Roedd Ellis Davies (1872-1962) yn hynafiaethydd o Gymru, yn ogystal â chlerigwr.

Roedd tad Davies, a elwid hefyd yn Ellis Davies, yn arddwr yn Nannerch, Sir y Fflint; ganwyd y mab ar 22 Medi 1872. Fodd bynnag, symudodd y teulu yn fuan i Laniestyn, ym Mhenrhyn Llŷn. Addysgwyd Ellis yn Ysgol Ramadeg Botwnnog. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan yn 1892. Fel myfyriwr yno, roedd hefyd yn ennill gwobrau bob blwyddyn. Graddiodd yn 1895 gyda gradd dosbarth cyntaf. Ar ôl cael ei ordeinio, bu’n gweithio fel curad yn Llansilin ger Croesoswallt, yr Hen Golwyn a St Giles, Rhydychen. Yn ystod ei gyfnod yn Rhydychen, cwblhaodd radd bellach; enillodd radd BA o Goleg Caerwrangon yn 1907 a chwblhaodd ei radd MA yn 1911. Roedd hefyd yn gaplan Cymreig i Goleg Iesu ac Ysbyty Radcliffe. 

Ymhen amser, daeth Davies yn ôl i Gymru. Fe'i penodwyd yn ficer Llanddoged, Sir Ddinbych yn 1909 ac yna'n rheithor Chwitffordd, Sir y Fflint yn 1913. Arhosodd yn Chwitffordd nes iddo ymddeol yn 1951. Fel gwobr am ei wasanaeth hir, roedd ganddo ganondy yn Llanelwy rhwng 1937 a 1946; fe'i gwnaed yn Ganon Emeritws yn 1946. Roedd yn ganghellor yr esgobaeth rhwng 1944 a 1947. 

Ei gariad cyntaf oedd cerddoriaeth a chyfansoddodd sawl emyn a llafargan

Inside the church of St Mary and St Beuno, Whitford, Flintshire

Llun: Y tu mewn i eglwys y Santes Fair a Sant Beuno yn Chwitffordd, Sir y Fflint.  Llywelyn2000 / CC BY-SA (https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0) 

Fodd bynnag, roedd Davies yn fwy adnabyddus fel hynafiaethydd. Daeth yn aelod o Gymdeithas Archeolegol Cambria yn 1913; dywedwyd mai dim ond dau gyfarfod cyffredinol blynyddol y collodd o hynny hyd at ei farwolaeth. Hefyd yn 1913, cynigiodd Eisteddfod Genedlaethol y Fenni wobr am lawlyfr ar olion Prydeinig a Rhufeinig mewn unrhyw sir yng Nghymru. Enillodd Davies y wobr hon am ei waith ar Sir Ddinbych. Ar ôl ymchwil bellach, fe'i cyhoeddwyd yn 1929 o dan y teitl The prehistoric & Roman remains of Denbighshire. Unwaith eto, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghorwen yn 1919, enillodd wobr am draethawd ar enwau lleoedd yn Sir Feirionnydd. Yna, yn 1956, dyfarnwyd Gwobr G.T. Clark iddo am ymchwil ar hanes Celtaidd; y gwaith llwyddiannus oedd The prehistoric and Roman remains of Flintshire (1949). Buan y daeth y ddau lyfr ar hynafiaethau Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn weithiau safonol. Yn flaenorol, roedd y siroedd hyn wedi cael eu hesgeuluso gan archeolegwyr; rhestrodd Davies y darganfyddiadau archeolegol a'r cyfeiriadau llenyddol gyda gofal manwl.  

Yn ogystal, ysgrifennodd Davies Llyfr y Proffwyd Hosea (1920) a Flintshire place-names (1959), yn ogystal â nifer o erthyglau yn Yr Haul, Y Llan, Dictionary of Welsh biography a nifer o gyfnodolion hanesyddol. Roedd yn gyd-olygydd ar y cylchgrawn Archaeologia Cambrensis rhwng 1925 a 1940, ac yna aeth ati i'w olygu ar ei ben ei hun nes 1948. Fe'i etholwyd yn gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr yn 1929; cafodd anrhydedd Doethur mewn Llên yn 1959 gan Brifysgol Cymru. O 1940 ymlaen, roedd yn aelod o Lys Llywodraethwyr Amgueddfa Cymru. 

Priododd Ellis Davies Mary Louisa, merch y Parchedig David Davies o Lansilin. Bu farw Mary ar 27 Mai 1937. Bu farw Ellis Davies yn ei nawdegau ar 3 Ebrill 1962 yng Nghaerwys, Sir y Fflint, gan adael tri mab a thair merch ar ei ôl. Rhoddodd ei blant ei gasgliad personol mawr o lyfrau i Lyfrgell Cymru yng Ngholeg Dewi Sant. 

Ffynonellau 

James, M. A., (2001). Davies, Ellis (1872 - 1962), offeiriad a hynafiaethydd. Dictionary of Welsh Biography. Cyrchwyd ar 5 Mehefin 2020, o https://biography.wales/article/s2-DAVI-ELL-1872  

Lloyd, J.D.K. (1962). Canon Ellis Davies. Archaeologia Cambrensis. 111,168-169. Cyrchwyd o https://journals.library.wales/view/4718179/4743853/195#?xywh=-1841%2C-2%2C5945%2C3639 

Canon Ellis Davies, M.A., D.Litt., F.S.A. (1872-1962), is-lywydd y Gymdeithas. (1962). Cyhoeddiadau Cymdeithas Haness Sir y Fflint. 20, 116-117. Cyrchwyd o https://journals.library.wales/view/1256711/1259251/115#?cv=115&m=19&h=&c=0&s=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F1256711%2Fmanifest.json&xywh=-1738%2C-1%2C6493%2C3974