Roedd Dom Illtud Evans (1913-1972) yn offeiriad Catholig, yn llenor, ac yn ddarlledwr adnabyddus.

Er iddo gael ei eni yn Chelsea, daeth o deulu anghydffurfiol o Gymru. Roedd ei dad, David Spencer Evans, yn bostfeistr; ei fam oedd Catherine née Jones. Enwyd eu mab yn John Alban. Aeth i Ysgol Ramadeg Tywyn yng ngogledd-orllewin Cymru felly cafodd fagwraeth ddwyieithog. Roedd hefyd yn alluog yn academaidd; mynychodd Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1931 fel enillydd gwobr Saesneg Bates. Mae nifer o rifynnau College Magazines yn cynnwys enghreifftiau o’i ysgrifennu cynnar. Roedd hefyd yn aelod o Gymdeithas Eingl-Gatholig Dewi Sant y Coleg. Fodd bynnag, cafodd ei ddiarddel o Goleg Llanbedr Pont Steffan yn 1934 am gyfaddef ei fod yn gyfunrhywiol. Yn ôl cofnodion cyfarfod arbennig a gynhaliwyd gan Fwrdd y Coleg ar 15 Mehefin 1934, 

‘Cyflwynodd y Sensor gyhuddiad yn erbyn J. Alban Evans o geisio annog cyn-fyfyriwr, ar sawl achlysur, i gyflawni gweithred o anfoesoldeb dybryd yng nghyffiniau’r Coleg. Cyfaddefodd Evans ei fod yn euog a chafodd ei ddiarddel o’r Coleg.’ 

Yn ddiweddarach, lansiodd ei gyfaill, Cliff Tucker, ymgyrch i ennill gradd iddo ar ôl ei farwolaeth. 

Ar ôl gadael y Coleg dechreuodd Evans weithio fel newyddiadurwr; defnyddiodd y sgiliau a ddysgodd drwy gydol ei offeiriadaeth. Tua’r adeg hon, trodd at yr Eglwys Gatholig Rufeinig; ymunodd ag Urdd y Dominiciaid yn 1937. Cafodd ei ordeinio’n offeiriad chwe mlynedd yn ddiweddarach gan fabwysiadu’r enw Illtud ar ôl sylfaenydd y fynachlog yn Llanilltud Fawr. Symudodd Evans i Gaergrawnt i ddechrau. Yna, o 1955 i 1958, gwasanaethodd fel prior yn eglwys St Dominic yng ngogledd-orllewin Llundain. Fodd bynnag, roedd yn fwyaf adnabyddus fel ysgrifennwr a darlledwr. Bu’n olygydd adolygiad misol Dominicaidd Blackfriars o 1950 tan 1962; yna, bu’n gyfrifol am ei ail-lansio fel New Blackfriars. Hefyd, cyfrannodd at amrywiaeth o gyhoeddiadau eraill:- Time and Tide, The Tablet (yn aml, gan ddefnyddio’r ffugenw Aldate), The Times, The Times Literary Supplement, Saturday Review The Observer. Roedd yn ysgrifennu am amrywiaeth o bynciau gan gynnwys celf grefyddol, llenyddiaeth, a bywgraffiadau yn ogystal â diwygio’r system gosb. Disgrifiodd ei lyfr, One and Many, (Blackfriars, 1957), Grist yn byw fel Catholig gan droi’r mwyafrif yn un.  

Treuliodd Evans y rhan fwyaf o’r 1960au yn yr Unol Daleithiau. Yn gyntaf, bu’n byw yn Efrog Newydd cyn dod yn Bregethwr-Cyffredinol yn Dominican Provincial House of Studies, Oaklands, California, yn 1966. Yna, bu’n dysgu homileteg a chynhaliodd encilion esgobaethol. Bu hefyd yn olygydd cysylltiol Faith Now.  

Ers dechrau ei offeiriadaeth, roedd gan Evans ddiddordeb penodol mewn popeth a oedd yn gysylltiedig â maes trosedd a chosb; ymwelodd â charchardai a chanolfannau adsefydlu ar draws Prydain. Yn yr Unol Daleithiau, hwn oedd ei brif ddiddordeb. Ymwelodd â nifer o benydfeydd gan lunio adroddiad ar ddull gweithredu’r system barôl ar gyfer William J Kirby Foundation of Washington DC. Anerchodd Gynhadledd Flynyddol Cymdeithas Gystwyol America yn 1961 a chafodd ei benodi’n ddirprwy i Gyngres y Cenhedloedd Unedig ar Atal Troseddu a Dulliau Trin Troseddwyr yn 1961. Ymhlith ei gyhoeddiadau mae erthygl bwysig o’r enw ‘Punishment’ ar gyfer The Catholic Encyclopaedia, cyfrol 11, a gyhoeddwyd yn 1969.   

Hefyd, enillodd enw da am helpu offeiriaid yr oeddent wedi’u cynhyrfu gan y newidiadau a roddwyd ar waith gan Fatican II; yn aml, bu’n ailgymodi grwpiau yr oeddent wedi’u gwahanu gan wahaniaethau o ran traddodiad, hyfforddiant, ac oedran.  

Nid oedd Evans erioed wedi mwynhau iechyd da; dychwelodd i Brydain yn 1970 ar ôl cael strôc. Bu farw yn Athen ar 22 Gorffennaf 1972, yn 59 oed yn unig. Cafodd ei gladdu yn y fynwent Gatholig yn Heraklion. Mae ei bapurau wedi’u cadw yng Nghasgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.   

Ffynonellau 

Father I. Evans. (1972, 2 Awst). Times, 17. Cyrchwyd o https://link.gale.com/apps/doc/CS287930114/TTDA?u=nlw_ttda&sid=TTDA&xid=99a25ad3 

Disgrifiad o 'Dom Illtud Evans, Dom Illtud Evans Papers, 1944-1972. University of Wales Trinity Saint David / Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. GB 1953 DIE' ar wefan Archives Hub, Cyrchwyd ar 8 Medi 2020 o https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb1953-die 

Disgrifiad o 'Dyson, Anthony Edward, 1928-2002, academiceducationalistliterary criticgay rights campaignerPapers of Tony Dyson and Cliff Tucker, 1934-2002. University of Manchester Library. GB 133 AED' ar wefan Archives Hub, Cyrchwyd ar 8 Medi 2020 o https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb133-aed 

Dominican Friars – England & Scotland. (2016). Fr Illtud Evans OP – a Welsh Dominican ConvertCyrchwyd ar 8 Medi 2020 o https://www.english.op.org/latest-news/illtud-evans-a-welsh-dominican-convert 

Martindale, C. (1958). Reviews [Review of the book The one and the many by I. Evans]. Blackfriars,39(454), 35-36. Cyrchwyd ar 9 Medi 2020 o https://www.jstor.org/stable/43815584 

Hislop, I., & Bailey, B. (1972). Illtud Evans—an appreciation. New Blackfriars,53(628), 386-387. Cyrchwyd ar 9 Medi 2020 o https://www.jstor.org/stable/43245809 

Cofnodion Cyfarfod Bwrdd y Coleg. (15 Mehefin 1934). Archifau Coleg Dewi Sant, Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen. (UA/C/1/8)