Henry James Prince

Ganwyd Henry James Prince yn 1811, yn blentyn ieuengaf i blannwr o India'r Gorllewin a fu farw yn fuan ar ôl ei enedigaeth. Magwyd Prince mewn ‘tlodi ffasiynol’ yng Nghaerfaddon, yn derbyn gofal yn bennaf gan Martha Freeman, hen wraig gyfoethog oedd yn ffrind i'w fam ac yn lletywr. Er gwaethaf y gwahaniaeth oedran sylweddol, priododd Prince â Martha yn 1834. I ddechrau, ar ôl penderfynu ar yrfa yn y byd meddygol, daeth Prince yn brentis i lawfeddyg apothecari yn ninas Wells. Yn ddiweddarach symudodd i Lundain, i Ysbyty Guy’s ac Ysgol Anatomeg Stryd Webb, lle cwblhaodd ei hyfforddiant. Yn 1832, cymhwysodd fel Trwyddedai Cymdeithas yr Apothecari, ac fe’i penodwyd yn Swyddog Meddygol Preswyl yn Ysbyty Cyffredinol Caerfaddon, a oedd yn ysbyty mawreddog. 

Fodd bynnag, oherwydd dylanwad Martha a oedd yn Gristion defosiynol, ynghyd ag ysfa Efengylaidd gynyddol yn ei fywyd crefyddol ei hun, penderfynodd Prince gefnu ar feddyginiaeth a throi at weinidogaeth ordeiniedig yr Eglwys Sefydledig. Yn mis Mawrth 1836, derbyniwyd ef i Goleg Dewi Sant, lle profodd ei fod yn fyfyriwr uwch na’r cyffredin, ac o fewn dim, roedd wedi sefydlu ei hun fel arweinydd grŵp o’r enw “y Brodyr o Lanbedr Pont Steffan”.  

Yn 1840, cafodd ei ordeinio gan Esgob Caerfaddon a Wells ar gyfer plwyf gwledig Charlinch (neu Charlynch) ger Bridgwater yng Ngwlad yr Haf. Fodd bynnag, ymhen amser, fe wnaeth Prince rannu'r plwyf trwy gyhoeddi mai dim ond y cyfiawn, a oedd yn tueddu i fod yn fenywaidd a deniadol, y gellid eu derbyn i'r eglwys, gan greu'r hyn a elwir wedyn yn “Ddiwygiad Charlynch”.             

Ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o'i guradiaeth gan yr Esgob, symudodd Prince i blwyf Stoke-by-Clare, Suffolk, gyda chanlyniadau dramatig tebyg. Wedi’i ffieiddio ag Eglwys Loegr, ymbellhaodd Prince a symud i Brighton, lle sefydlodd Gapel Adullam, gan sefydlu ei hun fel pregethwr ffasiynol yn gyflym. Yna symudodd i Ystafelloedd Ymgynnull y Gwesty Brenhinol yn Weymouth, lle datganodd ei hun fel Datguddiad Duw ar y ddaear.      

Yn 1842, bu farw Martha, a gwnaeth Prince sôn am ei hun trwy briodi eto, ychydig fisoedd yn ddiweddarach. Roedd Julia, ei ail wraig, yn chwaer rheithor o fodd annibynnol. Yn 1846, wedi’i ariannu gan ei ddilynwyr benywaidd yn bennaf, adeiladodd Prince “Agapemone”, “Cartref Cariad”, ar safle 200 erw yn Spaxton, yn agos at Charlych. Yma roedd y gymuned, a oedd yn cynnwys menywod dibriod cyfoethog yn bennaf, yn dilyn bywyd crefyddol yn seiliedig ar ddamcaniaethau amrywiaeth o gyfriniaeth ysbrydol Almaenig, ac yn aros am yr Ail Ddyfodiad. Beth bynnag, fe wnaethant barhau i gynhyrchu sibrydion. Cyhoeddodd adroddiad yn yr Illustrated London News"Maent wedi trosi'r capel yn dŷ gwledda, ac wedi cyfnewid gwledda a mwynhad am le preifat i weddïo", ond roedd gwaeth i ddod. Un agwedd ar “sofraniaeth ddwyfol” Prince oedd yr “Ymddangosiad Mawr”, pan ddewisodd Prince, a elwir yn ‘Anwylyd’, forwyn ifanc addas o blith yr Agapemoniaid, a “chymryd ei chnawd â nerth ac awdurdod yr Ysbryd Glân”, ar wely a sefydlwyd gerbron y Bwrdd Sanctaidd yn y capel, a gerbron y gynulleidfa a oedd wedi ymgynnull. 

Yn 1857, gan gredu mai ef oedd Ysbryd Glân Duw, ysgrifennodd Prince The Little Book Open, y datganodd ynddo: 

 “This one man, myself, has Jesus Christ selected and appointed His witness to His counsel and purpose, to conclude the day of grace and to introduce the day of judgement, to close the dispensation of the spirit, and to enter into covenant with the FLESH.”

Er gwaethaf ei honiad mai ef oedd y Meseia, bu farw Prince yn 1899, a chredir ei fod wedi'i gladdu yn sefyll yn unionsyth, o fewn muriau Agapemone. Fodd bynnag, parhaodd ei etifeddiaeth, gydag ôl yr Agapemoniaid yn parhau hyd at y 1960au.

Ffynonellau:

Morgan-Guy, John. (2019). Henry James Prince. The Lampeter student who believed he was God. Llyfryn wedi'i argraffu yn fewnol i gyd-fynd â'r arddangosfa. 

Banerjee, Jacqueline. (2016, 12 Hydref). Henry James Prince and the Agapemonites. The Victorian Web, literature, history & culture in the age of Victoria.   http://www.victorianweb.org/religion/agape.html