Roedd Alwyn Rice Jones (1934-2007) yn archesgob Cymru am wyth mlynedd yn yr 1990au. Yn ystod yr amser hwn, llywiodd yr Eglwys yng Nghymru trwy gyfnod o newid sylweddol.
Roedd Jones yn falch iawn o’i wreiddiau yng Ngogledd Cymru. Cafodd ei eni yng Nghapel Curig yng nghalon Eryri mewn cymuned Gymraeg, a'r Gymraeg oedd ei iaith gyntaf drwy ei oes. Yn drist iawn, bu farw ei ddau riant, John ac Annie, erbyn ei fod yn 14 oed.
Mynychodd Jones Ysgol Ramadeg Llanrwst ac yna enillodd ysgoloriaeth i astudio'r Gymraeg yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Graddiodd yn 1955. Yn dilyn hyn, aeth ymlaen i Dŷ Fitzwilliam, Caergrawnt, i astudio diwinyddiaeth. Enillodd BA yn 1957 ac MA yn 1961. Hyfforddodd ar gyfer yr offeiriadaeth yng Ngholeg Sant Mihangel, Llandaf, a chafodd ei ordeinio'n ddiacon yn 1950 ac yn offeiriad yn 1959.
Roedd ei swydd glerigol gyntaf fel curad cynorthwyol yn Llanfairisgaer yn Sir Gaernarfon ar lân afon Menai. Gweithiodd yno rhwng 1958 ac 1962. Yn dilyn hyn, daeth yn ysgrifennydd Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr a Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr mewn Ysgolion. Yn 1965, cafodd ei benodi gan ei fentor, yr Esgob Gwilym Williams, yn gyfarwyddwr addysg ar gyfer esgobaeth Bangor. Hefyd, gwnaeth Williams ei benodi yn gaplan ieuenctid, yn warden ordinandiaid, caplan archwilio a chaplan anrhydeddus Eglwys Gadeiriol Bangor.
Yn ogystal â'r rolau hyn, roedd Jones yn diwtor cynorthwyol mewn addysg grefyddol ym Mhrifysgol Cymru Bangor ac yn gynghorydd crefyddol i bwyllgor Cymru'r Pwyllgor Darlledu Annibynnol. Yn ddiweddarach, yn 1991, daeth yn gadeirydd Panel Crefyddol Ymgynghorol S4C.
Priododd Jones â Meriel Thomas yn 1968, a chawsant ferch o'r enw Nia.
Yn 1975, symudodd Jones yn ôl i weinidogaeth blwyf, gan ddod yn ficer Porthmadog. Rhoddodd hyn y cyfle iddo wella ei sgiliau bugeiliol fel clerigwr wrth ei waith. Fodd bynnag, roedd yn amlwg y byddai’n cael dyrchafiad. Ar ôl pedair blynedd ym Mhorthmadog, cafodd ei benodi yn ddeon Eglwys Gadeiriol Aberhonddu. Ar y cyd â'r Esgob Benjamin Vaughan, gweithiodd yn galed i godi proffil yr eglwys gadeiriol a'i sefydlu fel man gweddi a phererindod.
Yn 1982, cafodd ei benodi'n Esgob Llanelwy. Yn ogystal â hyn, roedd yn Archesgob Cymru rhwng 1991 a’i ymddeoliad yn 1999. Yn ystod ei gyfnod yn y rôl hon, mynychodd ddwy gynhadledd Lambeth. Ar ôl y gynhadledd yn 1998, cynhaliodd noswaith diwylliannol Gymreig, gan berswadio pob esgob o Gymru, gan gynnwys Archesgob Caergaint y dyfodol, Rowan Williams, i ddarparu’r adloniant naill ai trwy ganu neu ddweud jôcs.
Yn ogystal, cynrychiolodd Jones ei eglwys yng ngwasanaeth Cyngor Eglwysi'r Byd yn Canberra yn 1991 a gwasanaethodd fel llywydd Cyngor Eglwysi Prydain ac Iwerddon rhwng 1997 a 2000. Fel rhyddfrydwr diwinyddol, roedd yn eciwmenydd ymroddedig ac yn lladmerydd dros gyfiawnder cymdeithasol. Beirniadodd fomio Kosovo ac roedd yn gefnogwr brwd o’r ymgyrch i sefydlu cynulliad cenedlaethol i Gymru.
Ar adegau, gallai fod yn ddadleuol. Flwyddyn ar ôl marwolaeth Diana, Tywysoges Cymru, dywedodd wrth ei glerigwyr ei bod yn credu bod gormod o sylw yn cael ei roi i’w statws. Roedd yn fodlon i glerigwyr unigol benderfynu a ddylid gweddïo mewn eglwysi i nodi pen-blwydd ei marwolaeth. Yn 1997, galwodd am ddiddymu’r gyfraith sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gynnwys gweddi ac addoliad mewn gwasanaethau dyddiol. Roedd yn teimlo nad oedd gwasanaethau'n effeithiol ac nad oedd plant yn eu deall neu'n eu gwerthfawrogi o reidrwydd.
Roedd Jones yn weinidog talentog ac yn ffyddlon iawn i'w blwyfolion, ei esgobion a'i gyd-glerigwyr. Oherwydd hyn, llwyddodd i gyflwyno newid sylweddol. Gwrthododd clerigwyr corff llywodraethu’r Eglwys yng Nghymru ordeinio menywod i'r offeiriadaeth yn 1994. Fodd bynnag, llwyddodd Jones, a oedd yn gefnogwr brwd o glerigwyr benywaidd, i atgyfodi'r mesur. Pan gymeradwywyd ordeinio menywod yn y pen draw yn 1996, fe'i cefnogwyd gan bob un o'r chwe esgob a 68 y cant o'r clerigwyr. Yn wahanol i Loegr, ni adawodd unrhyw glerigwyr yr Eglwys yng Nghymru oherwydd y mater; i raddau helaeth, roedd hyn i’w briodoli i radlonrwydd Jones tuag at ei wrthwynebwyr. At hyn, arweiniodd Jones y ddeddfwriaeth sy'n caniatáu i bobl sydd wedi ysgaru ailbriodi yn yr eglwys, gan ddod â blynyddoedd o ansicrwydd i ben.
Arhosodd Jones yn Llanelwy ar ôl iddo ymddeol. Bu farw yn sydyn ar 12 Awst 2007. Dywedodd ei olynydd fel Archesgob Cymru, Dr Rowan Williams, ‘Arweiniodd Alwyn Rice Jones yr Eglwys yng Nghymru gyda dewrder a chynhesrwydd a gweledigaeth trwy rai blynyddoedd heriol. Rwy'n credu y byddai pawb yn cytuno mai ef oedd un o arweinwyr mwyaf hoffus yr eglwys.’
Llun: Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ©David Merrett https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Brecon_Cathedral_(5726564531).jpg
Ffynonellau
Ancientbriton. (30 Rhagfyr 2016).Twentydisastrous years of decline. AncientBriton. https://ancientbritonpetros.blogspot.com/search
'The Daily Telegraph (16 Awst 2007). Obituary of The Most Rev Alwyn Rice Jones Former leader of the Church in Wales who kept up the momentum in the cause of the ordination of women priests', Daily Telegraph, Cyrchwyd o: https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/11B1DE88A6E68EA0?p=UKNB.
Jones, Rt Rev. Alwyn Rice, (25 March 1934–12 Aug. 2007), Archbishop of Wales, 1991–99; Bishop of St Asaph, 1982–99. Who's who & Who was who. Cyrchwyd ar 4 Mehefin 2020, o https://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540891.001.0001/ww-9780199540884-e-22254.
Morgan, B. (15 Awst 2007). Obituary: The Rt Revd Alwyn Rice Jones. Church Times. Cyrchwyd o https://www.churchtimes.co.uk/articles/2007/17-august/gazette/obituary-the-rt-revd-alwyn-rice-jones
Morgan, Barry. (16 Awst 2007). "The Right Rev Alwyn Rice Jones – Obituaries Former Archbishop of Wales." Independent. Cyrchwyd o https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/11B11BF96DDB3A30?p=UKNB.
The Right Rev Alwyn Rice Jones. (23 Awst 2007). The Times, t. 69. Cyrchwyd o https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/IF0503581300/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=7dad0544