon o bersonél galluog a chryf eu cymhelliad ym mhob un o’r tri gwasanaeth ar gyfer gweithrediadau, yn ôl gofynion y llywodraeth ar y pryd.  

Gwnaeth Wilkinson ymddeol o’r Llynges yn 2010, ac yn 2011,  daeth ef yn ‘Clerk to the Worshipful Company of Cooks’, un o gwmnïau lifrai hynaf Dinas Llundain. Ochr yn ochr â hyn, mae ef wedi bod yn rhan o nifer o elusennau’r lluoedd arfog. Rhwng 2012 a 2016, bu ef yn Llywydd Cenedlaethol y Lleng Brydeinig Frenhinol, fel ei chynrychiolydd ar gyfer digwyddiadau cenedlaethol, megis Gwasanaeth y Gofadail a Gŵyl y Cofio. Bu’n gadeirydd yr elusen forwrol ‘Seafarers UK,’ yn is-lywydd ‘Combat Stress’, yn gadeirydd y ‘Forces Pension Society’ ac yn ymddiriedolwr yr ‘Armed Forces Memorial’.  Bu’n llywydd Cymdeithas Pêl-droed y Llynges Frenhinol am chwe blynedd a hefyd yn is-lywydd anrhydeddus i’r Gymdeithas Pêl-droed. Ar hyn o bryd, ef yw cadeirydd y ‘Submariner Memorial Appeal’, yn codi’r arian angenrheidiol ar gyfer adeiladu Cofeb newydd yn y Goedardd Genedlaethol, a leolir yn Swydd Stafford.    

Yn 2007, gwnaethpwyd Wilkinson yn Gadlywydd Urdd Frenhinol Fictoria, ac yn Gadlywydd Urdd y Baddon yn 2010. Arwisgwyd ef yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant  yn 2013. Mae ef yn briod â Tracey (Ward gynt), un o raddedigion eraill Llambed; mae ganddynt ddwy ferch sy’n oedolion, Kate a Hilary. Mae ef yn rhestru ymhlith ei hobïau achyddiaeth, garddio a gwylio pob math o chwaraeon.  

Ffynonellau

Wilkinson, P. (2022). Peter Wilkinson clerk at the Worshipful Company of Cooks [LinkedIn page]. LinkedIn. Adalwyd ar Chwefror 10 2022 oddi wrth https://www.linkedin.com/in/peter-wilkinson-12352a19/

Wilkinson, Vice Adm. Peter John, (born 28 May 1956), Deputy Chief of Defence Staff (Personnel), 2007-10. Who’s Who & Who Was Who. Adalwyd ar Chwefror 10 2022 oddi wrth https://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540884.001.0001/ww-9780199540884-e-4000579?rskey=hwZN1w&result=5

Arwisgiad Cymrawd Anrhydeddus Investiture of Honorary Fellow Yr Islyngesydd / Vice Admiral Peter Wilkinson CB, CVO. Cynulliad Graddio – Degree Congregation 2013, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, University of Wales Trinity Saint David, Campws Llambedr Pont Steffan, Lampeter Campus 

Royal Navy. (n.d.) HMS Vanguard (S28). Adalwyd ar Chwefror 11 2022 oddi wrth https://www.royalnavy.mod.uk/our-organisation/the-fighting-arms/submarine-service/ballistic-submarines/hms-vanguard

Wilkinson, P. (2009). First patrol: Vanguard – the first Trident missile submarine. In Roberts, J. Safeguarding the nation: the story of the modern Royal Navy. Seaforth Publishing. Adalwyd ar Chwefror 10 2022 oddi wrth https://www.google.co.uk/books/edition/Safeguarding_the_Nation/jNbZAwAAQBAJ?hl=en&gbpv=1&dq=%22peter+wilkinson%22+and+submarines&pg=PT222&printsec=frontcover

Llawlyfr Undeb y Myfyrwyr 1976/77 = Students’ Union handbook. Coleg Prifysgol Dewi Sant

Llawlyfr Undeb y Myfyrwyr 1977/78 = Students’ Union handbook. Coleg Prifysgol Dewi Sant