Sue Slipman

Sue Slipman oedd llywydd benywaidd cyntaf Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Ers hynny, mae hi wedi dod yn ymgyrchydd profiadol gan weithio mewn amrywiaeth o rolau yn y sector cyhoeddus.

Roedd Slipman yn wyres i fewnfudwyr Iddewig o Rwsia. Dywedodd, ‘Bu’r Holocost yn agos iawn i’m teulu.… roedd digon o aelodau o’r teulu nad oeddent wedi goroesi. Felly, roedd yr ymdeimlad hwn o anghyfiawnder ofnadwy yn rhan ohonof wrth dyfu i fyny.’ Magwyd Slipman a’i dwy chwaer hŷn yn Brixton, De Llundain. Roedd ei thad yn fasnachlongwr, yn werthwr hufen iâ, ac yn yrrwr tacsi, yn ogystal â rhedeg siop pei a stwnsh cosher. Yn drist iawn, bu farw rhieni Slipman pan oedd hi yn ei hugeiniau cynnar.  

Yn gwbl wahanol i Brixton, fe astudiodd Slipman Saesneg yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Pan oedd yn Llanbedr Pont Steffan, ymunodd â’r Blaid Gomiwnyddol. Fodd bynnag, nid oedd ganddi lawer o gyfle i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth myfyrwyr. Dywedodd, ‘Nid oedd llawer o wleidyddiaeth myfyrwyr yn Llanbedr Pont Steffan; ar ôl dosbarthu cant o daflenni, dim ond defaid oedd ar ôl.’ Graddiodd gan ennill gradd dosbarth cyntaf ac yna symudodd i Brifysgol Leeds i ddilyn astudiaethau ôl-raddedig. Dywedodd am ei chyfnod yn Leeds, ‘Roeddwn i fod i astudio llenyddiaeth o’r 18fed ganrif ond, mewn gwirionedd, cafodd ei seilio ar dlodi ymhlith myfyrwyr.’ Gweithiodd fel ysgrifennydd amser llawn Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr am ddwy flynedd ac yna bu’n lywydd o 1977 tan 1978 gan gynrychioli Broad Left. Gan ennill y llysenw ‘Sue Goch’, derbyniodd lawer o sylw yn y wasg. Fodd bynnag, hyd yn oed yn ystod y dyddiau hynny, roedd ganddi fwy o ddiddordeb mewn gwneud i bethau weithio nac mewn sgyrsiau gwleidyddol. Ei blaenoriaeth oedd rhedeg sefydliad mawr a oedd yn trafod â’r Llywodraeth a gydag is-gangellorion. Dywedodd, ‘Roeddwn yn dysgu sut i gadeirio cynadleddau o 2,000 o bobl ac roedd tua thraean ohonynt yn udo am fy ngwaed. Felly, rydych chi’n dod i arfer â rheoli sefyllfaoedd anodd, trafod â gweinidogion, a derbyn llawer o sylw yn y wasg.’ Olynwyd Slipman gan Trevor Phillips; dilynwyd llywydd benywaidd cyntaf Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr gan y llywydd du cyntaf. 

Ar ôl gadael Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, dechreuodd Slipman weithio fel trafodwr i Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Cyhoeddus (NUPE) (sydd bellach yn rhan o UNSAIN). Er gwaethaf gwrthdaro â’r hierarchaeth, llwyddodd i aros yn NUPE o 1979 i 1985. Fodd bynnag, yn 1981 roedd yn un o sylfaenwyr y Blaid Democratiaeth Gymdeithasol (SDP) newydd a ffurfiwyd gan David Owen. Dywedodd, ‘Nod yr SDP oedd ystyried strategaethau effeithiol i wella cyfiawnder cymdeithasol mewn ffordd a oedd yn ddichonadwy yn economaidd.’ Pan unodd yr SDP a’r hen Blaid Ryddfrydol 1990, hi oedd yn un o ychydig iawn o bobl a arhosodd gyda David Owen yn rhan o’r SDP ‘barhaus’.   

Yn 1985, daeth Slipman yn gyfarwyddwr Cyngor Cenedlaethol Teuluoedd Un Rhiant (NCOPF). Trawsnewidiodd grŵp pwysau traddodiadol ei arddull, a oedd â mwy o ddiddordeb mewn ymgyrchu na chanlyniadau yn sefydliad llyfn a dylanwadol â throsiant blynyddol o tua £1 filiwn. Cyflwynodd Slipman dargedau a chynllun busnes. Chwaraeodd NCOPF ran bwysig mewn sicrhau’r Ddeddf Diwygio Cyfraith Teulu a ddileodd y stigma a oedd ynghlwm ag anghyfreithlondeb ac o ran derbyn lwfans gofal plant ar gyfer y teuluoedd a oedd yn derbyn Credyd Teulu. Hefyd, arweiniodd y gwrthsafiad yn erbyn ceisiadau niferus llywodraeth John Major i osod stigma ar rieni sengl. Er, hefyd, llwyddodd Slipman i drafod contract mawr gyda’r un llywodraeth i NCOPF gynnal y cynlluniau hyfforddiant i helpu menywod di-waith yn ôl i’r farchnad lafur. Dywedodd am ei gwaith, ‘Mae rhannau helaeth o’r sector gwirfoddol yn ymdrin â materion gan feddwl y byddai newid llywodraeth yn ateb popeth. Mae’n rhaid cymryd safbwynt hirdymor ac edrych ar y newidiadau cynyddrannol y gellir eu cyflawni.’ 

Pan oedd yn NCOPF, daeth Slipman ei hun yn rhan o deulu rhiant sengl. Ganwyd ei mab, Gideon yn 1987.  

Bu Slipman yn gyfarwyddwr y Cyngor Defnyddwyr Nwy o 1996 i 1998 ac yna daeth yn Gyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol a Chydymffurfiaeth ar gyfer Grŵp Camelot, gweithredwyr y Loteri Genedlaethol. Cynhaliodd archwiliad cymdeithasol a moesegol o’r cwmni i brofi ei ymrwymiad i waith da; hefyd, ffurfiodd banel o arbenigwyr i gynghori ar gyfrifoldeb cymdeithasol. Dywedodd, ‘Pan fydd Llywodraeth nad yw byth yn mynd i drethu a gwario, mae’n rhaid ystyried sut y gellir codi’r uchafswm arian er mwyn cyflawni’r pethau da.’ Hefyd, dywedodd am y rôl hon ‘…fy mryd ar hyd fy ngyrfa yw dwyn sefydliadau i gyfrif, gofyn sut y gallwch chi uno gwerthoedd masnachol mentergarwch a diwydiant â chyfrifoldeb cymdeithasol.’ 

Ochr yn ochr â’i rôl yn Camelot, bu Slipman yn gadeirydd anweithredol Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol am ddwy flynedd o 2003 i 2005. Cyfrifoldeb yr ombwdsmon yw datrys anghydfodau rhwng defnyddwyr a chwmnïau gwasanaethau ariannol. Ar gyfartaledd, mae’n ymdrin â 55,000 o achosion bob blwyddyn. Aeth Slipman ymlaen i weithio i’r Rhwydwaith Ymddiriedolaeth Sefydledig yn cynrychioli ysbytai ymddiriedolaeth sefydledig, (a elwir yn Ddarparwyr y GIG bellach), yn gyntaf fel cyfarwyddwr ac yna fel prif swyddog gweithredol. Ar yr adeg honno, bu wrth ei bodd yn rhan o’r broses gythryblus o newid systemau ym maes iechyd,’ gan weld ei rôl yn gyfle arall i archwilio sut y gellir uno effeithlonrwydd economaidd â ffurfiau newydd o atebolrwydd democrataidd.  

Gadawodd Slipman y Rhwydwaith Ymddiriedolaeth Sefydledig yn 2012. Ers hynny, mae wedi bod yn gyfarwyddwr anweithredol yn Ymddiriedolaeth Sefydledig Ysbyty Coleg y Brenin. Bu hefyd yn ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth Arbedion Cyflogaeth Genedlaethol o 2010 tan 2015.  

Disgrifiwyd Slipman yn ddeinamo â’i thraed ar y ddaear sy’n meddu ar hiwmor amharchus. Mae hi’n unigolyn pragmatig gan deimlo mai ei harddull yw ‘adnabod celfyddyd yr hyn sy’n bosibl a cheisio gweithio gyda’r graen.’ Derbyniodd OBE iddi yn 1994. 

Ffynonellau   

John Fairhall, E. C. (1977, Mawrth 29). The NUS elects a woman president. The Guardian. Cyrchwyd o https://search.proquest.com/docview/185931319?accountid=12799 

Profile: Single mum with attitude: Sue Slipman, one-parent campaigning dynamo. (1994, Mai 21). The Independent. Cyrchwyd ar 28 Gorffennaf 2020 o https://www.independent.co.uk/voices/profile-single-mum-with-attitude-sue-slipman-one-parent-campaigning-dynamo-1437553.html 

Driscoll, M. (2000, Mawrth 5). Heart and soul of the new, caring Camelot - Interview. Sunday Times. p. News Review 8.. Cyrchwyd o https://infoweb.newsbank.com/resources/doc/nb/news/0F92A9BB888B8555?p=UKNB 

Carvel, J. (2005, Hydref 26). Recovery position. The Guardian. Cyrchwyd o https://www.theguardian.com/society/2005/oct/26/health.healthandwellbeing 

Brindle, D. (1999, Ebrill 28). The Guardian: At arm's length: finance: If charities get too chummy with government, is there a danger of losing independence? David Brindle listens to people in the field. The Guardian. Cyrchwyd o https://infoweb.newsbank.com/resources/doc/nb/news/0F26DB97EB5FD8F7?p=UKNB 

Doward, J. (1999, Chwefror 21). The Observer: Business: Still a crusader after all these years: Mammon: Sue Slipman was a union radical. Now she's been drafted by the Lottery. She reckons she can be radical again. The Observer. Cyrchwyd o https://infoweb.newsbank.com/resources/doc/nb/news/0F26D755C1F01849?p=UKNB 

Bedell, G. (1994, Ebrill 3). Profile: A militant moderate: Sue Slipman: The champion of the single parent is in need of a new challenge, says Geraldine Bedell. The Independent on Sunday. Tud. 019.. Cyrchwyd o https://infoweb.newsbank.com/resources/doc/nb/news/131FE8CFE0DA7A08?p=UKNB 

Slipman, S. (2020). Sue Slipman, policy strategist and change leader. [Tudalen LinkedIn]. LinkedIn. Cyrchwyd ar 28 Gorffennaf 2020 o https://www.linkedin.com/in/sue-slipman-b68b18a/ 

NUS connect (2014). Sue Slipman: NUS’ first lady. Cyrchwyd ar 29 Gorffennaf 2020 o https://www.nusconnect.org.uk/articles/sue-slipman-nus-first-lady