Roedd Benjamin Noel Young Vaughan (1917-2003) yn esgob am dros 40 o flynyddoedd yn India'r Gorllewin, ac yna yn ôl adref yng Nghymru.

Ganwyd Vaughan (a elwid bob amser yn Binny Vaughan) yn Nhrefdraeth, Sir Benfro ar ddydd Nadolig yn 1917. Roedd ei dad yn henadur yn y dref. Addysgwyd ef yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ac enillodd radd dosbarth cyntaf yn y Clasuron cyn astudio yn Neuadd Sant Edmwnd, Rhydychen, lle enillodd radd anrhydedd ail ddosbarth mewn Diwinyddiaeth. Cwblhaodd ei hyfforddiant gweinidogol yn Nhŷ Westcott, Caergrawnt. Yn dilyn hynny, gwasanaethodd fel curad yn Llannon ger Llanelli ac yna yn Eglwys Dewi Sant, Caerfyrddin.  

Ymfudodd Vaughan wedyn i'r Caribî. Treuliodd y pedair blynedd nesaf yn gweithio fel tiwtor yn Codrington College ym Marbados, sef y brif ganolfan ar gyfer hyfforddiant diwinyddol yn India'r Gorllewin. Daeth rhai o'r offeiriaid a hyfforddodd Vaughan yn esgobion yn y blynyddoedd a ddilynodd annibyniaeth wleidyddol o Brydain. Yn 1952, symudodd Vaughan yn ôl i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, i ddod yn ddarlithydd mewn Diwinyddiaeth. Yn ddiweddarach, derbyniodd y teitl o gymrawd anrhydeddus o Goleg Dewi Sant.  

Fodd bynnag, bu ei amser yn Llanbedr Pont Steffan yn gymharol fyr. Yn 1955, galwyd arno i fod yn ddeon a rheithor yng Nghadeirlan Port of Spain, prifddinas Trinidad a Thobago. Yna, yn 1961, fe'i benodwyd yn esgob cynorthwyol ym Mandeville yn Jamaica. Ar yr un pryd, yr oedd hefyd yn archddiacon yn ne Middlesex ac yn rheithor Manderville am gyfnod.  

St John's cathedral, Belize city

Llun: Cadeirlan San Ioan, dinas Belize 

Ym 1967, daeth Vaughan yn esgob ar gyfer British Honduras (gelwir bellach yn Belize). Ymroddodd i fywyd yr esgobaeth fechan a oedd yn dal i gael ei hadfer yn dilyn effeithiau dinistriol corwynt Hattie ym 1961. Roedd Vaughan yn gadeirydd ar gyfer y Cyngor Cenedlaethol Addysg yn British Honduras, y Cyngor Cymdeithasol i Gristnogion a Chomisiwn Amaethyddol yr eglwysi. Yng Nghynhadledd Lambeth yn 1968, ymddangosodd fel eciwmenydd ymroddedig a oedd yn pryderu am gyfiawnder cymdeithasol ac am y tlodion. Yn ystod ei holl waith yn y Caribî, roedd yn deall yr angen i'r eglwys ymateb ar frys i'r byd ôl-drefedigaethol, trwy newid radicalaidd os oedd angen. Ysgrifennodd dri llyfr yn ystod y cyfnod hwn, sef Structures for renewal (1967), Wealth, peace and godliness (1968) a The expectations of the poor (1972). Roedd yn geidwadol yn ddiwinyddol. 

Dychwelodd Vaughan i Gymru yn 1971. Yna, daeth yn ddeon yng Nghadeirlan Bangor ac yn esgob cynorthwyol i'r esgobaeth. Yn 1976, fe'i penodwyd yn esgob Abertawe ac Aberhonddu. Cwmpas ei esgobaeth newydd oedd yr ardal ddaearyddol fwyaf yng Nghymru a Lloegr gan ymestyn o Benrhyn Gŵyr i'r Mynydd Du ar y ffin â Swydd Henffordd. Ar ben hynny, roedd y gadeirlan yn Aberhonddu 40 milltir o brif ganolfan y boblogaeth yn Abertawe. Darparodd Vaughan ffocws yn ochr ddeheuol yr esgobaeth drwy sefydlu eglwys golegaidd y Santes Fair yn Abertawe gyda choleg o gaplaniaid. Roedd maes cyfrifoldeb penodol gan bob un o'r caplaniaid o fewn yr esgobaeth. Roedd Vaughan hefyd yn gyfrifol am sefydlu canolfan deulu yn Abertawe i wasanaethu'r aelodau difreintiedig o'r gymuned. Yn ogystal â hynny, fe weithiodd yn galed ym maes addysg ddiwinyddol ar gyfer offeiriaid a lleygwyr. 

Roedd Vaughan yn llywydd y Cyngor Eglwysi yng Nghymru o 1980 tan 1982. Roedd yn aelod o lys Prifysgol Cymru ac o Urdd y Derwyddon, Gorsedd y Beirdd. Yn dilyn ei ymddeoliad, gwasanaethodd fel esgob cynorthwyol er anrhydedd yn ei hen esgobaeth. 

Priododd Vaughan ei wraig gyntaf, Nesta Lewis, yn 1945. Bu Nesta farw o ganser yn 1980. Tua'r un pryd â'i ymddeoliad, fe briododd ei gyn-ysgrifenyddes, Magdalene Reynolds. Ni chafwyd unrhyw blant o'r ddwy briodas. Bu Vaughan farw ar 5 Awst 2003. Fe'i disgrifiwyd fel "unigolyn llawn bywyd a oedd wedi cyffwrdd â bywydau llawer o bobl yn ystod ei weinidogaeth hir a bendithiol." 

Ffynonellau 

Ysgrif goffa'r Gwir Barchedig Benjamin Vaughan: Esgob o Gymru a gynorthwyodd yr Anglicaniaid yn India'r Gorllewin a chanolbarth America i addasu i'r byd ôl-drefedigaethol. (2003, Medi 19). Daily Telegraph.  Cyrchwyd o  https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/0FDB088E76808DA2?p=UKNB  

Ysgrif goffa'r Gwir Barchedig Benjamin. (2003, Medi 19). The Times. Cyrchwyd ohttps://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/0FD11180C403B8FE?p=UKNB