Roedd Clifford Lewis Tucker (1912–1993) yn ddiwydiannwr, ynad, ymgyrchydd dros hawliau hoywon, a chymwynaswr i Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan.
Rhestrir man geni Cliff fel Redditch ar gofrestri’r coleg; roedd ei dad, Frederick Charles Tucker, yn weinidog i’r Bedyddwyr. Magwyd Cliff yn ystod cyfnod o ddiweithdra uchel a thlodi enbyd. Ymunodd â'r Blaid Lafur yn gynnar yn ei oes a chadwodd ei barch tuag at y dosbarth gweithiol. Ei arwr oedd Ernest Bevin, a oedd yn cyfleu y gwerthoedd oedd Tucker yn credu ynddynt i'r dim. Addysgodd plentyndod Tucker wirionedd dywediad Oscar Wilde hefyd, ‘Merthyron yw'r rhai sy'n gorfod byw gyda seintiau.’
Addysgwyd Tucker yn Ysgol Trefynwy ac yna yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, lle graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes. Dyfarnwyd yr ysgoloriaeth Phillips mewn hanes iddo hefyd, gwerth £25. Pan adawodd Llanbedr Pont Steffan yn 1934, penderfynodd beidio mynd yn syth i'r weinidogaeth. Mae dau lythyr sympathetig a ysgrifennwyd ato yn y cyfnod hwn gan y Pennaeth Maurice Jones bellach yn archifau’r brifysgol.
Yn 1936, ymunodd Tucker â thîm cysylltiadau diwydiannol ICI. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, symudodd at British Petroleum; teithiodd ymhell yn y Dwyrain Canol a'r Dwyrain Pell, gan weithio ar gysylltiadau llafur a materion staff. Yna symudodd i'r brif swyddfa; roedd yn rheolwr cysylltiadau diwydiannol nes ei ymddeoliad. Er ei fod yn teimlo bod rhai yn yr uwch-dîm arwain yn amheus o'i aelodaeth o'r Blaid Lafur, roedd rheolwyr a'r undebau yn ymddiried ynddo. Roedd gallu negodi'n dda ac yn hwyrach ymlaen yn ei fywyd roedd yn gallu edrych yn ôl ar streiciau a osgowyd neu lle cafwyd cytundeb yn gyflym. Gweithredodd hefyd dros y Sefydliad Llafur Rhyngwladol ac roedd yn ddarlithydd gwadd mewn prifysgolion Prydeinig ac Almaenig.
Rhestrai Tucker ei weithgareddau hamdden fel ‘ceisio mynd i'r afael â thlodi a rhagfarn’. Roedd yn weithredol mewn llywodraeth leol ac yn llwyddiannus fel cynghorydd yn Stepney, St Pancras a Camden. Fodd bynnag, cafodd ei siomi'n raddol â'r Blaid Lafur. Erbyn diwedd ei oes, roedd bron yn anwleidyddol, er ei fod wastad ar yr asgell chwith. Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch, ac roedd yn ddirprwy gadeirydd Pwyllgor Ynadon Canol Llundain rhwng 1978 a 1981. Roedd hefyd yn rhan o weithgarwch Neuadd Toynbee ac Oriel Gelf Whitechapel.
Roedd Tucker yn ymgyrchydd hirdymor dros hawliau hoywon gyda'i bartner o 35 mlynedd, y beirniad llenyddol A. E. 'Tony' Dyson. Yn benodol, bu'n ymgyrchu dros roi seremoni raddio i’w ffrind, yr offeiriad Catholig hoyw agored Illtud Evans, ar ôl ei farwolaeth. Er bod gan Evans ddawn academaidd ac iddo gael ei dderbyn gan Goleg Dewi Sant fel enillydd Saesneg Bates, cafodd ei ddiarddel am iddo gyfaddef ei fod yn hoyw.
Ceir sylw yn ysgrif goffa Tucker yn The Lampeter Link ei fod yn hollol ffyddlon i Goleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, a'r delfrydau anfesuradwy yr oedd yn sefyll drostynt. Yn ei ragair i hanes swyddogol y sefydliad, cydnabyddai D. T. W. Price y cymorth ac anogaeth a roddwyd iddo gan Tucker. Yn 1994, plannodd Tony Dyson goeden ar gampws Llanbedr Pont Steffan er cof am Tucker. Yna pan fu farw Dyson ym mis Gorffennaf 2002, gadawyd y tŷ yn Hampstead a oedd wedi'i rannu â Tucker i Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Caiff y cwpl eu coffáu gan ddarlithfa, ysgoloriaeth, a chymrodoriaeth barddoniaeth.
Llun: Adeilad Cliff Tucker, Llanbedr Pont Steffan
Ffynonellau
‘Clifford Tucker’ (9 Mehefin 1993). The Times, t. 17. Cyrchwyd o https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/IF0501984878/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=293521db
Price, D. T. W. (1990). A History of Saint David’s University College Lampeter. Volume Two: 1898–1971. Gwasg Prifysgol Cymru
Disgrifiad o ‘Dyson, Anthony Edward, 1928-2002, academic, educationalist, literary critic, gay rights campaigner’, Papers of Tony Dyson and Cliff Tucker, 1934-2002. Llyfrgell Prifysgol Manceinion. ‘GB 133 AED’ ar wefan Archives Hub. Cyrchwyd o: https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb133-aed
P. A. (1994). ‘Appreciations. Clifford Lewis Tucker (1934)’.The Lampeter Link. 47,32–33.