Clerigwr Cymraeg oedd David Walter Thomas a fu'n allweddol wrth sefydlu'r Eglwys Anglicanaidd Gymraeg gyntaf yn y Wladfa, Patagonia.

Ac yntau wedi’i eni ar 26 Hydref 1829, yn fab hynaf i Evan a Margaret o Gellan, Llanbedr Pont Steffan,  addysgwyd Thomas yn y Mwmbwls, Abertawe ac yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.   Aeth yn ei flaen i Goleg yr Iesu, Rhydychen yn 1847, lle enillodd radd trydydd dosbarth Baglor yn y Celfyddydau yn y Clasuron yn 1851, ac MA yn 1854.

Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1852 gan Esgob Rhydychen, Samuel Wilberforce (mab William Wilberforce – yr AS enwog a fu’n arwain y mudiad gwrth-gaethwasiaeth). Fe’i ordeiniwyd yn offeiriad y flwyddyn ganlynol gan Esgob Bangor, Christopher Bethell.  

Roedd ei swyddi eglwysig cyntaf fel curad Denio a Llanor ger Pwllheli, Gwynedd (1853) ac yna fel caplan Tremadog ger Porthmadog (1854-1855). Yna daeth yn gurad parhaol Penmachno cyn ei benodi yn 1860 yn ficer eglwys y Santes Ann, Mynydd Llandegai ger Bangor, lle bu’n gwasanaethu am 34 mlynedd.

All Saints Church, Braunston / Eglwys yr Holl Saint, Braunston

Llun: Eglwys yr Holl Saint, Braunston

https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Braunston-All_Saints_Church_-_geograph.org.uk_-_842683.jpg © Ian Rob / Braunston-All Saints Church

Yn ystod y cyfnod hwn, daeth Thomas yn ffigwr pwysig wrth hyrwyddo sefydlu Eglwys Anglicanaidd Gymraeg ym Mhatagonia, lle roedd grŵp o ymsefydlwyr o Gymru wedi cyrraedd yn ddiweddar.  Y Parchedig Hugh Davies, un o blwyfolion Thomas, oedd y gweinidog Anglicanaidd cyntaf i cyrraedd Patagonia yn 1883. Gyda chefnogaeth Thomas, roedd Davies yn gyfrifol am adeiladu Eglwys Llanddewi, Dolafon, a agorodd yn 1891.  

Priododd ag Anna Thomas yn 1871, a chawsant ddau fab a thair merch.  Roedd Anna hefyd yn hynod falch o’i hetifeddiaeth Gymreig a bu’n weithgar yn yr ymdrechion i ddiwygio’r Eisteddfod Genedlaethol yn y 1870au a’r 1880au.  Daeth eu mab Evan hefyd yn glerigwr, a gwasanaethodd fel Athro yn y Gymraeg  yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan rhwng 1903 a 1915.

Yna treuliodd Thomas flwyddyn fel ficer yn Braunston, swydd Northampton cyn symud i wasanaethu fel ficer yng Nghaergybi, Môn yn 1895. Fe’i penodwyd hefyd yn ganon Bangor.

Ac yntau’n Gymro gwladgarol, cyhoeddodd Thomas yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan gynnwys casgliad o bregethau ar wyrthiau’r Iesu.  Roedd yn eiriolwr cyson i’r wasg eglwysig Gymreig, a gwasanaethodd fel golygydd y cyfnodolyn Cymraeg misol Amddiffynydd yr Eglwys.

Bu farw Thomas ar 27 Rhagfyr, 1905 ac mae wedi’i gladdu ym mynwent eglwys Sant Seiriol yng Nghaergybi, Môn.

Ffynonellau:

Butler, B. (2016, Tachwedd 20). How did historic Gwynedd church bell end up in South America? Northwales. Ar gael o: https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/how-historic-church-bell-gwynedd-12169027

Cox, P. (2015, Hydref 10). David Walter Thomas (1829-1905)—Find A Grave... Ar gael o: https://www.findagrave.com/memorial/153534413/david-walter-thomas

Ellis, T. I. (1959). THOMAS, DAVID WALTER (1829—1905), cleric. Dictionary of Welsh Biography. Ar gael o: https://biography.wales/article/s-THOM-WAL-1829#?c=0&m=0&s=0&cv=15&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4974950%2Fmanifest.json&xywh=425%2C731%2C1242%2C801

Evan Thomas (priest). (2020). Yn Wikipedia. Ar gael o: https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Evan_Thomas_(priest)&oldid=938710406

Howat, J. (2003, Tachwedd). Anglican Baptisms in Patagonia. Ar gael o: http://www.argbrit.org/Patagonia/patagoniabapts.htm

Wilkipedia. (2018). David Thomas (missionary priest). In Wikipedia. Ar gael o: https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=David_Thomas_(missionary_priest)&oldid=858773202