Mike Breslin
Mae Mike Breslin yn ysgrifenwr sy’n arbenigo mewn chwaraeon moduro, moduro a theithio, ac roedd yn arfer bod yn yrrwr rasio Fformiwla Ford.
Dom Illtud Evans
Roedd Dom Illtud Evans (1913-1972) yn offeiriad Catholig, yn llenor, ac yn ddarlledwr adnabyddus.
Juliet Foster
Mae Juliette Foster wedi mwynhau gyrfa proffil uchel yn y cyfryngau, yn cyflwyno rhaglenni blaenllaw ar gyfer rhai o ddarlledwyr blaenllaw Prydain. Mae hi wedi bod yn ohebydd teledu, yn gyflwynydd teledu a radio, ac ar hyn o bryd mae hi’n rhedeg busnes cyfryngau a chyfathrebu, gan arbenigo mewn cymedroli cynadleddau, siarad yn gyhoeddus, darlledu a hyfforddi ar gyfer y cyfryngau.
Magnus Llewellin
Magnus Llewellin yw golygydd y Times yn yr Alban.
John Murray
John Murray yw Gohebydd Pêl-droed y BBC.
Pete Paphides
Mae Pete Paphides yn adolygydd cerddoriaeth, darlledwr, perchennog labeli recordiau a chyn brif adolygydd roc The Times.
Bruce Parker MBE
Mae Bruce Rodney Wingate Parker wedi cael gyrfa hir a llwyddiannus fel newyddiadurwr a chyflwynydd teledu.
Lawrence Pintak
Yn newyddiadurwr ac yn ysgolhaig arobryn, mae Lawrence Pintak wedi gohebu o bedwar cyfandir, o 18 o wledydd Affricanaidd a 15 talaith Arabaidd. Mae wedi cael ei ddisgrifio fel cofnodwr mwyaf blaengar y rhyngweithio rhwng y wasg Arabaidd a gwasg y Gorllewin.