Ganwyd Sam Morgan ym mhentref bychan Pinged ym mhlwyf Pembre a Llandyr ym mis Gorffennaf 1907. Mynychodd ef Goleg Dewi Sant, Llambed yn 1927, ac fe ordeiniwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar ôl graddio yn 1932. Yn ystod ei gyfnod yn Nhyddewi, bu’n aelod ac yn Ysgrifennydd y Clwb Rhedwyr Traws Gwlad (Harriers), gan ennill ei gap yn 1931.
Roedd ei guradiaeth gyntaf ym mhlwyf Llandysul. Bu’r cyfnod hwnnw yn amser arbennig iddo, oherwydd dyna’r man lle gwnaeth ef gwrdd â, a phriodi, ei wraig Babs yn 1935. Gwnaeth hi gefnogi ei weinidogaeth yn ffyddlon, gan wasanaethu ochr yn ochr ag ef am bron 70 o flynyddoedd.
Yn ystod yr un flwyddyn a briododd Sam a Babs, gwnaethant hwylio dros Fôr yr Iwerydd er mwyn ateb y galwad i Sam wasanaethu fel Caplan yr eglwys Anglicanaidd ym Mhatagonia. Gwnaeth ef arwain, drwy gyfrwng y Saesneg a’r Gymraeg, eglwysi yn Llanddewi a Threlew, a oedd wedi’u lleoli yn ardal Chubut. Ganwyd eu merch Doreen yno yn 1936.
Ar ôl treulio saith mlynedd yn gweinidogaethu yn nyfnderoedd Dyffryn Chubut, mor bell â Rio Gallegos yn Ne Patagonia, ac ar draws godrefryniau Mynyddoedd yr Andes, roedd hi’n amser i fynd adref i Sir Aberteifi. Cafodd ei alw wrth ei lysenw “Sam Patagonia” am y tro cyntaf yn ystod y cyfnod hwnnw, a gwnaeth yr enw hwn aros gydag ef drwy gydol ei oes.
Ar ôl taith beryglus wrth ddychwelyd dros Fôr yr Iwerydd yn 1942, pan oedd yr ail Ryfel Byd yn ei anterth, ymsefydlodd Sam a’i deulu eto yng Nghymru. Daeth yn ficer Llanwnnen a Llanwenog, a ganwyd ei fab Gareth yn 1943. O 1964-1978, gwnaeth ef wasanaethu ym mhlwyf Felin-foel, Llanelli.
Hyd yn oed ar ôl ymddeol, parhaodd Sam i fod yn weithgar yn gwasanaethu’r eglwys a’r gymuned tan ychydig o wythnosau cyn iddo farw yn 2005, yn arwain ac yn pregethu mewn gwasanaethau ac yn gwasanaethu’n ddyfal fel Caplan y Burma Star (corff o gyn-filwyr y ddau Ryfel Byd o Lanelli) ac fel Llywydd ei glwb bowlio. Ef hefyd oedd aelod hynaf Cymdeithas Llambed, a byddai ef, yn ddi-ball, yn mynychu’r aduniadau ac yn cynnal y gwasanaethau Cymraeg ar foreau Sadwrn. Mae ei goflith yng nghylchgrawn y gymdeithas yn galw i gof ‘he drove his car until he was well into his 90s. He also continued to smoke, quite liked a drink, and had a robust sense of fun’.
Parhaodd “Sam Patagonia” gadw ei lysenw hyd yn oed ar ôl ei farwolaeth, pan ddaeth ei fab Gareth ar draws dogfen hanesyddol bwysig yn 2015, mewn croglofft yn Lloegr. Awdur yr adroddiad teipiedig am lofruddiaeth tri Chymro ifanc gan Indiaid Tehuelche yn 1884 oedd yr unig oroeswr, John Daniel Evans.
Am fod y Wladfa Gymraeg ym Mhatagonia yn cael ei dathlu fel un o’r gwladfeydd cyntaf yn Ne America lle gwnaeth anheddwyr ddysgu byw gyda’r bobl leol, yn hytrach na’u lladd er mwyn dwyn eu tiroedd, mae’r digwyddiad trasig hwn wedi hir achosi dryswch. Gwnaeth yr adroddiad ddarparu llawer o fewnwelediadau, a darganfuwyd mai’r Canon Morgan ei hun daeth â’r ddogfen hon yn ôl o Batagonia yn 1942.