Bu William Peregrine Propert yn gysylltiedig ag Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi fel corwr, corwr-ficer lleyg, ac organydd am dros 65 o flynyddoedd.

Ganwyd Propert ar 24 Chwefror 1831 yn Hubberston. Y capten David Propert, yr harbwr feistr yn Aberdaugleddau oedd ei dad, ac Anne Peregrine oedd ei fam. Mynychodd Ysgol y Gadeirlan yn Nhŷ Ddewi. Yn blentyn, roedd ganddo lais trebl pur, yn canu anthemau’r gwasanaethau fel unawdydd. Dysgodd chwarae’r organ hefyd. Symudodd i Lanbedr Pont Steffan yn gyntaf. Ysgolhaig Bates ac organydd y coleg ydoedd, a chipiodd ddwy wobr yn 1849. Roedd hefyd yn ganolog mewn grŵp bach a oedd yn cwrdd bob wythnos i astudio cerddoriaeth. 

Yn 1851, penodwyd Propert yn Ficer-Lleyg Iau ac Organydd Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi, a bu yn y swydd tan 1871. Fodd bynnag, llwyddodd i astudio ochr yn ochr gyda’r swydd. Ef oedd y myfyriwr cyntaf i ennill gradd gyfunol yn y Celfyddydau a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen. Aeth ymlaen i astudio diwinyddiaeth, y clasuron, y gyfraith a mathemateg yn ogystal â cherddoriaeth yng Nghaergrawnt. Priododd Emily Mortimer yn 1859. Roedd ganddynt ddau fab, M.D. Propert, a oedd yn swyddog i'r Bwrdd Llywodraeth Leol, a Peregrine Sydney Goldwin, a oedd yn ficer yn Llundain. 

St David's Cathedral

Eglwys Gadeiriol TŶ Ddewi, lle roedd Proppert yn organydd 

Gan Nilfanion - Wikimedia UK, CC BY-SA 4.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=47733084 

Bu Propert yn organydd yn Nhŷ Ddewi tan 1883, ac yna'n ficer-lleyg corawl. Ni chafodd yr organ ei defnyddio, fodd bynnag, rhwng 1864 a 1883. Roedd yn ymddangos bod digon o amser gan Propert ar gyfer ei doreth o ddiddordebau eraill. Ymysg ei ffrindiau, roedd y cyfansoddwyr Thomas Attwood Walmisley, Sebastian Wesley, Syr George Elvey a Dr Corfe.  

Mewn galwedigaeth arall, daeth yn aelod o’r Deml Fewnol, ac yn 1873 dilynodd radd Meistr y Gyfraith yng Nghaergrawnt. Cafodd alwad i’r Bar yn 1873 a chymerodd ei ddoethuriaeth yn y Gyfraith yn 1878. Er na wnaeth ymarfer y gyfraith, enillodd enw da iddo ef ei hun ar draws de Cymru fel cynghorwr cyfreithiol. Dewiswyd ef gan Lywodraeth Japan i fod yn diwtor i ddau fyfyriwr ifanc a anfonwyd i Brydain i gael eu hyfforddi yng nghyfraith Lloegr a chyfraith Rufeinig. Roedd yn aelod o’r Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol, a bu’n gwneud cyfres o arsylwadau meteoregol yn Nhŷ Ddewi. Cafodd y rhain eu cyhoeddi, a datganwyd eu bod o werth cenedlaethol. Roedd yn aelod o’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, ochr yn ochr â diddordebau mewn botaneg, daeareg, ac entomoleg. 

Bu farw Propert ar 3 Hydref, 1906 yn ei gartref, Tŷ’r Manor, yn Nhŷ Ddewi.    

Ffynonellau 

Musical Times. (1906, Tachwedd 1). We regret to record the death … Musical Times. Cyrchwyd o  https://search-proquest-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/docview/7443365?rfr_id=info%3Axri%2Fsid%3Aprimo&imgSeq=3 

The Times. (1906, Hydref 5). Obituary. The Times. 5 October 1906. Cyrchwyd o  https://go-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/ps/retrieve.do?tabID=Newspapers&resultListType=RESULT_LIST&searchResultsType=SingleTab&searchType=AdvancedSearchForm&currentPosition=129&docId=GALE%7CCS151450437&docType=Obituary&sort=Pub+Date+Forward+Chron&contentSegment=ZTMA-MOD1&prodId=TTDA&contentSet=GALE%7CCS151450437&searchId=R3&userGroupName=walamp&inPS=true&ps=7&cp=129  

Price, D.T.W. (1990). A history of Saint David’s College Lampeter. Volume two: 1898-1971.  University of Wales Press 

Weekly mail. (1906, Hydref 6). Death of Dr Propert. Weekly mail. 6 Hydref 1906. Cyrchwyd o  https://newspapers.library.wales/view/3378461/3378467/119/ 

Ancestry. Cyrchwyd 22 Mai 2020, https://www.ancestrylibraryedition.co.uk/search/

[Untitled article] (1965). The Bulletin of the Lampeter Society, 18, 8 

Death of W.P. Propert (1906, Hydref 4). Western Mail. Cyrchwyd 10 Medi o https://www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0000104/19061004/144/0005