Mae Leslie Griffiths yn arglwydd mewn swydd, yn gyn-lywydd y Gynhadledd Fethodistaidd ac yn gyn-weinidog arolygol Capel Wesley, ar ymyl Dinas Llundain.
Ganwyd Griffiths yn 1942 ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin. Roedd ei fagwraeth yn galed. Roedd ei dad Sidney bant ar ddyletswydd lyngesol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a daeth priodas ei rieni i ben gydag ysgariad. Gorfodwyd ei fam, Olwen, i chwilio am waith yn y ffatri dunplat leol. Roedd y gwaith yn galed, ac yn fuan, dirywiodd ei hiechyd. Dim ond y Cymorth Gwladol oedd gan Olwen ar ôl i’w chynnal hi a’r ddau fab. Roedd y teulu yn byw mewn ystafell-benty a leolwyd mewn iard adeiladwyr leol; gwnaeth y bechgyn dderbyn prydau ysgol am ddim drwy gydol eu haddysg orfodol. Meddai Griffiths ‘… term-time saw us well fed … I can still taste and smell the mounting panic as … holidays drew near.’ Gan ddechrau pan oedd yn bymtheg mlwydd oed, gwnaeth Griffiths weithio bob haf: fel postmon, gyda’r Comisiwn Coedwigaeth, yn helpu gwerthwr cynhyrchion cig cyfanwerthol, a llawer llawer mwy.
Er gwaethaf amgylchiadau tlawd ei deulu, gwnaeth Griffiths basio’r arholiad 11+ ac aeth i Ysgol Ramadeg Llanelli (yr unig aelod o’i gymuned i wneud hynny). Er nad oedd y teulu’n grefyddol, anfonid Griffiths i Ysgol Sul Fethodistaidd er mwyn rhoi amser i’w fam wneud ychydig o waith tŷ. Daeth aelodau ei gapel at ei gilydd gan roi arian i brynu ei wisg ysgol, i dalu am wibdeithiau ysgol ac i ddarparu cyfeirlyfrau ar ei gyfer. Medd ef ‘These Methodists became a kind of corporate and surrogate parent.’
Gwnaeth Griffiths ymadael â’r ysgol gyda naw lefel O a thair lefel A. Ymhlith ei gyd-ddisgyblion yn y chweched dosbarth oedd Michael Howard, a fyddai yn y dyfodol yn arweinydd y Blaid Geidwadol. Ond yn wahanol i Howard, ni chafodd Griffiths ei osod yn y Grŵp Rhydgrawnt; dywedodd ei brifathro wrtho na fyddai ef yn gallu ymdopi’n gymdeithasol. Yn lle hynny, astudiodd Griffiths ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, lle ymhlith ei gyfeillion oedd Neil Kinnock, a fyddai yn y dyfodol yn arweinydd y Blaid Lafur. Enillodd Griffiths radd dda. Ar ôl ychydig o amser yng Nghaerdydd fel is-gymrawd ymchwil, penodwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol Saesneg Canoloesol yng Ngholeg Dewi Sant. Mae’n disgrifio ei gyfnod yn Llambed yn amser hapus dros ben. Gwnaeth fynychu capel St Thomas, y capel bach Methodistaidd ar sgwâr y farchnad. Rhoddwyd iddo gyfle i bregethu yno yn rheolaidd ochr yn ochr â derbyn hyfforddiant fel pregethwr lleyg. Datblygodd ei sgiliau bugeiliol; teimlodd alwedigaeth i’r weinidogaeth. Ymadawodd â Llambed yn 1967 er mwyn cael ei hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth Fethodistaidd yn Wesley House, Caergrawnt. Ar yr un pryd, astudiodd am radd M.A. mewn Diwinyddiaeth. Yn 1969, priododd ef â Margaret Rhodes, radiotherapydd ysbyty; aethant ymlaen i gael dau fab a merch.
Treuliodd Griffiths y rhan fwyaf o’r 1970au yn gweithio i’r Eglwys Fethodistaidd yn Haiti, ac yno, cafodd ei ordeinio. Yn 1970, roedd Haiti yn wladwriaeth heddlu o hyd, dan yr unben drwg-enwog, François Duvalier, (PapaDoc). Roedd Griffiths yn gyfrifol am 48 o eglwysi gwasgaredig. Roedd bron pob aelod o’i gynulleidfaoedd yn anllythrennog ac nid oedd yr un ohonynt yn siarad Ffrangeg, iaith swyddogol Haiti. Dysgodd Griffiths i siarad iaith y Creoliaid; dysgodd hefyd i weld y byd datblygol drwy lygaid y bobl gyffredin yn hytrach na drwy lygaid dosbarthiadau gwleidyddol. Ers iddo ddychwelyd i’r DU yn 1980, mae wedi bod yn ymgyrchydd blaenllaw dros Haiti yn y sectorau gwleidyddol a’r sectorau nid er elw. Teitl thesis Griffiths am y radd PhD y dyfarnwyd iddo yn 1987 gan Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd Prifysgol Llundain oedd ‘A history of Methodism in Haiti 1817-1916.’
Gan ddechrau yn 1980, gweithiodd Griffiths ar nifer o gylchdeithiau Methodistaidd yn ninas Llundain ac o’i chwmpas. Bu’n Llywydd y Gynhadledd Fethodistaidd o 1994 tan 1995. Yna, yn 1996, penodwyd ef yn uwcharolygydd Capel Wesley, ‘y fam-eglwys Methodistiaeth fyd-eang.’ Disgrifiodd ei hun yn warcheidwad esgyrn Wesley ac yn gyfrifol am yr Amgueddfa Fethodistiaeth. Ochr yn ochr â hyn, roedd yn ddarlledwr i Radio BBC ac yn cyfrannu at ‘Thought for the Day’, ‘Prayer for the Day’ a Gwasanaeth Dyddiol Radio 4, yn ogystal â ‘Pause for Thought’ ar Radio 2. Yn 2000, daeth yn ganon anrhydeddus yn Eglwys Gadeiriol St Paul. Yna, yn 2004, penododd Tony Blair ef yn Arglwydd am Oes y Blaid Lafur; mabwysiadodd y teitl ‘Lord Leslie Griffiths of Pembrey and Burry Port.’ Disgrifiodd Griffiths y cyfuniad hwn o rolau fel ‘royal flush.’
O’r diwedd, yn 2017, gwnaeth Griffiths ymddeol o weinidogaethu’n weithredol yn yr eglwys Fethodistaidd. Mae’n parhau i fod yn weithredol fel arglwydd mewn swydd. Mae wedi bod yn is-gadeirydd Grŵp Hollbleidiol Seneddol Haiti ers 2010 a Cambodia ers 2011. O 2017 tan 2020, ef oedd Llefarydd yr Wrthblaid (yn Nhŷ’r Arglwyddi) ar faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a hefyd yn Weinidog yr Wrthblaid yng Nghymru. Yn dilyn hyn, cafodd ei ethol yn un o gynrychiolwyr Senedd y DU a oedd yn ymweld â Chynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, lle mae’n gwasanaethu ar y Pwyllgor Ymfudo. Wrth gyfeirio at Dŷ’r Arglwyddi, medd ef, ‘I love it. It’s such a friendly place, and the grand people I’d only previously seen on television turn out to be simple souls and breathing human beings.’
Mae Griffiths wedi ysgrifennu wyth llyfr, gan gynnwys The Aristide Factor (Lion, 1997), bywgraffiad Jean-Bertrand Aristide, llywydd cyntaf Haiti i gael ei ethol yn ddemocrataidd. Ymddangosodd ei hunangofiant ef ei hun, sef View from the Edge (Continuum) yn 2010. Bu Griffiths yn llywydd Brigâd y Bechgyn o 2011 tan 2020; mae’n ymddiriedolwr Premier Christian Radio. Am y deng mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Central Foundation Schools of London, gyda chyfrifoldebau am ddwy ysgol uwchradd canol dinas – y naill ar gyfer bechgyn yn Islington, a’r llall ar gyfer merched yn Tower Hamlets. Mae ganddo nifer o ddoethuriaethau anrhydeddus a chymrodoriaethau mewn colegau. Yn benodol, daeth yn gymrawd anrhydeddus Prifysgol Cymru Llambed yn 2006 ac yn gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2012.
Ffynonellau
Griffiths of Burry Port, Baron, (Rev. Dr Leslie John Griffiths) (born 15 Feb. 1942). Who’s Who & Who Was Who. Adalwyd ar Ionawr 4 2021, oddi wrth https://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540884.001.0001/ww-9780199540884-e-18252.
Griffiths, L. (2020, October 28). I may sit in the House of Lords now, but I know the reality of food poverty. Boris Johnson hasn't got a clue - Seeing Marcus Rashford helping out at a food distribution centre triggered memories of my own childhood – that’s what led me to make my speech in the Lords. The Independent. Adalwyd ar Ionawr 4 2021, oddi wrth https://infoweb.newsbank.com/resources/doc/nb/news/17E6A6E2A068B8F0?p=UKNB
Board man passes water. (2014, June 8). Llanelli Star Series. Adalwyd ar Ionawr 4 2021, oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/14E87323167BBCC0?p=UKNB
Fitzwilliam College University of Cambridge. (2021). Leslie Griffiths. Adalwyd ar Ionawr 4 2021, oddi wrth https://www.fitz.cam.ac.uk/about/history/fitzwilliam-150/fitzwilliam-150-challenging-stereotypes/leslie-griffiths
Griffiths, L. (1999). The struggle for identity: a personal recollection. Political Theology. 1(1),27-41. Adalwyd ar Ionawr 4 2021, oddi wrth https://web.a.ebscohost.com/ehost/pdfviewer/pdfviewer?vid=3&sid=1dded384-0b3c-4ee2-a4a9-a0f1981f02bd%40sessionmgr4007
Griffiths, L. (n.d.) Rev Dr Lord Leslie Griffiths. Adalwyd ar Ionawr 4 2021, oddi wrth https://www.lesliegriffiths.com/about
MacMath, T.H. (2013, April 12). Interview: Leslie Griffiths Methodist minister and life peer. Adalwyd ar Ionawr 4 2021, oddi wrth https://www.churchtimes.co.uk/articles/2013/12-april/features/interviews/interview-leslie-griffiths-methodist-minister-and-life-peer