Cenhadwr i Dde Affrica oedd William John Roxburgh.
Ganwyd yn Annan, tua phymtheng milltir i’r de-ddwyrain o Dumfries. Alexander Roxburgh a’i wraig Agnes, Steel gynt, oedd ei rieni. Cafodd ei addysg yn Ysgol Derby. Ym 1885, priododd ei chwaer, Janie, â Hugh Walker, darlithydd Saesneg yng Ngholeg Dewi Sant. Roedd Johnny hefyd yn aelod yn Llanbedr Pont Steffan, lle roedd yn uwch ysgolhaig ac ysgolor diwinyddol. Yn ogystal ag astudio, chwaraeodd i'r timau criced a thennis lawnt. Yn ddiweddarach, aeth i Goleg y Drindod, Rhydychen. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn esgobaeth Caer ym 1890 ac yn offeiriad ym 1891.
Aeth ymlaen i genhadaeth Coleg y Drindod yn Stratford yn nwyrain Llundain. Roedd ficer yn Eglwys Sant Ioan wedi codi eglwys newydd yn Heol Dinbych y Pysgod, a chymerodd Coleg y Drindod y genhadaeth drosodd ym 1888. Roedd yr adeiladau yn cynnwys eglwys o frics coch a neuadd fawr gyda thŷ wrth ei ochr. Ar y llawr gwaelod roedd swyddfa, ac uwchben y swyddfa hon roedd ystafell clwb gyda bwrdd biliards. Roedd Roxburgh a chydweithiwr yn byw ar lawr uchel. Tai wedi eu gosod fel tenementau oedd o amgylch, gyda theuluoedd gwahanol yn preswylio mewn un neu ddwy ystafell yr un. Bob ychydig funudau, roedd yr adeilad yn ysgwyd gan sŵn y trenau.
Disgrifiwyd Roxburgh ar y pryd fel hyn: ‘Roedd Roxburgh y dyn mwyaf cyfeillgar y gellir ei adnabod, a dyn hyblyg dros ben. Mewn mater o bum munud gallai weddu gydag unrhyw gymdeithas, ac yn yr un modd, ni fyddai angen mwy o amser arno i wneud ffrind agos. Roedd yn byw pob munud o’i fywyd fel petai’r funud honno oedd yr unig un o bwys, ac roedd yn trin pawb a gwrddai fel petai nhw, a nhw yn unig oedd yn bwysig.. Gallai bregethu neu ddarlithio ar fyr-rybudd ac ar unrhyw bwnc, ac roedd ei ddarlithoedd yn ddiddorol, weithiau'n wych. Wedi dweud hynny, nid oedd hi'n bosib dibynnu ar ei ffeithiau, gan fod ei ddychymyg yn ei alluogi i lenwi blychau ei ddiffyg gwybodaeth.’
Byddai'n brysio allan i’r stryd yn y nos i atal ymladd – roedd yn ddigon dewr i ymyrryd mewn anghydfod priodasol pan oedd dau bartner yn feddw. I'r gwrthwyneb, byddai'n fodlon eistedd drwy'r nos gyda chlaf yn marw. Dilynodd ffordd o fyw Spartan – roedd yn hoff o gael bath dŵr oer, ac roedd yn byw yn bennaf ar goco, bara a marmalêd.
Gadawodd Roxburgh Llundain i wasanaethu fel cenhadwr yn safle genhadol Santes Augustine, yn Penhalonga ger Umtali yn Mashonaland (Simbabwe bellach). Aeth yno gyda grŵp bach o leygwyr o esgobaeth Caerlwytgoed. Fe wnaethant sefydlu ysgol hyfforddi ddiwydiannol, ac agorodd ym 1899. Ym 1904, disgrifiodd William Gaul, esgob Mashonaland, y genhadaeth hon gyda’r tri offeiriad, dau leygwr, a chant o fechgyn a dynion o Affrica. Roedd y bechgyn a’r dynion wedi adeiladu ysgoldy mawr o frics coch. Oherwydd dylanwad Roxburgh daeth llawer o genhadon eraill i Mashonaland. Ym 1901, dechreuodd Arthur Cripps, cyd-fyfyriwr i Roxburgh yng Ngholeg Y Drindod, ei wasanaeth cenhadol ym Mashonaland. Ym 1903, cyrhaeddodd Harry Buck, ffrind arall o’r Drindod ym Mhenhalonga. Yn Llanbedr Pont Steffan, fe redodd Janie Walker, chwaer Roxburgh, gangen o Gymdeithas Genhadol Mashonaland. Aeth dau o athrawon Coleg Dewi Sant, sef John Wright Davies a G.E.P. Broderick, yno i fod yn genhadon.
Ym 1904, dychwelodd Roxburgh i Brydain oherwydd anabledd. Daeth yn giwrad Eglwys Sant Philip ym Mirmingham (Eglwys Gadeiriol Birmingham o 1905 ymlaen). Dechreuodd y ‘Birmingham Street Boys’ Union’ yn stryd Suffolk, gyda'r bwriad o geisio helpu’r bechgyn papur newydd a stryd fasnachwyr y ddinas. Roedd y bechgyn yn bennaf yn dod o gartrefi tlawd iawn – roeddent yn gwerthu papurau newydd neu'n gweithio mewn diwydiannau cartref gyda chyflog bach oherwydd bod eu rhieni yn ddi-waith. Parhaodd i gefnogi cenhadaeth Mashonaland, ac ym 1905, dychwelodd i Lanbedr Pont Steffan i roi darlith llusern er mwyn codi arian.
Ym 1906, priododd Roxburgh â’r weddw Mary Louisa Lauria yn Eglwys San Sior, Bloomsbury. Daeth yn ficer ‘All Saints’, yn Kings Heath y flwyddyn ganlynol. Symudodd am y tro olaf yn ôl i Affrica ym 1913, a'r tro hwn aeth i gyrion Johannesburg fel ficer yn Yeoville. Ag yntau wedi ymlâdd yn llwyr, bu farw yno ar 6 Medi 1919. Mae ffenestr wydr lliw wedi’i chysegru i Roxburgh a’i wraig yn ei eglwys yn King’s Heath.
Ffynonellau
The Rev. W.J. Roxburgh (1919, September 8). The Times. Cyrchwyd 12 Chwefror 2021 o https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS235736360/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=0399e58c
William John Roxburgh Priest (1919, September 12). Church Times. Cyrchwyd 12 Chwefror 2021 o https://www.ukpressonline.co.uk/ukpressonline/view/pagview/ChTm_1919_09_12_235
West Ham: philanthropic institutions (1973). In: W.R. Powell (ed.) A History of the County of Essex. Vol. 6 (pp. 141-144). Cyrchwyd 12 Chwefror 2021 o https://www.british-history.ac.uk/vch/essex/vol6/pp141-144
Smith, H. Maynard (1926). Frank, Bishop of Zanzibar. Cyrchwyd 12 Chwefror 2021 o http://anglicanhistory.org/weston/frank1.html
House of Training for Women Missionaries, Upton Park. (1904, April 29). Church Times. Cyrchwyd 12 Chwefror 2021 o https://www.ukpressonline.co.uk/ukpressonline/view/pagview/ChTm_1904_04_29_567
Welch, P. (2008). Church and Settler in Colonial Zimbabwe: a Study in the History of the Anglican Diocese of Mashonaland/Southern Rhodesia, 1890-1925. Cyrchwyd 15 Chwefror 2021 o https://ebookcentral.proquest.com/lib/aber/reader.action?docID=468507#
Dargue, W. (2011-16). A history of Birmingham churches from A to Y. Kings Heath All Saints. Cyrchwyd 15 Chwefror 2021 o https://ahistoryofbirminghamchurches.jimdofree.com/kings-norton-st-nicolas/all-saints-kings-heath/ (Gweler hefyd: https://billdargue.jimdofree.com/placenames-gazetteer-a-to-y/places-k/kings-heath/)
Roxburgh, A.J. (1906). The school mission. The Bromsgrovian, N.S. 20(3),75-76. Cyrchwyd 15 Chwefror 2021 o http://www.bromsgrove-schoolarchive.co.uk/Filename.ashx?tableName=ta_publications&columnName=filename&recordId=122
Ecclesiastical intelligence. (1907, October 14). Times. Cyrchwyd 15 Chwefror 2021 o https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS151844174/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=a94f75c8