Chwaraeodd Michael Greed ran yn y broses o gyfieithu’r Beibl i’r Dartareg, iaith a siaredir gan dros bum miliwn o bobl yn y Rwsia Ewropeaidd ac yn Siberia.
Daeth Greed i Goleg Prifysgol Dewi Sant yn 1978 i astudio Saesneg a Diwinyddiaeth. Yn ystod ei gyfnod yn Llambed, bu gyntaf yn drysorydd, ac yna yn ysgrifennydd yr Undeb Gristnogol. Enillodd radd dosbarth 2:1 yn 1981.
Yn 1988, priododd Greed â Teija Vormisto, merch a oedd yn frodorol o Tampere, a leolir yng ngorllewin y Ffindir. Y flwyddyn ganlynol, gwnaeth ef a Teija ymuno â Chyfieithwyr Beibl Wycliffe. Cawsant eu trosglwyddo’n fuan i SIL International, sefydliad partner Wycliffe. Mae SIL yn diffinio ei hun fel ‘global, faith-based nonprofit [organization] that works with local communities around the world to develop language solutions that expand possibilities for a better life. SIL studies, develops and documents languages, particularly lesser-known languages. It aims to expand linguistic knowledge, promote literacy and translate the Bible into people’s ‘heart language.’ Gall gweithgareddau SIL gynnwys asesu a dogfennu ieithoedd, ynghyd â llythrennedd ac addysg, a darparu adnoddau iechyd a datblygu cymunedau. Mae rhai o’r grwpiau iaith yn fach iawn; yn ddiweddar, er enghraifft, rhestrwyd yr iaith Orok, gyda 47 o siaradwyr yn unig, a’r iaith Ket gyda dim ond 210 o siaradwyr.
Yn 1991, symudodd Michael, Teija a’u merch fach chwe mis oed i Leningrad, (St Petersburg bellach). Yna, ddwy flynedd yn ddiweddarach, gwnaethant symud eto i Kazan sydd yng nghanol Rwsia (erbyn hyn gyda mab bach yn ogystal â merch). Eu bwriad oedd dysgu Tartareg er mwyn iddynt fod yn gallu cymryd rhan yn y prosiect i gyfieithu’r Beibl i’r iaith honno. Wedi’i lleoli yn agos i gydlifiad yr afonydd Volga a Kazanka, Kazan yw prifddinas gweriniaeth Rwsiaidd Tatarstan. Mae cyfansoddiad Tatarstan yn ei diffinio’n weriniaeth amlhiliol; mae ganddi ddwy iaith swyddogol, Rwseg a Thartareg. Y grwpiau ethnig mwyaf yw’r Tartariaid (sy’n bobl Dyrcig) a’r Rwsiaid. Mae’r wyddor a ddefnyddir ar gyfer Tartareg wedi amrywio dros y blynyddoedd. Yn 1927, dechreuwyd i ddefnyddio’r wyddor Ladin yn swyddogol ar gyfer y Dartareg yn hytrach na’r wyddor Arabeg. Ond ar ddiwedd y 1930au, cafodd lle’r wyddor Ladin ei gymryd gan yr wyddor Syrilig. Yn fwy diweddar, sbardunodd perestroika ymdrech weithredol i atgyfodi hunaniaeth genedlaethol, diwylliant ac iaith y Tartariaid.
Roedd rhai rhannau o’r Beibl wedi cael eu cyfieithu i’r Dartareg yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif gynnar. Ond ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd, gwnaeth yr Institute of Bible Translation, SIL International a’r Cymdeithasau Beibl Unedig greu tîm i gyfieithu’r Beibl cyfan i’r Dartareg, gan weithio ar yr Hen Destament a’r Testament Newydd ar yr un pryd. Cyhoeddwyd yr Incil (Y Testament Newydd) yn 2001; argraffwyd copïau cyntaf y Beibl cyfan, sef yr Izge Yazma, yn 2016. Mae Greed wedi ysgrifennu ar sut y gwnaeth cyfieithu testunau hynafol i’r Dartareg gyfoethogi’r iaith honno a’i chapasiti. Mae’r Beibl yn cynnwys ysgrifeniadau sy’n cynrychioli amrywiaeth eang o genres llenyddol; roedd rhai ohonynt, er enghraifft barddoniaeth Hebraeg, gyda’i chyffelybiaeth nodedig, yn anghyfarwydd yn y Dartareg. Roedd y Beibl Tartareg yn cynnwys nifer o eiriau, cysyniadau ac ymadroddion newydd (er enghraifft, ‘imandaş’ sydd ganddo’r ystyr ‘cyd -gredwr’. Ystyr ‘iman’ yw ‘ffydd’, ac mae ‘daş’ yn cyfleu ‘profiad a rennir’). Meddai adolygydd academaidd fod yr Izge Yazma wedi ehangu gallu’r iaith Dartareg i gyfleu amrywiaeth o dermau a chysyniadau, yn ogystal â chyfrannu at esblygiad ei statws llenyddol.
Yn 2000, symudodd Greed yn ôl i St Petersburg i fod yn Gyfarwyddwr Cysylltiol SIL International yn y gwladwriaethau ôl-Sofietaidd. Erbyn hyn, roedd ef wedi gallu hyfforddi rhai o’i gydweithwyr Tartaraidd er mwyn iddynt barhau i gyfieithu’r Beibl. Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth ymglymiad uniongyrchol Greed i ben, ac felly, yn 2003, gwnaeth ef a Teija symud i Lahti, yn ne’r Ffindir. O 2008 tan 2013, bu’n gyfarwyddwr SIL ar gyfer gwaith a gynhaliwyd yn y gwladwriaethau ôl-Sofietaidd. Yna, treuliodd dair blynedd yn astudio am radd MA mewn Arweinyddiaeth Fyd-eang ym Mhrifysgol Caerloyw. Ers 2016, mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu i SIL International yn Ewrasia. Mae ei rôl yn golygu goruchwylio cyfathrebiadau SIL, o Anialwch y Sahara i Siberia.
Ffynonellau
Williams, N. (2020/21). Nevil Williams’s experience in the late 1970s: 1977-1980. The Link, 77,26. Adalwyd ar Chwefror 1 2021 oddi wrth https://www.uwtsd.ac.uk/media/uwtsd-website/content-assets/documents/alumni/lampeter-society/the-link--winter-2020-2021.pdf
SIL (2020). SIL. Adalwyd ar Chwefror 1 2021 oddi wrth https://www.sil.org/
Veinguer, A.A. & Davis, H.H. (2007). Building a Tatar elite: language and national schooling in Kazan. Ethnicities, 7(2),186-207. https://doi.org/10.1177/1468796807076840
SIL in Eurasia. (2021). A brief history of Tatar Bible translation. Adalwyd ar Chwefror 1 2021 oddi wrth https://eurasia.sil.org/language/translation/the_tatar_bible/a_brief_history_of_tatar_bible_translation
Greed, M. (2018). The translation of the Bible into Tatar enriches the Tatar language. Adalwyd ar Chwefror 1 2021 oddi wrth https://eurasia.sil.org/about/news/translation-bible-tatar-enriches-tatar-language
Domagala, M. & Greed, M. (2019). The voice of God speaking to Siberian hearts. Adalwyd ar Chwefror 1 2021 oddi wrth http://www.missionfrontiers.org/pdfs/MF40-5_Sept-Oct_19-21_voice_of_God.pdf
Llun:
© Philippe Gueissaz