Hafan YDDS  -  Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu  -  Casgliadau Arbennig ac Archifau  -  200 bywgraffiad yn Dathlu Daucanmlwyddiant Llambed  -  Yr Eglwys a Bbywyd Crefyddol

Yr Eglwys a Bbywyd Crefyddol

A | B | C | DE | FGHIJ | K |LMNOP | Q | R |ST | U | VW | X | Y | Z

A

Yr Hybarch Archddiacon George Bernard Austin

Roedd George Bernard Austin (1931-2019) yn archddiacon Caerefrog, yn enwog neu'n ddrwg-enwog am ei ymlyniad pybyr wrth draddodiad ac yn ffigwr y byddai newyddiadurwyr bob amser yn troi ato pan fyddai angen dyfyniad.

Darllen Mwy >


B

Y Parchedig Leslie Badham

Gwnaeth Leslie Badham gyfuno gweinidogaeth eglwysig, a oedd yn cynnwys bod yn gaplan i’r Frenhines, â darlledu ar y radio, darlithio ac ysgrifennu.

Darllen Mwy >


Y Gwir Barchedig David Daniel Bartlett

Roedd David Daniel Bartlett (1900-1977) yn aelod o Goleg Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan fel myfyriwr, darlithydd ac yna fel athro. Yna, gwasanaethodd fel Esgob Llanelwy am ugain mlynedd olaf ei fywyd gwaith.

Darllen Mwy >


Y Parchedig Charles Ferdinand Brigstocke

Ganwyd Charles Ferdinand Brigstocke yn 1808 yn Llawhaden, Sir Benfro, a dilynodd ei dad Thomas, ficer Llawhaden, i'r Eglwys. Ar ôl mynychu'r ysgol yn Hwlffordd, aeth i Goleg Dewi Sant yn ugain oed, ac ar ôl graddio yn 1832, cafodd ei benodiad cyntaf ym Mryste.  Dychwelodd i Sir Benfro yn gurad  dan y Parch. Ddr Humphrey yn Ninbych y Pysgod a chafodd ei ordeinio gan Esgob Caerwynt yn 1837. Flwyddyn wedyn, ar argymhelliad y Gymdeithas er Taenu’r Efengyl a chymeradwyaeth Esgob Llundain, penodwyd Brigstocke yn

Darllen Mwy >


Y Gwir Barchedig Edward Harold Browne

Edward Harold Browne (1811-1891) oedd ail Is-bennaeth Coleg Dewi Sant, Llambed, cyn iddo ddod yn Esgob Trelái ac yna, Esgob Caer-wynt.

Darllen Mwy >


Archimandriad Barnabas / Ian Burton

Yr Archimandriad Barnabas (1915-1996) oedd yr offeiriad Uniongred Cymraeg cyntaf ers Sgism Mawr 1054.

Darllen Mwy >


D

Y Parchedig Frederick James Taylor David

Yn ei goflith i Fred David, ysgrifenodd y Pennaeth J.R. Lloyd Thomas am “his devotion of a lifetime to St David’s College and his beloved Church.” Gallai fod hefyd wedi cynnwys ei ymrwymiad i dref Llambed, lle cafodd David ei ethol yn aelod o’r Cyngor Bwrdeistref a lle, am flwyddyn, yr oedd yn uwchgapten. Gyda’i fyfyrwyr yn ei alw’n serchog ‘Dicky Dai’, a phobl y dref yn ei alw’n ‘Professor David’, roedd ef yn hen gyfarwydd â’r coleg fel cyn-fyfyriwr ac fel darlithydd.

Darllen Mwy >


Y Parchedig David Henry Davies

Ganwyd David Henry Davies, neu ‘Ficer Cenarth’ fel yr oedd pawb yn ei adnabod, yn 1828 yn Sir Aberteifi. Un o ddisgynyddion teulu hen a mawr ei barch, ef oedd mab hynaf Daniel Owen Davies, a oedd yn llawfeddyg milwrol gyda 18fed Gatrawd y Troedfilwyr (Y Gwyddelod Brenhinol), a Margaret Coakeley Jenkins. Gwnaeth ei dad ymddeol o’r fyddin yn 1836, gan sefydlu ymarfer meddygaeth a gweithio yn Aberporth, Llanarth a’r Cei Newydd. Yn 1839, gwnaeth Davies ymgofrestru yn Ysgol Ramadeg Llangoedmor, ac yn 1844, cafodd ei brentisio i’w dad. Pedair blynedd wedyn, roedd yn gweithio yn Llundain fel ‘visiting assistant’ gyda’r Meistri Barrow & Nicholson. Ond cafodd dechreuad yr epidemig colera Asiaidd yn 1848-49 effaith fawr iawn ar Davies gan ei argyhoeddi mai gwaith cenhadol oedd ei alwedigaeth. Anfonodd gais at, a chafodd ei dderbyn gan Goleg Cenhadol yr Eglwys yn Islington, ond gwnaeth ei dad ei berswadio bod angen y fath gwaith yng Nghymru.

Darllen Mwy >


Y Canon Ellis Davies

Roedd Ellis Davies (1872-1962) yn hynafiaethydd o Gymru, yn ogystal â chlerigwr.

Darllen Mwy >


Y Gwir Barchedig Roy Thomas Davies

Bu Roy Thomas Davies (1934-2013) yn Esgob Llandaf o 1985 tan 1999.

Darllen Mwy >


E

Y Parchedig Aled Edwards

Aled Edwards yw prif weithredwr Cytûn: Eglwysi ynghyd yng Nghymru, ac mae’n ymgyrchydd dros alltudion.

Darllen Mwy >


Y Parchedig Daniel Silvan Evans

Clerigwr, ysgolhaig a geiriadurwr.

Darllen Mwy >


Yr Esgob Daniel Ivor Evans

O fyfyriwr yn Llanbedr Pont Steffan i Esgob yn Esgobaeth yr Ariannin, Dwyrain De America ac Ynysoedd y Falkland.

Darllen Mwy >


Y Parchedig Iawn Eric Evans

Roedd Eric Evans (1928-1996) yn Ddeon Eglwys Gadeiriol St Paul.

Darllen Mwy >


Dom Illtud Evans

Roedd Dom Illtud Evans (1913-1972) yn offeiriad Catholig, yn llenor, ac yn ddarlledwr adnabyddus.

Darllen Mwy >


Y Parchedig John Silas Evans

Roedd John Silas Evans (1864-1953) yn awdur llyfrau poblogaidd Saesneg a Chymraeg ar seryddiaeth, yn ogystal â bod yn offeiriad.

Darllen Mwy >


F

Y Gwir Barchedig Richard Fenwick

Wedi ei eni yng Nghaerdydd, derbyniodd Richard ei addysg gynnar yn Ysgol Eglwysig Llandaf. Ar ôl methu’r arholiad 11+ yn argyhoeddiadol (!), ymhen hir a hwyr, aeth i Uwchysgol Treganna, ac yna i Lambed, man yr oedd ef bob amser wedi ei hoffi’n frwdfrydig. A dweud y gwir, lawer yn ddiweddarach, gwnaeth wasanaethu am ddeng mlynedd ar Gyngor y Brifysgol. Gwnaeth raddio gyda gradd BA yn 1966.

Darllen Mwy >


Y Parchedig John Fisher

Gweithiodd John Fisher (1862-1930) gyda'r mwy enwog Parch. Sabine Baring Gould ar y gwaith clasurol, Lives of the British saints.

Darllen Mwy >


Yr Hybarch Archddiacon Judy French

Mae Judith Karen "Judy" French (a anwyd ar Dachwedd 18 1960 yn Portsmouth) yn offeiriad Anglicanaidd Prydeinig. Mae hi wedi bod yn Archddiacones Dorchester, yn Esgobaeth Rhydychen, ers 2014.

Darllen Mwy>


G

Yr Archddiacon Alexander Goldwyer Lewis

Dyn lleol a ddaeth yn archddiacon Bombay oedd Alexander Goldwyer Lewis (1849–1904).

Darllen Mwy >


Michael Greed

Chwaraeodd Michael Greed ran yn y broses o gyfieithu’r Beibl i’r Dartareg, iaith a siaredir gan dros bum miliwn o bobl yn y Rwsia Ewropeaidd ac yn Siberia.

Darllen Mwy >


Y Parchedig David Griffith

Ysgolfeistr, curad a dyddiadurwr oedd David Griffith (1841-1910). Mae ei ysgrifeniadau yn ffynhonnell o wybodaeth amhrisiadwy am hanes yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru.

Darllen Mwy >


Leslie Griffiths

Mae Leslie Griffiths yn arglwydd mewn swydd, yn gyn-lywydd y Gynhadledd Fethodistaidd ac yn gyn-weinidog arolygol Capel Wesley, ar ymyl Dinas Llundain.

Darllen Mwy >


H

Y Parchedig Thomas Hassall

Ganed Thomas Hassall yn Coventry yn 1794, yn blentyn hynaf Rowland ac Elizabeth. Roedd ei dad yn bregethwr ac yn aelod o Gymdeithas Genhadol Llundain, ac yn 1796 atebodd eu hapêl am hanner cant o genhadon i hwylio am Tahiti ar y llong genhadol gyntaf i Foroedd y De. Ar 10 Awst 1796, ac yntau ond yn ddwy oed, ymunodd Thomas a'i deulu â’r llong 300-tunnell Duff, a gyrhaeddodd Tahiti ar ôl 208 diwrnod ar y môr.

Darllen Mwy >


Y Gwir Barchedig Christopher Herbert

Esgob Saint Albans o 1995 tan 2009 oedd Christopher William Herbert.

Darllen Mwy >


Yr Hybarch John Holdsworth

Mae John Holdsworth yn ysgolhaig Beiblaidd, yn ddiwinydd ymarferol ac yn gyn-archddiacon esgobaeth Tyddewi a Chyprus a'r Gwlff.

Darllen Mwy >


Yr Esgob Joshua Hughes

Joshua Hughes (1807-1889) oedd esgob Cymraeg cyntaf Llanelwy am bron cant a hanner o flynyddoedd.

Darllen Mwy >


I

Y Parchedig David Lloyd Isaac

Roedd David Lloyd Isaac (1818-1876) yn awdur cynhyrchiol yn ogystal â chlerigwr.

Darllen Mwy >


J

Y Gwir Barchedig Francis John Jayne

Francis John Jayne (1845-1921) oedd ail bennaeth Coleg Dewi Sant, ac ef gwnaeth wasanaethu hiraf fel esgob Caerllion yn hanes yr esgobaeth honno.

Darllen Mwy >


Y Gwir Barchedig Alwyn Rice Jones

Roedd Alwyn Rice Jones (1934-2007) yn archesgob Cymru am wyth mlynedd yn yr 1990au. Yn ystod yr amser hwn, llywiodd yr Eglwys yng Nghymru trwy gyfnod o newid sylweddol.

Darllen Mwy >


Y Parchedig David Thomas Jones

O waith cenhadol yn Anheddiad Red River Canada i Athro Cymraeg yng Ngholeg Dewi Sant.

Darllen Mwy >


Y Parchedig Isaac Jones

Roedd Isaac Jones (1804-1850) yn gyfieithydd gweithiau Saesneg i’r Gymraeg, ac roedd yn gweithio ar adeg pan oedd y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn siarad Cymraeg yn unig.

Darllen Mwy >


Y Parchedig Maldwyn Lloyd Jones

Roedd Maldwyn Lloyd Jones (1917-2014) yn glerigwr Anglicanaidd, yn genhadwr yn Ne America, ac yn gaplan llyngesol. Mae rhai o’r digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag ef yn debyg i’r anturiaethau sydd yn The boys’ own paper.

Darllen Mwy >


Yr Esgob Noel Debroy Jones

Roedd Noël Debroy Jones (1932-2009) yn gymeriad a hanner a ddaeth yn Brif Lyngesydd, ac yna, yn esgob Sodor a Manaw.

Darllen Mwy >


Y Parchedig Mwyaf Reverend Idris Jones

Idris Jones oedd esgob Glasgow a Galloway, a Phrif Esgob (Primus) Eglwys Esgobyddol yr Alban.

Darllen Mwy >


Y Parchedig Canon Maurice Jones

Gwnaeth Maurice Jones (1863-1957) arwain Coleg Dewi Sant, Llambed, am bedair blynedd ar ddeg, a’i achub ar adeg pan oedd cyflwr y coleg i weld yn anobeithiol.

Darllen Mwy >


L

Y Parchedig David Nicholas Lockwood

Roedd David Nicholas Lockwood (1923-2006) yn glerigwr cefn gwlad, yn fardd ac yn fywgraffydd.

Darllen Mwy >


M

Reverend Alfred Augustus Mathews

Chwaraeodd Alfred Augustus (Alf) Mathews (1864-1946) rygbi dros Gymru, pan oedd yn dal yn fyfyriwr yn Llambed.

Darllen Mwy >


Y Canon Stanley Meadows

Dywedwyd am Stanley Meadows (1914-2009) neu ‘Canon Stan’: ‘roedd e’n ddyn nodedig, a wnaeth pethau hynod, mewn cyfnod rhyfedd.’

Darllen Mwy >


Y Parchedig Peter Millam

Peter Millam (1936-2010) oedd Uwch Gaplan Eglwys Gadeiriol Christ Church ar Ynysoedd Falkland. Gwnaeth gyrraedd y tudalennau blaen ledled y byd am ei ymglymiad â’r cwmni hedfan Aerolinas Argentina pan wnaeth awyren a oedd wedi’i herwgipio lanio ar gae rasio Port Stanley.

Darllen Mwy >


Y Parchedig Richard William Morgan

Ganwyd y Parchedig Richard Williams Morgan yn Llangynfelyn, Sir Aberteifi, tua 1815. Yn nai i John Williams, Archddiacon Aberteifi, addysgwyd ef yng Ngholeg Dewi Sant, Llambed. Ef oedd curad Mochdre, Sir Drefaldwyn, am y cyfnod 1842-53. Yn 1842, penodwyd ef yn gurad parhaol Tregynon, Sir Drefaldwyn, swydd y gwnaeth ef ei chadw tan 1862.

Darllen Mwy >


Y Canon Sam 'Patagonia' Morgan

Ganwyd Sam Morgan ym mhentref bychan Pinged ym mhlwyf Pembre a Llandyry mis Gorffennaf 1907. Mynychodd ef Goleg Dewi Sant, Llambed yn 1927, ac fe ordeiniwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi arôl graddio yn 1932. Yn ystod ei gyfnod yn Nhyddewi, bu’n aelod ac yn Ysgrifennydd y Clwb Rhedwyr Traws Gwlad (Harriers), gan ennill ei gap yn 1931.

Darllen Mwy >


Y Gwir Barchedig Alan Wyndham Morgan

Roedd pawb yn adnabod Alan Morgan (1940-2011), Esgob Swffragan Sherwood, fel ‘esgob y meysydd glo’.

Darllen Mwy >


Alfred Edwin Morris

Meddai Alfred Edwin Morris (1894-1971) amdano'i hun, 'Fi oedd y Sais cyntaf i ddod yn archesgob Cymru ac mae'n debyg mai fi fydd yr olaf hefyd.'

Darllen Mwy >


N

Y Gwir Barchedig Moses Nthukah

Moses Masamba Nthukah yw esgob esgobaeth Mbeere, Kenya.

Darllen Mwy >


O

Y Gwir Barchedig Alfred Ollivant

Alfred Ollivant (1798–1882) oedd is-bennaeth cyntaf Coleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan, ac yn ddiweddarach, daeth yn Esgob Llandaf.

Darllen Mwy >


Y Gwir Barchedig John Owen

Roedd John Owen (1854-1926) yn athro Cymraeg yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ac yn ddiweddarach yn brifathro yno. Gadawodd Llanbedr Pont Steffan i ddod yn esgob Tyddewi.

Darllen Mwy >


P

Y Canon Daniel Parry-Jones

Clerigwr ac awdur oedd Daniel Parry-Jones (1891-1981), ac mae'n fwyaf adnabyddus am gofnodi traddodiadau gwlad.

Darllen Mwy >


Y Canon D.T. William Price

David Trevor William Price yw awdur A History of Saint David’s University College Lampeter, sef hanes swyddogol y sefydliad.

Darllen Mwy >


Y Parchedig Howell Prichard

Ganwyd Howell Prichard yn 1805 yn Trallong, Sir Frycheiniog, i'w rieni Howell Prichard ac Elizabeth Powell. Roedd ei dad yn ffermwr ac wedi priodi Elisabeth Powell y flwyddyn flaenorol. Roedd gan Howell ddau frawd a phedair chwaer; Elizabeth, Thomas, Elizabeth, William, Sarah a Rees.

Darllen Mwy >


Henry James Prince

Ganwyd Henry James Prince yn 1811, yn blentyn ieuengaf i blannwr o India'r Gorllewin a fu farw yn fuan ar ôl ei enedigaeth. Magwyd Prince mewn ‘tlodi ffasiynol’ yng Nghaerfaddon, yn derbyn gofal yn bennaf gan Martha Freeman, hen wraig gyfoethog oedd yn ffrind i'w fam ac yn lletywr. Er gwaethaf y gwahaniaeth oedran sylweddol, priododd Prince â Martha yn 1834. I ddechrau, ar ôl penderfynu ar yrfa yn y byd meddygol, daeth Prince yn brentis i lawfeddyg apothecari yn ninas Wells. Yn ddiweddarach symudodd i Lundain, i Ysbyty Guy’s ac Ysgol Anatomeg Stryd Webb, lle cwblhaodd ei hyfforddiant. Yn 1832, cymhwysodd fel Trwyddedai Cymdeithas yr Apothecari, ac fe’i penodwyd yn Swyddog Meddygol Preswyl yn Ysbyty Cyffredinol Caerfaddon, a oedd yn ysbyty mawreddog.

Darllen Mwy >


William Peregrine Propert

Bu William Peregrine Propert yn gysylltiedig ag Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi fel corwr, corwr-ficer lleyg, ac organydd am dros 65 o flynyddoedd.

Darllen Mwy >


R

Y Parchedig Thomas Milville Raven

Roedd Thomas Milville Raven (1827-1896) yn ffotograffydd arloesol, ac yn offeiriad.

Darllen Mwy >


Y Parchedig Arthur Augustus Rees

Roedd Arthur Augustus Rees (1815-1884) yn bregethwr efengylaidd poblogaidd.

Darllen Mwy >


Yr Esgob Timothy Rees

Timothy Rees oedd yr esgob esgobaethol cyntaf yn yr Eglwys yng Nghymru ddatgysylltiedig gyda gradd o Lanbedr Pont Steffan yn unig.

Darllen Mwy >


Y Gwir Barchedig Raymond Renowden

Astudiodd a darlithiodd Charles Raymond Renowden (1923-2000) yn Llanbedr Pont Steffan, yn ogystal â gwasanaethu yn y Corfflu Cudd-wybodaeth a chwrdd â'r Ymerawdwr Hirohito.

Darllen Mwy >


Yr Hybarch Archddiacon Robert Henry Richards

Cafodd Robert ei eni yn Abergwaun, Sir Benfro ar 9 Chwefror 1869. Mynychodd Ysgol Ramadeg Abergwaun cyn ymuno â Choleg Dewi Sant yn 1899, lle enillodd radd ail ddosbarth yn y Clasuron. Bu’n guradur yng Nghasnewydd, Lerpwl a Hoden yn Swydd Efrog gan gwrdd a phriodi â’i wraig Florence Mary yng Nghasnewydd, cyn cael ei wahodd gan yr Archesgob Mercer i fod yn rheithor New Norfolk, Tasmania.

Darllen Mwy >


Y Parchedig John Roberts

Y Parchedig John Roberts (1853-1949) "Rwy'n gobeithio na fyddwch chi'n fy nhynnu oddi wrth fy Indiaid."

Darllen Mwy >


Y Parchedig William John Roxburgh

Cenhadwr i Dde Affrica oedd William John Roxburgh.

Darllen Mwy >


Dr Patricia Rumsey

Mae Patricia Rumsey yn Fam Abades ar gymuned grefyddol fach; ochr yn ochr â hyn, mae'n ysgrifennu ar litwrgi ac ar fynachaeth gynnar.

Darllen Mwy >


Y Gwir Barchedig Herbert Edward Ryle

Herbert Edward Ryle (1856-1925) oedd trydydd pennaeth Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Aeth ymlaen i fod yn esgob Caerwysg ac yna’n esgob Caer-wynt.

Darllen Mwy >


S

Y Parchedig Alexander W. Schapira

Ganed Alexander William (Wilhelm) Schapira, Iddew Rwsiaidd, 1847 i Stephan mab Ichil Moses Schapira, athro Hebraeg a Dora Kritschilsky. Tua 1868 troes yn Gristion a chafodd ei fedyddio yn Kishinev. Ffoes i Brydain i ddianc erledigaeth a chofrestru yng Ngholeg Dewi Sant ar 4 Hydref 1872. Mae Cofrestr y Tiwtoriaid yn cofrestru cofnodion ei fod yn “a converted Jew. Educated as a Rabbi. Clever and indefatigable, found great difficulty in acquiring Classics and passing examinations. After 7 terms accepted by the Church Missionary Society and left the College”.

Darllen Mwy >


Y Parchedig Fred Secombe

Ysgrifennodd Fred Secombe (31 Rhagfyr 1918 - 8 Rhagfyr 2016) ddeg nofel ddigrif, yn seiliedig ar ei brofiad fel clerigwr yn gweithio yn Ne Cymru.

Darllen Mwy >


Y Parchedig Thomas James Stretch

Caplan gyda’r Fyddin a oedd yn bresennol pan ryddhawyd carcharorion gwersyll-garchar Bergen-Belsen

Darllen Mwy >


T

Y Canon David Walter Thomas

Clerigwr Cymraeg oedd David Walter Thomas a fu'n allweddol wrth sefydlu'r Eglwys Anglicanaidd Gymraeg gyntaf yn y Wladfa, Patagonia.

Darllen Mwy >


Y Gwir Barchedig Harry Thomas

Harry Thomas (1897-1955) oedd y dyn cyntaf o Lanbedr Pont Steffan i ddod yn esgob yn Lloegr.

Darllen Mwy >


Yr Hybarch Randolph Thomas

Alfred James Randolph Thomas yw Cadeirydd y Cyngor ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae'n offeiriad yr Eglwys yng Nghymru ac yn gyn-Archddiacon Aberhonddu.

Darllen Mwy >


V

Y Gwir Barchedig Benjamin Vaughan

Roedd Benjamin Noel Young Vaughan (1917-2003) yn esgob am dros 40 o flynyddoedd yn India'r Gorllewin, ac yna yn ôl adref yng Nghymru.

Darllen Mwy >


Y Parchedig Edward Arundel Verity

Roedd Edward Arundel Verity (1822-1910) yn offeiriad plwyf a gafodd ei gyhuddo o ddwyn arian ei eglwys. Roedd hefyd yn gaplan y fyddin a honnodd ei fod wedi gweithio gyda Florence Nightingale. Roedd yn ecsentrig, yn radical ac yn un o offeiriad plwyf mwy lliwgar ei natur.

Darllen Mwy >


W

Y Parchedig John Washington-Jones

Roedd John Washington-Jones (1887-1974) yn glerigwr Anglicanaidd, a oedd yn gweithio fel ficer gyda’r gwladfawyr Cymreig ym Mhatagonia.

Darllen Mwy >


Y Gwir Barchedig David Williams

Text BoxMae bywyd cynnar David William yn enghraifft o bendantrwydd yn wyneb adfyd. Ganwyd ef ym mhlwyf bychan Silian, ger Llambed, yn 1859, a mynychodd ef yr ysgol gynradd Gymraeg leol. Ond, yn dilyn marwolaeth gynnar ei dad, prentisiwyd William i grydd, ac erbyn iddo droi dwy ar bymtheg mlwydd oed, roedd ef yn cynnal ac yn gofalu am ei fam a’i chwiorydd. Roedd ei dad wedi bod yn ddyn addysgedig, a gwnaeth William etifeddu ei hoffter mawr am wybodaeth, gan addysgu iddo ef ei hun Saesneg, Lladin a Groeg. Wrth helpu trefnu Ysgol Sul Gymraeg yn Llambed, daeth ef i sylw’r rheithor, a wnaeth ei annog i fynychu Ysgol Ramadeg Llambed am dri mis er mwyn paratoi ar gyfer yr arholiad a chael ei dderbyn yng Ngholeg Dewi Sant. Llwyddodd basio, gan ennill iddo ef ei hun Arddangosfa (ysgoloriaeth) a gwobrau olynol drwy gydol ei flynyddoedd yn y coleg; gwnaeth ymadael â’r coleg yn 1883, wedi ennill gradd ail ddosbarth yn y clasuron. Aeth ymlaen i astudio yn Rhydychen, gan ennill BA yn 1890 a chwblhau ei MA yn 1901. Ordeiniwyd ef gan Esgob Bangor yn 1885, a dechreuodd yn ei swydd fel curad yn Ffestiniog.

Darllen Mwy >


Y Parchedig John Herbert Williams

John Herbert Williams (1919-2003) oedd y caplan carchar yn gyfrifol am ofal bugeiliol Ruth Ellis, y fenyw ddiwethaf i gael ei chrogi ym Mhrydain.

Darllen Mwy >


Yr Athro Rowland Williams

Rowland Williams (1817-1870) oedd Is-brifathro Coleg Dewi Sant Llambed am ddeuddeg mlynedd. Mae’n enwog, oherwydd dywedwyd mai ef oedd yn gyfrifol am gyflwyno rygbi i Gymru. Mewn cyferbyniad llwyr, cafodd hefyd fynd ar brawf am heresi.

Darllen Mwy >


Y Parchedig Canon Flora Winfield

Flora Winfield yw Ymgynghorydd Cymodi Archesgob Caergaint. Mae’n rhan o uwch dîm Palas Lambeth, ac mae’n arwain gweinidogaeth gymodi Justin Welsby.

Darllen Mwy >