Lawrence Pintak

Yn newyddiadurwr ac yn ysgolhaig arobryn, mae Lawrence Pintak wedi gohebu o bedwar cyfandir, o 18 o wledydd Affricanaidd a 15 talaith Arabaidd. Mae wedi cael ei ddisgrifio fel cofnodwr mwyaf blaengar y rhyngweithio rhwng y wasg Arabaidd a gwasg y Gorllewin.

Pan oedd yn dal i fod yn yr ysgol, gwyliodd Pintak Dean Brelis yn gohebu o Ucheldiroedd Golan ar gyfer CBS News. Sylweddolodd Pintak yn gyflym mai dyma roedd eisiau ei wneud â’i fywyd. Cafodd ei addysg yn Ysgol Newyddiaduraeth Medill, Prifysgol Northwestern, rhwng 1973 ac 1976. Yna, symudodd i’r Brifysgol Americanaidd yn Washington DC; graddiodd gyda BA mewn Cyfathrebu yn 1979. Ar ddiwedd yr 1970au, ysgrifennodd hefyd sawl erthygl am dde Affrica ar gyfer The Times, gan gynnwys gohebu ar ryfel annibyniaeth Zimbabwe.   

Daeth Pintak yn ohebydd y Dwyrain Canol gyda CBS News yn 1980. Roedd yn byw yn Beirut yn ystod y cyfnod hwn a bu’n gohebu ar bynciau megis dyfodiad terfysgaeth Islamaidd fodern, gan gynnwys cynnydd Hezbollah a dechrau’r ymgyrchoedd bomio gan hunanladdwyr. Gan mai gweithwyr y cyfryngau oedd yr Americanwyr olaf yno, daethant yn dargedau ar gyfer herwgipwyr. Yn sgil bygythiadau ar fywyd Pintak gan filisia o blaid Syria bu’n rhaid iddo adael Libanus am flwyddyn. Cafodd rhai o’i griw eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol, a chafodd llawer o’i ffrindiau eu cadw’n wystlon. Disgrifiodd Pintak ei brofiad yn ei lyfr cyntaf, Beirut outtakes: a TV correspondent’s portrait of American encounter with terror, (Lexington Books / DC Heath and Company, 1988). Cyflwynodd chwalfa Libanus drwy gyfrwng portreadau byrion, yn efelychu slot o ugain neu dri deg eiliad ar y teledu. Disgrifiodd Nakhleh y llyfr fel rhywbeth a oedd yn cynnig ‘golwg synoptig deallus ac yn llawn gwybodaeth o’r holl brif ddigwyddiadau yn nhrasiedi Libanus.’ 

Yn 1988, daeth Pintak yn rheolwr gyfarwyddwr Pintak Communications International, cwmni ymgynghori ym maes y cyfryngau yn Washington D.C. a Jakarta. Gweithiodd ar chwyldro Indonesia yn 1998 ar gyfer ABC News a’r The San Francisco chronicle. Yn Indonesia, cwrddodd â’i wraig a dyma lle ganwyd ei blant. Aeth ymlaen i weithio fel golygydd yn Worcester Publishing rhwng 1998 a 2000 ac yna’n gyfarwyddwr golygyddol Office.com am gyfnod byr. Yn dilyn hyn, dechreuodd weithio yn y maes academaidd fel cyfarwyddwr cyfathrebu'r Ganolfan Newid Cymdeithasol ym Mhrifysgol Harvard. Treuliodd y ddwy flynedd nesaf fel Athro Newyddiaduraeth Ymweld Howard R. Marsh ym Mhrifysgol Michigan.   

Aeth Pintak yn ôl i’r Dwyrain Canol yn 2005 i ddod yn gyfarwyddwr Canolfan Hyfforddiant ac Ymchwil Newyddiaduraeth Kamal Adham ym Mhrifysgol Americanaidd Cairo. Wedi’i sefydlu yng nghanol yr 1980au, hon oedd y ganolfan hyfforddi fwyaf ar gyfer newyddiadurwyr yn y Dwyrain Canol. Fel rhan o’i rôl, roedd Pintak yn gyhoeddwr-sefydlwr y cyfnodolyn ar-lein pwysig, Arab media & society. Tua’r un pryd, astudiodd ar gyfer M.Phil ac yna PhD, wedi’u dyfarnu gan Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan. Teitl ei draethawd ymchwil ar gyfer ei PhD oedd Islam, nationalism and the mission of Arab journalism: a survey of attitudes towards religion, politics and the role of the Arab media in the twenty-first century.  

Symudodd Pintak yn ôl i UDA yn 2009 i ddod yn ddeon sefydlwr Coleg Cyfathrebu Edward R. Murrow ym Mhrifysgol Talaith Washington. Yn ystod ei gyfnod yno, llwyddodd y coleg i sicrhau sawl grant a gwobr arobryn, gan gynnwys partneriaethau newydd gydag Adran y Dalaith a’r Sefydliad Carnegie-Knight . Ef oedd hefyd yn gyfrifol am The Murrow Interview, cyfres o sgyrsiau darlledu gyda chymeriadau blaenllaw ym maes cysylltiadau rhyngwladol a newyddiaduraeth fyd-eang. Yn ogystal, roedd Pintak yn ymgynghorydd i Adran Dalaith UDA y Ganolfan Ragoriaeth Newyddiaduraeth a ariennir gan UDA, yn Sefydliad Gweinyddiaeth Busnes, Karachi. Fe ddatblygodd y radd feistr newyddiaduraeth broffesiynol gyntaf ym Mhacistan, yn ogystal â rhoi cyngor i ysgolion newyddiaduraeth mewn ardaloedd llwythol yn y wlad. 

Daeth Pintak yn Ddeon Ysgol y Cyfryngau a Chyfathrebu i Raddedigion ym Mhrifysgol Aga Khan, Nairobi yn 2020. Dywedodd mai ei nod yw helpu’r rhaglen ifanc i ehangu ei gorwelion ledled Dwyrain Affrica a thu hwnt.  

Yn dilyn Beirut Outtakes, mae Pintak wedi ysgrifennu pedwar llyfr arall, sydd oll yn ymwneud â’r rhyngweithio rhwng y cyfryngau Arabaidd a gorllewinol. Yn The New Arab Journalist: Mission and Identity in a Time of Turmoil, (Bloomsbury, 2010), archwiliodd sut roedd gweithwyr proffesiynol yn y wasg Arabaidd yn ystyried eu hunain ar adeg dyngedfennol. Roedd yn gallu defnyddio cyfweliadau uniongyrchol gyda llawer o ohebwyr a golygyddion, yn ogystal â’r arolwg eang traws-ffiniol cyntaf o newyddiadurwyr Arabaidd. Disgrifiodd sut roedd y newyddiadurwyr hyn yn dal i fod o dan warchae wrth i lywodraethau geisio rheoli’r neges sy’n cael ei chyfleu. Ym marn Sabry, roedd y llyfr yn alluog, yn hael ac yn bwysig, gan uno theori ac ymarfer mewn ffordd gyfoethog iawn. Cyfrol ddiweddaraf Pintak yw America & Islam: Soundbites, Suicide Bombs, and the Road to Donald Trump (Bloomsbury, 2019). Archwiliodd berthynas yr Unol Daleithiau ag Islam, gan ystyried Trump yn symptom o ddegawdau o gamddealltwriaeth am y byd Mwslimaidd. Chwalodd Pintak ystrydebau allweddol sydd wedi llywio canfyddiad America o Fwslimiaid y byd. Disgrifiodd Hurd y llyfr fel un pwysig ac amserol. Roedd yn un o chwe llyfr a gyrhaeddodd rownd derfynol gwobr llyfr Cymdeithas Newyddion Crefyddol 2020.  

Gwnaed Pintak yn Gymrawd y Gymdeithas Newyddiadurwyr Proffesiynol yn 2017 am ‘wasanaeth rhagorol i broffesiwn newyddiaduraeth’ ledled y byd. Derbyniodd y wobr Uwch Ysgolhaig gan y Gymdeithas Addysg ym maes Newyddiaduraeth a Chyfathrebu Torfol yn 2019. Mae wedi ennill dwy wobr Clwb y Wasg Tramor, a chael ei enwebu ddwywaith am wobr Emmy rhyngwladol. 

Ffynonellau 

Pintak, L. (2020). Lawrence Pintak, Dean, Graduate School of Media and Communications at Aga Khan University [tudalen LinkedIn]. LinkedIn. Cyrchwyd ar 3 Medi 2020 o https://www.linkedin.com/in/lawrencepintak/ 

Pintak, L. (d.d.) Lawrence Pintak. Cyrchwyd 3 Medi 2020 o https://pintak.com/ 

Coleg Cyfathrebu Edward R. Murrow. (d.d.) Lawrence Pintak. Cyrchwyd ar 3 Medi 2020 o https://murrow.wsu.edu/people/lawrence-pintak/ 

Coleg Cyfathrebu Edward R. Murrow. (d.d.) Amserlen. Cyrchwyd ar 7 Medi 2020 o https://murrow.wsu.edu/about-the-college/murrow-facts/history/ 

US Arab Radio. (2019, 20 Medi). America and Islam: the journey of an author and his book. [Ffeil fideo]. Cyrchwyd 7 Medi 2020 o https://www.youtube.com/watch?v=V_990Ydasn8 

Religion and Media Interest Group. (2020). Pintak named dean of Graduate School of Media and Communications at Media and Communications at Aga Khan University, Nairobi. Cyrchwyd ar 7 Medi 2020 o https://religionandmedia.org/  

Nakhleh, E. (1991). Larry Pintak, Beirut Outtakes: A TV Correspondent’s Portrait of American Encounter with Terror (LexingtonMass.: Lexington Books/D.C. Heath and Company, 1988). Tud. 365. International Journal of Middle East Studies. 23(3), 459-460. DOI:https://doi-org.ezproxy.uwtsd.ac.uk/10.1017/S0020743800057834 

Sabry, T. (2012). The new Arab journalistmission and identity in a time of turmoil, by Lawrence PintakLondon: I.B. Tauris, 2011. Middle East Journal66(1),190-192. Cyrchwyd o https://www-jstor-org.ezproxy.uwtsd.ac.uk/stable/41342789 

Hurd, E.S. (2020). Islam in America: an eminent journalist connects American anti-Muslim rhetoric to U.S. foreign policy in the Middle East. Gaeaf 2020. Cyrchwyd ar 7 Medi 2020 o https://www.thecairoreview.com/book-reviews/islam-in-america/