Roedd pawb yn adnabod Alan Morgan (1940-2011), Esgob Swffragan Sherwood, fel ‘esgob y meysydd glo’.

Codwyd Morgan yng nghymoedd glo De Cymru, gyda dealltwriaeth dda o bobl y pyllau glo. Pan oedd yn ei arddegau, bu farw un o’i ewythrod o glefyd yr ysgyfaint a elwir niwmoconiosis, ac a achoswyd drwy fod ym mhresenoldeb llwch glo am gyfnod hir. Cafodd Morgan sioc pan wnaeth y Bwrdd Glo Cenedlaethol geisio peidio â rhoi lwfans glo bellach i’w weddw. Meddai ‘That was so unjust and it stayed with me for the rest of my life.’ 

Mynychodd Ysgol Ramadeg Fechgyn Tregŵyr cyn astudio athroniaeth a hanes yng Ngholeg Dewi Sant, Llambed. Ar ôl iddo raddio, cafodd ei hyfforddi ar gyfer cael ei ordeinio yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1964 ac yn offeiriad yn 1965. Hefyd yn 1965, priododd ef â Patricia, ac aethant ymlaen i gael mab a merch, Jonathan ac Eleanor.  

Roedd swyddi clerigol cyntaf Morgan wedi’u lleoli yn ôl yn Abertawe, fel curad cynorthwyol yn Llangyfelach a Threforys, ac wedyn yn y Cocyd. Ar ôl hynny, symudodd ef i Ganolbarth Gorllewin Lloegr ac i blwyf  St Mark a St Barnabas, Cofentri. Yn 1973, daeth yn ficer tîm St Barnabas. Ar ôl hyn, treuliodd bum mlynedd fel Swyddog yr Esgob â Chyfrifoldeb Cymdeithasol, eto yn esgobaeth Cofentri. Roedd yn Archddiacon Cofentri o 1983 tan 1989. Yn y rôI honno, bu’n weithgar iawn yn ystod streic hir y glowyr o 1984 i 1985. 

Penodwyd Morgan yn Esgob Swffragan Sherwood yn 1989, ac felly yn esgob cynorthwyol yn gyfrifol am rannu a chynorthwyo Esgob esgobaethol Southwell a Nottingham. Digwyddodd hyn dim ond mewn pryd iddo fod yn dyst i gwymp terfynol y diwydiant glo, ac i brofi’r rhaglen cau pyllau yn ystod y 1990au. Rhwng 1980 a 1997, collodd maes glo Nottinghamshire bron 36 000 o swyddi. Erbyn 2000, dim ond pedwar pwll glo a 1900 o weithwyr oedd ar ôl. Ar ben hynny, collodd diwydiannau a oedd yn cyflenwi a gwasanaethu’r pyllau glo lawer o filoedd o swyddi ychwanegol. (Caewyd y gwaith glo olaf, sef Thoresby, yn 2015). 

Thoresby Colliery

Gwnaeth Morgan bopeth a oedd yn bosibl iddo ei wneud i brotestio yn erbyn cau’r pyllau glo. Gwnaeth gadeirio Grŵp Cefnogi Pwll Glo Mansfield, gan orymdeithio drwy ei dref er mwyn dangos ei wrthwynebiad. Gwnaeth ymladd yn aflwyddiannus dros y glowyr ar deledu lleol a chenedlaethol a gwnaeth hyd yn oed gwrdd â Gweinidog Ynni’r Blaid Geidwadol, Tim Eggar. Meddai Morgan, nes ymlaen, am y cau, ‘When all that went, the whole community infrastructure collapsed. Every support structure went, as did their incomes – the only alternative employment was primarily for women who had been used to staying at home, or low-paid security jobs and driving taxis. Heads went down. There was no pride, no hope.’ 

Yn 1997, penodwyd Morgan yn aelod o Gyrchlu Maes Glo John Prescott, y Dirprwy Brif Weinidog. Gwnaeth adroddiad y Cyrchlu, Making the Difference, alw am bethau cael eu rhoi ar waith er mwyn codi safonau addysg, cynnig cymorth i ddechrau ac ehangu busnesau, ac i adennill 29 o safleoedd gynt y gweithiau glo.  Gwnaeth hefyd argymell sefydlu rhwydwaith o Undebau Credyd, gyda chymorth ariannol y Loteri Genedlaethol, er mwyn helpu lliniaru dyledion ar yr aelwyd.    

Daeth Morgan yn gadeirydd cyntaf Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo, elusen annibynnol wedi’i hyrwyddo gan John Prescott a oedd yn cynnig grantiau ac yn canolbwyntio ar gymunedau’r meysydd glo gynt. Amcangyfrifir bod yr ymddiriedolaeth wedi gwasanaethu tua 4.8 miliwn o bobl a oedd yn byw mewn ardaloedd lle’r oedd o leiaf 10% o’r swyddi yn 1981 yn ymwneud â chloddio am lo. Gwnaeth gweithwyr rhanbarthol yr ymddiriedolaeth siarad â chymunedau, darganfod eu hanghenion a’u hannog i wneud ceisiadau am grantiau. Meddai Morgan ‘Unlike a lot of organisations, it is not our intention to do things for the people, our goal is to enable the people to do things for themselves … The worth of the trust is revealed in a balance sheet that shows it has brought more than GBP 27m of investment into Notts coalfield communities – not just its own money, but also additional funding from other agencies and the private sector.’ 

Mewn cyferbyniad â hyn, roedd Morgan hefyd yn gadeirydd gweithgor Bwrdd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Eglwys Loegr a wnaeth gynhyrchu adroddiad ar ddyfodol y teulu, Something to Celebrate: valuing families in church and society, (1995)Gwnaeth y ddogfen hon ailddatgan ymrwymiad yr Eglwys ynglŷn â phriodi. Ond gwnaeth hefyd alw ar yr Eglwys i gofleidio’r sawl syn cyd-fyw heb briodi gan ei rhybuddio rhag “judgmental attitudes about ‘fornication’ and ‘living in sin’”. Gwnaeth hefyd annog “ready welcome” i bobl hoyw.   

Roedd Morgan yn ymwneud ag amrywiaeth eang o sefydliadu gwirfoddol. Roedd yn cadeirio Cyngor Cenedlaethol y Sefydliadau Gwirfoddol, roedd yn ymddiriedolwr Sefydliad Cymorth i Elusennau, ac yn llywydd Help the Helpless Nottinghamshire. Gwnaeth ymddeol yn 2004; ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd ganlynol, dyfarnwyd iddo OBE am wasanaethau i gymuned Nottinghamshire.  

Bu farw ar Hydref 24 2011. Meddai Paul Butler, Esgob Southwell a Nottingham, amdano ‘Bishop Alan was a tireless campaigner on behalf of the marginalised and the poor, and his time in the diocese was marked by his passion for justice and single-minded efforts to bring people together. He was also someone with a real human touch and compassionate approach to those of much faith and those of little.’

Ffynonellau 

Bishop’s tireless work breathed new life into mining communities. (Tachwedd 8 2011). Nottingham Post. Adalwyd ar Ionawr 19 2021 oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/13AE8A0355B3D4F8?p=UKNB 

Morrison-Wells, J. (2012). The Rt. Revd. Alan Morgan OBE 1940-2011 – the coalfield bishop. The Link, 65,5. Adalwyd ar Ionawr 19 2021 oddi wrth http://www.sdtcom.co.uk/16_base/Lampeter%20Link/Link%202012.pdf 

Faith, hope – no charity handouts. (Mawrth 4 2004). Nottingham Evening Post. Adalwyd ar Ionawr 19 2021 oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/1012177E72710BBA?p=UKNB 

Morgan, Rt Rev. Alan Wyndham (Mehefin 22 1940 - Hydref 24 2011), Bishop Suffragan of Sherwood, 1989-2004. Who’s Who & Who Was Who. Adalwyd ar Ionawr 19 2021 oddi wrth https://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540891.001.0001/ww-9780199540884-e-34704?rskey=Ji7qPF&result=1 

Brindle, D. (Medi 20 2000). Pits and the pendulum. Guardian. Adalwyd ar Ionawr 20 2021 oddi wrth https://www.theguardian.com/society/2000/sep/20/guardiansocietysupplement 

Jones, S. (Mehefin 19 1998). National news: ministers urged to back mining communities. Financial Times. Adalwyd ar Ionawr 20 2021 oddi wrthhttps://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/113D71E3502529D8?p=UKNB 

Wainwright, M. (Medi 17 1999). New trust given pounds 52m to regenerate coal towns. Guardian. Adalwyd ar Ionawr 20 2021 oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/0F274B966B04DC23?p=UKNB 

Church warned ‘living in sin’ is outdated concept. (Mehefin 7 1995). Independent. Adalwyd ar Ionawr 20 2021 oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/131FED5FE378A0A0?p=UKNB