Dick Cole

Richard ‘Dick’ Cole yw arweinydd y blaid Gernywaidd genedlaethol, Mebyon Kernow, ac mae’n un o arweinwyr gwleidyddol Prydain sydd wedi ein gwasanaeth hiraf.

Mae Cole yn Gernywiad drwyddi draw. Ers cenedlaethau, mae ei deulu wedi byw o gwmpas plwyf St Enoder, ychydig o filltiroedd i’r de-ddwyrain o Newquay. Ei hen, hen dad-cu, John Cole, oedd clerc cyntaf St Enoder, yn ystod y 1800au hwyr. Treuliodd Dick Cole ei blentyndod ychydig y tu allan i bentref Indian Queens. Mynychodd Ysgol Gynradd Indian Queens, ac yna Ysgol Treviglas Newquay. Rhwng  1983 a 1988, bu’n gweithio fel labrwr fferm a garddwr ger pentref Summercourt. Ond gwnaeth hefyd basio tri arholiad level A drwy astudio cwrs gohebol.    

O 1988 tan 1991, astudiodd Cole archeoleg a hanes yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llambed. Ar ôl graddio, parhaodd i aros yn Llambed am dair blynedd arall, gan ymgymryd ag ymchwil ôl-raddedig ac ychydig o addysgu. Yn y brifysgol, gwnaeth Cole ymwneud â Phlaid Cymru; ef oedd ysgrifennydd cangen y brifysgol am ychydig o flynyddoedd, a gwnaeth hefyd gymryd rhan yn ei ddadleuon gwleidyddol cyntaf. Hefyd, yn Llambed gwnaeth Cole gwrdd â’i wraig Ann Reynolds, archeolegydd arall; gwnaethant briodi yn Eglwys St Enoder yn 1999. 

Dychwelodd Cole adref i Gernyw yn 1994, gan ymuno ag uned archeolegol Cyngor Sir Cernyw. Cynhyrchodd dros 80 o adroddiadau. Roedd y prosiectau y bu ef yn ymwneud â nhw yn cynnwys cloddio eglwys St Piran, Perranzabuloe, a oedd wedi cael ei hamlyncu gan dwyni tywod; y tir caeëdig Rhufeinig-Gernywaidd yn Killigrew, ger Trispen, a Choleg Glasney ym Mhenryn. 

Ymaelododd Cole â Mebyon Kernow, Plaid Cernyw, yn 1988; a phedair blynedd yn ddiweddarach daeth yn Swyddog y Wasg ac Ymgyrchoedd i’r blaid honno. Cafodd ei ethol yn arweinydd y blaid yn 1997. Sefydlwyd Mebyon Kernow yn 1951 yng Ngwesty dirwest Oates, yn Redruth. Amcanion gwreiddiol y blaid oedd ‘i astudio’r cyflyrau lleol a cheisio gwella unrhyw rai a allai fod yn niweidiol i’r hyn a oedd orau i Gernyw,’ i ‘feithrin yr iaith Gernyweg a llenyddiaeth Cernyw,’  a ‘thrwy adnabod eu hunain, i dderbyn ymhellach y syniad bod gan Gernyw nodweddion Celtaidd a’i bod hi’n un o’r chwe chenedl Geltaidd.’ Mae’r blaid yn ymgyrchu dros gynulliad Celtaidd sydd â phwerau deddfwriaethol, fel rhan o’r broses o unioni’r fantol o ran democratiaeth yn y Deyrnas Unedig.  

Yn 1999, etholwyd Cole yn aelod o gyngor bwrdeistref Restormel, gan gynrychioli plwyf ei gartref, sef St Enoder. Yn ystod y flwyddyn ganlynol, cynhyrchodd y Declaration for a Cornish Assembly; a wnaeth alw am gynulliad Cernywaidd datganoledig a refferendwm ar hunanlywodraeth. Er i fwy na 50 000 o bobl, dros 10% o etholwyr Cernyw, ei harwyddo, cafodd y ddeiseb ei diystyried gan lywodraeth Tony Blair. Meddai Cole ‘gwnaethant ei hanwybyddu. Dyna oedd gwir dristwch yr 20 mlynedd diwethaf ... nid yw’r llywodraeth ganolog yn deall Cernyw fel y mae hi’n deall Cymru a’r Alban... I raddau, daearyddiaeth yw’r rheswm am hyn  - mae’n bell o Lundain ac mae’r Aelodau Seneddol Ceidwadol fel petaent yn gweld bod Cernyw yn lle da iddynt fynd ar eu gwyliau, ond nid ydynt yn ei deall yn fanwl.’    

Cadwodd Cole ei sedd ar Gyngor Bwrdeistref Restormel tan iddo gael ei ddiddymu, gan sefydlu awdurdod unedol newydd, Cyngor Cernyw. Ni chaniateir i gyflogeion awdurdod lleol fod yn aelodau etholedig o’r awdurdod; felly, gorfodwyd iddo ddewis rhwng ei broffesiwn fel archeolegydd a’r rhan yr oedd ef yn ei chwarae yng ngwleidyddiaeth Cernyw.  Gwnaeth ymddiswyddo o Uned Archeolegol Cernyw, ond cafodd ei ethol yn gynghorydd adran St Enoder, gan ennill, yn rhyfedd, 78% o’r bleidlais. Cafodd ei ailethol yn 2013 a 2017; yn 2017 ei fwyafrif o 947 oedd y mwyaf a enillwyd erioed gan unrhyw ymgeisydd yng Nghernyw.  

Yn 2014, cafodd y Cernywiaid eu datgan i fod yn lleiafrif cenedlaethol dan Y Confensiwn Fframwaith ar gyfer Amddiffyn Lleiafrifoedd Cenedlaethol. Felly, gwnaethant ymaelodi fel un o aelodau swyddogol cyrion Celtaidd Prydain, fel y gwnaeth y Cymry, yr Albanwyr a’r Gwyddelod. Mae Cole wedi ymgyrchu dros restru ‘Cernywaidd’ fel cenedligrwydd pendant ar ffurflenni cyfrifiad y DU, gyda’i flwch tic ei hun.  Yng nghyfrifiad 2011, disgrifiodd 73 000 o unigolion Cernyw, neu 14 % o’i phoblogaeth, eu hunain yn Gernywiaid. Dros gyfnod hir, mae Cole wedi ymgyrchu’n uchel yn erbyn newidiadau i etholaethau seneddol sy’n arwain, o bosib, at greu sedd ‘Devonwall’, gan gynnwys tir a geir yn Nyfnaint yn ogystal â Chernyw. Mae wedi ysgrifennu, ‘Mae Cernyw yn genedl hanesyddol gyda’i diwylliant, ei thraddodiadau a’i hiaith ei hun, ond mae’r Cernywiaid yn cael eu hystyried yn lleiafrif cenedlaethol ...Cyflwynais dystiolaeth gerbron y Pwyllgor Biliau Cyhoeddus gan ofyn yn swyddogol bod yr Aelodau Seneddol yn sicrhau bod y ffin Gernywaidd, sydd wedi bodoli am dros fil o flynyddoedd, yn cael ei pharchu ym mhob adolygiad ffin a gynhelir yn y dyfodol, gan sicrhau na chaiff tiriogaethedd Cernyw ei ddiystyried.’  

Cole oedd un o dri awdur Mebyon Kernow and Cornish nationalism, (Gwasg Academaidd Cymru, 2003), yr astudiaeth academaidd gyntaf i ystyried y blaid Mebyon Kernow a’i lle yn y mudiad Cernywaidd ehangach. Mae Cooper yn disgrifio’r gwaith yn destun pwysig i bawb sydd â diddordeb yn hanes y wladwriaeth Brydeinig fodern a chenhedloedd hanesyddol Ewrop. Hefyd, mae’n dweud bod y cyswllt agos sy’n bodoli rhwng awduron y llyfr a’r wleidyddiaeth maent yn ei disgrifio yn un o gryfderau mwyaf y gyfrol.  

Yn 2018, gwnaeth Cole a’i wraig Ann Reynolds gynhyrchu llyfr am y saith deg a thri o ddynion o’u hardal leol a wnaeth farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Wedi ei henwi Trusting fully trusting. Remembering the men of Fraddon, Indian Queens, St Columb Road and Summercourt who lost their lives in the First World War, gwnaeth y gyfrol hon ennill Cwpan Holyer an Gof Gorseth Kernow (am y llyfr ffeithiol Cernywaidd gorau i gael ei gyhoeddi yn 2018). Hefyd, yn 2018, cafodd Cole ei ethol yn fardd Gorsedh Kernow, a rhoddwyd iddo’r enw barddol Gwythyas an Tir, (Gwarcheidwad y Tir).  Gwnaeth hyn  gydnabod ei waith ymgyrchu dros amddiffyn cyfanrwydd daearyddol a diwylliannol Cernyw.  

Mae gan Cole enw da, hyd yn oed ymhlith ei wrthwynebwyr, fel ymgyrchydd diflino dros faterion lleol ac fel Eiriolwr dros y di-rym. Mae wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o ymgyrchoedd a oedd yn ymwneud â thai a chynllunio, gan gynnwys mynnu cael targed tai mwy cynaliadwy, a ffocws cryfach ar ddarparu tai sy’n wir fforddiadwy ar gyfer preswylwyr lleol. Mae wedi ymladd dros ariannu’n deg gwasanaethau cyhoeddus, megis ysbytai ac ysgolion, a dros amddiffyn yr amgylchedd yn well. Mae ef yn bersonol wedi bod yn gyfrifol am dros 40 o geisiadau llwyddiannus am gyllid ar ran grwpiau sydd wedi’u lleoli ym mhlwyf ei gartref, sef St Enoder, gan godi dros £600 000. Meddai ei gydweithiwr Loveday Jenkin amdano: ‘Mae ymrwymiad hirsefydlog Dick i Gernyw a’i phobl yn rhyfeddol. Mae ef wedi bod wrth galon cymaint o ymgyrchoedd, ac mae’n wir syndod ei fod wedi dod o hyd i gymaint o nerth i frwydro dros gymunedau Cernyw, dros gyfnod mor arwyddocaol.’ 

Ffynonellau 

The infectious zest of Dick Cole. (2013, February 20). Cornish Guardian. Adalwyd oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/14496CF4C4C2DF40?p=UKNB 

Mebyon Kernow – the Party for Cornwall. (2019, October 23). Cornwall / Ceredigion links [Facebook post]. Adalwyd oddi wrth https://www.facebook.com/MebyonKernow/photos/cornwall-ceredigion-linksplaid-cymru-mp-ben-lake-will-be-a-guest-at-mebyon-kerno/2535513913195837/ 

Kernow matters. (2020). Dick Cole – politician. Adalwyd ar Fedi 30 2020 oddi wrth https://kernowmatters.wordpress.com/dick-cole-politician/ 

Morris, S. (2012, January 26). Cornish party Mebyon Kernow sees the future in black and white. Guardian. Adalwyd ar Fedi 30 2020 oddi wrth https://www.theguardian.com/uk/2012/jan/26/cornish-party-mebyon-kernow-future 

Dale, H. (2017, October 8). Dick Cole celebrates 20 years as leader of Mebyon Kernow. Adalwyd ar Fedi 30 2020 oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/1676CE647B4C0208?p=UKNB 

Morris, S. (2017, December 26). Westminster failings fuelling Cornish 'crisis of democracy’ - Local political leader Dick Cole warns Cornwall will lose out financially due to Brexit, and accuses London of overlooking social problems in the county. Guardian, p. 12. Adalwyd oddi wrth  https://infoweb.newsbank.com/resources/doc/nb/news/169091DE0A925838?p=UKNB 

Cole, D. (2020, July 29). Dick Cole. Cornish Guardian, p. 21. Adalwyd oddi wrth  https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/17C88C2E160C2E28?p=UKNB 

Whitehouse, R. (2019, December 10). Dick Cole – St Austell and Newquay general election Mebyon Kernow candidate. Adalwyd ar Hydref 1 2020 oddi wrth https://www.cornwalllive.com/news/cornwall-news/dick-cole-st-austell-newquay-3629059 

Cooper, C. (2005). Review: Mebyon Kernow and Cornish nationalism. Twentieth Century British History. 16(2),215-217. https://doi-org.ezproxy.uwtsd.ac.uk/10.1093/tweceb/hwi020 

Cole, D. (2020). Dick Cole. Adalwyd ar Hydref 1 2020 oddi wrth https://www.blogger.com/profile/08887863266989905144

Llun:

Dick Cole gyda Ben Lake, AS Plaid Cymru yn cynrychioli Ceredigion