Mae Patricia Rumsey yn Fam Abades ar gymuned grefyddol fach; ochr yn ochr â hyn, mae'n ysgrifennu ar litwrgi ac ar fynachaeth gynnar.
Ganed Rumsey yn Rugby a mynychodd Ysgol Uwchradd Rugby. Gan deimlo galwad crefyddol, gwnaeth ymrwymiad i leiandy Urdd y Santes Clare (Poor Clares) yng Nghaerefrog, gan gymryd yr enw Sister Francisca. Gwnaeth ei haddunedau cyntaf fel lleian yn 1962, yn wir ar ddiwrnod agoriadol Vatican II. Mae'r ‘Poor Clares’ yn urdd fyfyriol, a sefydlwyd gan y Santes Clare o Assisi (1194-1253) o dan arweiniad ac ysbrydoliaeth Sant Ffransis. Mae bywyd y lleianod yn dal i fod yn seiliedig ar y rheolau a ysgrifennodd y Santes Clare iddi hi ei hun a'i chwiorydd. Er bod arferion wedi amrywio, ystyrir mai’r ‘Poor Clares’ yw un o’r urddau menywod mwyaf syml yn yr Eglwys Gatholig. Mae'r lleianod yn dilyn delfrydau Clare sef gweddi, cymuned, symlrwydd a pharch at yr amgylchedd. Maent wedi ymroi eu bywydau i weddi, penyd, myfyrdod a gwaith corfforol. Maent yn dathlu'r Swyddogaeth Ddwyfol yn rheolaidd drwy gydol y dydd, gan ddod ag anghenion y byd a'r eglwys at Dduw.
Gwnaeth Rumsey gais i astudio ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan ar ddiwedd yr 1990au. Ar y pryd, roedd yn anarferol iawn i aelod o urdd grefyddol gaeedig Gatholig fynychu prifysgol. Nid ar chwarae bach y llwyddodd Rumsey i gael y caniatâd angenrheidiol gan yr awdurdodau eglwysig. Fodd bynnag, roedd yr Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol yn Llanbedr Pont Steffan yn cynnig MA poblogaidd iawn mewn Cristnogaeth Geltaidd, wedi’i addysgu gan arbenigwyr blaenllaw gan gynnwys Jonathan Wooding a Tom O'Loughlin. Dywedodd Rumsey eu bod hwy, ynghyd â'r holl staff Diwinyddiaeth, yn deall ei sefyllfa anarferol ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i hwyluso ei chynnydd. Gwnaeth lawer o ffrindiau da yn Llanbedr Pont Steffan a mwynhaodd rannu ym mywyd y gaplaniaeth ac addoli yn y capel. Ar ôl cwblhau ei Gradd Meistr yn llwyddiannus, aeth ymlaen i astudio am Ddoethuriaeth ac yna am drwydded ôl-ddoethurol, o dan oruchwyliaeth Tom O'Loughlin. Er bod O'Loughlin, meddai, yn mynnu'r safonau uchaf, roedd bob amser yn deg, yn barod i helpu ac yn athro ysbrydoledig.
Teitl Doethuriaeth Rumsey, a gwblhawyd yn 2006, oedd Sacred time in early Christian Ireland: the Nauigatio and the Céli Dé in dialogue to explore the theologies of time and the liturgy of the hours in pre-Viking Ireland. Hwn hefyd oedd llyfr cyntaf Rumsey, a gyhoeddwyd gan T. & T. Clark yn 2007. Trafododd y gwahanol ffyrdd yr oedd dau grŵp mynachaidd Gwyddelig o'r wythfed a'r nawfed ganrif yn deall amser cysegredig. Archwiliodd hefyd y Nauigatio Sancti Brendani dylanwadol, yr wythfed neu'r nawfed ganrif lle'r oedd St Brendan a'i gydymaith yn hwylio i ddarganfod Tír Tairngire, Tir yr Addewid. Dywedodd Mackley, 'Mae gwaith Rumsey yn hynod ddarllenadwy ac mae'n gyfraniad gwerthfawr i astudio'r Nauigatio a'n dealltwriaeth o ddatblygiad Cristnogaeth Wyddelig.'
Yn dilyn hyn, ysgrifennodd Rumsey Women of the church: the religious experience of monastic women, ( Columba Press, 2011). Archwiliodd y ffordd y mae menywod wedi cael eu trin mewn cymunedau crefyddol, gan groniclo profiad menywod mynachaidd drwy holl hanes Cristnogaeth. Roedd yr amserlen yn ymestyn o Famau’r Diffeithwch yn y bedwaredd a'r bumed ganrif i'r dadleuon presennol ynghylch neilltuad. Wrth ysgrifennu yn Church Times, dywedodd Dunstan, 'Mae'r ysgrifennu'n fanwl ac yn ysgolheigaidd, ac eto'n rhugl ac yn wefreiddiol. I unrhyw un sydd â diddordeb mewn menywod crefyddol, mae hwn yn gofnod huawdl.'
Llyfr diweddaraf Rumsey yw Lest she pollute the sanctuary: the influence of 'Protoevangelium Iacobi' on women’s status in Christianity, (Brepols, 2020). Archwiliodd destun apocryffaidd o'r ail ganrif, a gaiff ei gydnabod fel yr ysgrifennu Cristnogol mwyaf dylanwadol nad yw'r rhan fwyaf erioed wedi
clywed amdano. Dywedir bod y testun wedi'i ysgrifennu gan Iago, hanner-brawd neu lys-frawd Iesu, a’i fod yn disgrifio bywyd y Forwyn Fair, hyd at enedigaeth Iesu ac ymweliad y Magi. Dadleuodd Rumsey fod y portread o Mair yn y gwaith hwn, gyda phwyslais eithafol ac afreal ar ei phurdeb, yn fodel na allai pob menyw ei gyrraedd. Yna gwnaeth asesiad o’r ffordd y mae'r darlun hwn wedi dylanwadu ar y canfyddiad Cristnogol o fenywod drwy'r cenedlaethau hyd at yr unfed ganrif ar hugain.
Mae Rumsey yn Ysgolor Gwadd ac yn ddarlithydd rhan-amser yng Ngholeg Diwinyddol Sarum; mae hi hefyd yn athro cyswllt anrhydeddus ym Mhrifysgol Nottingham. Mae'n aelod o'r Gymdeithas Ar gyfer Astudiaeth Litwrgaidd, y Gymdeithas Ddiwinyddol Gatholig, a Chyngor Ffederasiwn ‘Poor Clare’ Prydain Fawr. Mae wedi ysgrifennu llawer o erthyglau ac mae'n aelod o fwrdd golygyddol Studia Traditionis Theologiae: Explorations in Early and Medieval Theology. Ochr yn ochr â hyn, mae'n Fam Abades y gymuned ‘Poor Clare’ yn Arkley, Barnet; ar hyn o bryd mae deg lleian yn rhan o’r gymuned. Pan nad yw'n siarad ac yn ysgrifennu, mae'n coginio ar gyfer y grŵp ac yn gofalu am gi’r lleiandy.
Ffynonellau:
Prifysgol Nottingham 240 , Ionawr 2017 Why study the Second Vatican Council by Francisca Rumsey [Ffeil fideo]. Cyrchwyd ar Mawrth 25 2021 o https://www.youtube.com/watch?v=6zH6a_M0gCQ
Rumsey, T. (2021). Patricia Rumsey Athro Cyswllt Anrhydeddus ym Mhrifysgol Nottingham [tudalen LinkedIn]. LinkedIn Cyrchwyd ar Mawrth 25 2021 o https://www.linkedin.com/in/patricia-rumsey-582b8223/?originalSubdomain=uk
Poor Clare religious order. (2020) Yn Britannica. Cyrchwyd ar Mawrth 25 2021 o https://www.britannica.com/topic/Poor-Clares
Arkely Poor Clares . (d.d.) Arkley Poor Clares. Cyrchwyd ar Mawrth 25 2021 o https://arkleypoorclares.weebly.com/
Mackley, J. (2008). Sacred time in early Christian Ireland. The monks of Nauigatio and the Céli Dé in dialogue to explore the theologies of time and the liturgy of the hours in pre-Viking Ireland. Gan Patricia M. Rumsey. Tt. xiv 258. London – New York : T&T Clark, 2007. £70 10 0 567 03205 1; 13 978 0 567 03205 8. The Journal of Eclesiastical History, 59(4), 734-734. doi:10.1017/S002204690800567813 978 0 567 03205 8.
Weyl Carr, A., a Kazhdan, A. (1991). Protoevangelion of James. Yn The Oxford Dictionary of Byzantium. Cyrchwyd ar Mawrth 25 2021, o https://www-oxfordreference-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/acref/9780195046526.001.0001/acref-9780195046526-e-4546.
Index Theologicus. (d.d.) Lest she pollute the sanctuary: the influence of 'Protoevangelium Iacobi' on women’s status in Christianity. Cyrchwyd ar Mawrth 25 2021 o https://ixtheo.de/Record/1745161074/Description#tabnav
Dunstan, P. (2012, Mai 14). How sisters fared. Church Times. Cyrchwyd ar Mai 25 2021 o https://www.churchtimes.co.uk/articles/2012/18-may/books-arts/book-reviews/how-sisters-fared
Barnet Society . (2020) Barnet’s Poor Clare Nuns plan delayed 50th birthday party in 2021 . Cyrchwyd ar Mawrth 26 2021 o https://www.barnetsociety.org.uk/component/k2/barnet-s-poor-clare-nuns-plan-delayed-50th-birthday-party-in-2021