Mae Helen Wynne Thomas (16 Awst 1966 - 5 Awst 1989) yn cael ei chofio fel merthyr Comin Greenham. Bu farw yno o ganlyniad i'r protestiadau heddwch.

Comin Greenham, ym Merkshire, oedd safle maes awyr yr UD. Ar anterth y Rhyfel Oer, roedd NATO yn bwriadu gosod 96 o deflynnau mordaith a lansir ar y ddaear yno. Byddai bob un o'r taflegrau hyn 16 gwaith yn fwy pwerus na'r bom a ddinistriodd Hiroshima. Ar ddiwedd haf 1981, gorymdeithiodd y grŵp Cymreig ‘Women for Life on Earth’ o Gaerdydd i Gomin Greenham er mwyn protestio.  Sefydlon nhw Wersyll Heddwch Merched yno. Wrth i'r brotest dyfu, sefydlwyd gwersylloedd eraill o amgylch ffens y terfyn allanol. Roedd degau o filoedd o ferched yno'n barod i brotestio yn erbyn rhyfel ac arfau niwclear. Roedd y menywod yn byw mewn amodau sylfaenol iawn ac o dan aflonyddwch parhaus, gyda bygythiad parhaus o ddadfeddiant. Roeddent yn trefnu protestiadau heddychlon parhaus, yn amrywio o addurno a thorri ffens y terfyn allanol i flocio'r ffyrdd. 

Roedd Helen Thomas yn wreiddiol o Gastellnewydd Emlyn. Roedd ei rhieni, John a Janet, yn rhedeg y siopau JDR Thomas a'r Goleudy. Mynychodd Helen Ysgol Dyffryn Teifi ac yna astudiodd hanes yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.  

Teithiodd Helen i India am chwe wythnos, lle cyfarfu â'r Fam Theresa. Ar ôl iddi ddychwelyd, treuliodd amser yn gweithio i'r elusen Cymorth i Ferched Caerdydd ac elusennau amrywiol eraill. Ymunodd hefyd â'r Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear (CND). Ar ddechrau 1989, symudodd i wersyll Yellow Gate yng Nghomin Greenham. Dywedodd ei mam, ‘Roeddent wedi bod yn brin o ferched bryd hynny ac roedd hi am gymryd rhan.' Dywedodd hefyd: 'Ysgrifennodd atom gan ddweud wrthym bod y merched yn anhygoel o ysbrydoledig a sut roedd hi wir am roi o'i hamser yn enw heddwch.’  Fel siaradwr Cymraeg brwdfrydig, cyfieithodd Helen bamffled cyhoeddusrwydd Greenham i'r Gymraeg ac ysbrydolodd nifer o'i chyd-brotestwyr i ymchwilio i wleidyddiaeth genedlaetholgar Cymru. 

Lladdwyd Helen mewn damwain ffordd yn y gwersyll ar ddydd Sadwrn 5 Awst 1989. Cafodd ei tharo gan ddrych ystlys blwch ceffylau heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, wrth iddi sefyll ar y parth diogel, yn aros i groesi ffordd i bostio dau lythyr. Roedd y blwch ceffylau'n mynd â phedwar ceffyl i arddangosfa elusennol yn Chichester. Penderfynodd y cwest yn Llys Ynadon Newbury fod y farwolaeth yn un ddamweiniol. Er i deulu Helen deimlo na chafodd ei marwolaeth ei harchwilio'n llawn, nid oeddent yn gallu ailagor y cwest. 

Helen Thomas memorial Peace Garden at Greenham Common /Gardd heddwch goffa Helen Thomas yng Nghomin Greenham

Wrth i'r Rhyfel Oer ddod i ben, dychwelodd y taflegrau a gweithwyr milwrol America i'r Unol Daleithiau rhwng 1990 a 1992. Caewyd Gwersyll Heddwch y Merched ar 5 Medi 2000.  Agorwyd gardd heddwch yno i'r cyhoedd ddwy flynedd yn ddiweddarach. Mae'n cynnwys gardd syml i Helen, yr unig fenyw y sonnir amdani ar y safle. Mae ei gardd yn cynnwys cylch o saith carreg o chwareli Cymru, o amgylch cerflun fflam tragwyddol. Mae mainc wedi'i chysegru hefyd i gofio Helen. Mae wedi ei lleoli wrth gloc y dref yn ei thref enedigol, Castellnewydd Emlyn. Mae'r canwr gwerin, Dafydd Iwan, wedi ysgrifennu cân o'r enw Cân i Helen, er cof amdani. 

Ffynonellau 

Wales online. (2011). The woman who paid the ultimate price for peace. Cyrchwyd ar 24 Ebrill 2020 o https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/woman-who-paid-ultimate-price-1808843 

Wilkinson, G. (28 Gorffennaf 2010). Friends to remember protestor. Carmarthen journal.  

 Greenham Common Peace Garden. (dim dyddiad) Cyrchwyd ar 24 Ebrill 2020 o: http://greenhamcommonpeacegarden.org.uk/ 

Titcombe, E.E. (2018) Yr ymgyrch yn parhau! (The struggle continues!): An exploration of the narratives from Wales, emerging from the Greenham Common women’s peace camps 1981-2000. (Traethawd ymchwil doethurol, Prifysgol Gorllewin Lloegr Bryste, y Deyrnas Unedig). Cyrchwyd o  https://uwe-repository.worktribe.com/output/866857