Esgob Saint Albans o 1995 tan 2009 oedd Christopher William Herbert.
Ganwyd Herbert yn Lydney yn Fforest y Ddena yn 1944. Roedd ei dad, Walter, wedi dechrau ei yrfa fel dyn ffowndri a mowldiwr mewn gweithfeydd haearn lleol ond aeth ymlaen i helpu i redeg buses y teulu o gludo ar y ffyrdd. Enillodd Christopher ysgoloriaeth yn Ysgol Bechgyn Trefynwy cyn astudio Astudiaethau Beiblaidd ac Athroniaeth yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Yn Llanbedr Pont Steffan, gofynnwyd iddo gadeirio Ystafell Gyffredin y Myfyrwyr gan un grŵp o bobl, a gofynnwyd iddo arwain Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr gan grŵp arall. Sylweddolodd mai crefydd, yn hytrach na gwleidyddiaeth oedd ei alwad. Ar ôl graddio yn 1965, aeth Herbert i astudio yng Ngholeg Diwinyddol Wells i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth. Enillodd dystysgrif ôl-raddedig mewn Addysg o Brifysgol Bryste.
Cafodd Herbert ei ordeinio yn 1967. Ei swydd glerigol gyntaf oedd fel curad cynorthwyol yn Eglwys St Paul's, Tupsley, Henffordd. Priododd Jan Turner y flwyddyn ganlynol; (mae dau fab a phedwar o wyrion ganddo ef a Jan). Hefyd, yn ystod ei gyfnod yn Tupsley, dysgodd Herbert addysg grefyddol ac astudiaethau cymdeithasol yn y Bishop of Hereford’s Bluecoat School. Daeth yn gynghorydd addysg grefyddol ar gyfer esgobaeth Henffordd yn 1971 a chyfarwyddwr addysg ar gyfer yr esgobaeth yn 1976. Daeth yn ganon mygedol yng nghadeirlan Henffordd yn 1977.
Yn 1981, dychwelodd Herbert i offeiriadaeth blwyf, fel ficer St Thomas on the Bourne, Farnham, Surrey. Penodwyd yn gyfarwyddwr hyfforddiant ôl-ordeiniad ar gyfer esgobaeth Guildford cyn ei urddo'n ganon ar gyfer gadeirlan Guildford yn 1984. Ei benodiad nesaf, ar ôl St Thomas, oedd fel archddiacon Dorking o 1990 tan 1995.
Yn 1995, fe'i benodwyd yn esgob St Albans. Cafodd ei ddisgrifio gan Mary Ann Sieghart fel "os unrhyw beth, yn Anglo-Gatholig" cyn symud ymlaen a dweud "nid yw'n perthyn i unrhyw enwad yn yr eglwys mewn gwirionedd. Mae ganddo gyffyrddiad ysgafn, synnwyr da o ddigrifwch a thalent am gyd-dynnu’n dda iawn gyda phobl eraill. Efallai mai dyma pam y mae'n cael ei ddewis i gadeirio'r trafodaethau mwyaf cynhennus yn y Synod Cyffredinol."
Yn ystod ei amser yn St Albans, roedd Herbert yn gadeirydd y Cyngor Caplaniaid Ysbyty, cadeirydd y Synod Cyffredinol, cadeirydd cenedlaethol y Cyngor Cristnogion ac Iddewon a chadeirydd Rhwydwaith yr Eglwysi yn Nwyrain Lloegr. Ymunodd â Thŷ'r Arglwyddi yn 1999. Gan ddangos arbenigedd penodol ym maes moeseg feddygol, roedd yn aelod o Bwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi a fu'n craffu ar gynigion sy'n ymwneud â newid y gyfraith ar ewthanasia a hunanladdiad cynorthwyedig. Roedd hefyd yn rhan o Bwyllgor Craffu cyn-ddeddfwriaethol Tŷ'r Arglwyddi a oedd ynghlwm â'r gwaith ar ffrwythlondeb ac embryoleg dynol. (Yn ystod ei ymddeoliad, mae Herbert wedi dod yn athro gwadd ar foeseg Gristnogol ym Mhrifysgol Surrey.)
Tra yn St Albans, enillodd MPhil yn 2002 a Doethuriaeth yn 2008 o Brifysgol Caerlŷr. Teitl ei MPhil oedd Shaping the resurrection in late medieval religion and theology: with special reference to the work of Hans Memling. Roedd ei Ddoethuriaeth yn archwilio tarddiad y Beddrod Pasg yn eglwysi Lloegr cyn cyfnod y Diwygiad Protestannaidd.
Enillodd Herbert ddoethuriaeth er anrhydedd yn y pynciau dyneiddiol ym Mhrifysgol Hertfordshire yn 2003 a doethuriaeth er anrhydedd yn y Celfyddydau yn 2008 ym Mhrifysgol Bedfordshire, y ddwy ar gyfer ei wasanaeth i'r gymuned. Hefyd yn 2008, derbyniodd y teitl o ddinesydd er anrhydedd ar gyfer Fano yn nhalaith Pesaro ac Urbino yn yr Eidal, sy'n gefeillddinas i St Albans. Cydnabyddiaeth o'i rôl yn meithrin cydberthnasau rhyng-eglwysig a chymunedol rhwng y ddwy ddinas oedd yr anrhydedd hwn.
Gadawodd Herbert St Albans yn 2009, i ymgymryd â'r hyn sy'n ymddangos fel ymddeoliad hynod weithgar. Daeth yn gyfarwyddwr anweithredol gwirfoddol ar gyfer Cymdeithas Abbeyfield, elusen sy'n darparu tai gwarchod a chartrefi gofal i bobl hŷn. Mae'n gwasanaethu fel esgob cynorthwyol er anrhydedd ar gyfer yr esgobaethau yn Guildford, Caersallog a Chaer-wynt, ac mae'n gyfarwyddwr anweithredol gwirfoddol ar gyfer yr Ysbyty Brenhinol ar gyfer Niwro-anabledd yn Putney.
Mae Herbert yn awdur toreithiog sydd wedi ysgrifennu amrywiaeth o lyfrau ar gyfer oedolion a phlant. Mae Seeing & believing: praying with paintings of the life, death and resurrection of Christ wedi'i seilio ar ei drafodaethau a gynhaliwyd o gwmpas ei esgobaeth. Sylweddolodd bod grym delweddau i ddal dychymyg a chyfleu'r ffydd Gristnogol yn llawer mwy effeithiol nag unrhyw bregeth. Yn Foreshadowing the Reformation: art and religion in the fifteenth-century Burgundian Netherlands (Routledge, 2017), ceisiodd gywiro'r tueddiad cyfoes i fychanu cyd-destun crefyddol celf ganoloesol hwyr. Credodd Herbert mai 'paentiadau yw hanes syniadau ar ffurf weledol'; ac yng ngogledd Ewrop yn y 15fed ganrif, roedd y syniadau hynny'n grefyddol, yn ogystal â bod yn rhai gwleidyddol ac economaidd. Archwiliodd ddetholiad o baentiadau, gan gymysgu'r ffefrynnau adnabyddus megis Ghent Altarpiece gan Van Eyck gyda gweithiau sy'n llai adnabyddus, gan gynnwys The Last Judgement gan Memling sydd bellach yn y cael ei gadw yn Gdansk.
Mae nifer o lyfrau Herbert yn ymwneud â gweddïo ac ysbrydolrwydd ac mae wedi ysgrifennu sawl llyfr gweddi, gan gynnwys Pocket Prayers for Children a Pocket Prayers for Commuters.Casgliad o weddïau yw The Prayer Garden ar gyfer pob diwrnod o fywyd plentyn sy'n cynnwys amrywiaeth eang o themâu. Yn ystod Cyfyngiadau symud Covid, ysgrifennodd ef nofel o'r enw, The calling of Clemo Trelawney, (a gyhoeddwyd gan Gatekeeper Press, 2021). Wedi’i gosod yn ystod teyrnasiad Harri VIII, mae’n canolbwyntio ar fywyd dyn ifanc o Drefynwy sydd wedi cael ei ddylanwadu’n fawr gan Sistersiaid Tyndyrn. Yn ei nofel ‘cyrraedd llawn oed’ hon, mae Herbert yn archwilio cynnwrf crefyddol Lloegr yn ystod yr 16eg ganrif o safbwynt dyn cyffredin, a sut y gwnaeth ef ei brofi.
Mae Herbert yn darlithio'n gyson ar gelf Gristnogol ac yn enwedig celf yr Oesoedd Canol. Bu'n siaradwr gwadd yn yr Oriel Genedlaethol, Sefydliad Celf Courtauld, King's College yn Llundain, Prifysgol Caerlŷr, Abaty Westminster a'r Gymdeithas Gelf yn ogystal â grwpiau eglwysig. Mae hefyd yn arwain teithiau tywys arbenigol o gwmpas y prif orielau celf yn Llundain. Wrth drafod Herbert, dywedodd Neil MacGregor, cyn-gyfarwyddwr yr Oriel Genedlaethol, "Mae'n siaradwr o fri am baentiadau. Mae wir yn deall y gellid archwilio rhai gwirioneddau'n well mewn ffurf weledol yn hytrach nag mewn geiriau."
Ffynonellau
Herbert, C. (2020). Three abbeys: Gwefan y Gwir Barchedig Ddoctor Christopher Herbert. Cyrchwyd ar 4 Mehefin, 2020 o http://www.threeabbeys.org.uk/
Herbert, y Gwir Barchedig Christopher William, (ganwyd 7 Ionawr, 1944), Esgob St Albans, 1995–2009; Esgob Cynorthwyol er Anrhydedd: Esgobaeth Guildford, ers 2009; Esgobaeth Caer-wynt, ers 2010; Esgobaeth Chichester, 2010–2014; Esgobaeth Caersallog, a Dirprwy'r Archesgob, 2011. Who's who & Who was who. Cyrchwyd ar 4 Mehefin, 2020 o: https://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540884.001.0001/ww-9780199540884-e-33656.
Howes, G. (2017). Christopher Herbert, Foreshadowing the Reformation: art and religion in the fifteenth-century Burgundian Netherlands. Theology. 120(3),221-222. Cyrchwyd o: https://journals-sagepub-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/doi/full/10.1177/0040571X16684444f.
Sieghart, M.A. (28 Mai, 2002). Everybody’s favourite long shot. The Times. Cyrchwyd o https://link.gale.com/apps/doc/IF0501488167/TTDA?u=nlw_ttda&sid=TTDA&xid=cf202091.