Right Reverend David Williams

Mae bywyd cynnar David William yn enghraifft o bendantrwydd yn wyneb adfyd. Ganwyd ef ym mhlwyf bychan Silian, ger Llambed, yn 1859, a mynychodd ef yr ysgol gynradd Gymraeg leol. Ond, yn dilyn marwolaeth gynnar ei dad, prentisiwyd William i grydd, ac erbyn iddo droi dwy ar bymtheg mlwydd oed, roedd ef yn cynnal ac yn gofalu am ei fam a’i chwiorydd. Roedd ei dad wedi bod yn ddyn addysgedig, a gwnaeth William etifeddu ei hoffter mawr am wybodaeth, gan addysgu iddo ef ei hun Saesneg, Lladin a Groeg. Wrth helpu trefnu Ysgol Sul Gymraeg yn Llambed, daeth ef i sylw’r rheithor, a wnaeth ei annog i fynychu Ysgol Ramadeg Llambed am dri mis er mwyn paratoi ar gyfer yr arholiad a chael ei dderbyn yng Ngholeg Dewi Sant. Llwyddodd basio, gan ennill iddo ef ei hun Arddangosfa (ysgoloriaeth) a gwobrau olynol drwy gydol ei flynyddoedd yn y coleg; gwnaeth ymadael â’r coleg yn 1883, wedi ennill gradd ail ddosbarth yn y clasuron. Aeth ymlaen i astudio yn Rhydychen, gan ennill BA yn 1890 a chwblhau ei MA yn 1901. Ordeiniwyd ef gan Esgob Bangor yn 1885, a dechreuodd yn ei swydd fel curad yn Ffestiniog.  

Ond gwnaeth cwrs bywyd William newid yn llwyr pan ddywedwyd wrtho gan ei feddyg na fyddai ei ysgyfaint yn gallu gwrthsefyll hinsawdd Cymru. Ar weld hysbyseb am swydd fel Athro yng Ngholeg Huron, gwnaeth William ymfudo  i Ganada yn 1887. Am y pum mlynedd nesaf, gwnaeth addysgu yn y coleg a gweithio hefyd fel curad yng Nghabidyldy St John (1887-1888) ac Eglwys Gadeiriol St Paul (1888-1892), gan ddangos yr egni a’r ymrwymiad a fyddai nes ymlaen yn cael eu cydnabod gan awdurdodau’r Eglwys. Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaeth gwrdd ag Alberta Eliza a’i phriodi, a chawsant chwech o blant.  

Yn 1892, daeth William yn rheithor Eglwys St. James, Stratford, lle y gweithiodd ef am y tair blynedd ar ddeg nesaf. Penodwyd ef yn Archddiacon Perth yn 1903, a blwyddyn ar ôl hynny, ar farwolaeth yr Esgob Baldwin, daeth yn Esgob Huron, talaith a oedd pedair gwaith yn fwy na Chymru gyfan. Byddai William yn profi ei hun i fod yn unigolyn annibynnol ac egnïol, yn weinyddwr a gwladweinydd medrus, ac yn athrylith gyda chyllid. Chwaraeodd rôl ganolog pan adolygwyd Y Llyfr Gweddi Gyffredin, oherwydd gwnaeth ef ei addasu er mwyn cydweddu â sut oedd bywyd yn newid yng Nghanada, ac fe honnwyd na allai fod unrhyw ddyn arall wedi cyflawni tasg mor anodd. Gwnaeth hefyd lywyddu dros eisteddiadau, gan arwain ystyriaethau’r Pwyllgor Emynol a gafodd ei benodi i roi Llyfr Emynau at ei gilydd ar gyfer  Eglwys Loegr Canada. Ef oedd cadeirydd Pwyllgor Gweithredol Bwrdd Cenhadol yr Eglwys honno am un ar bymtheg o flynyddoedd, yn ogystal â chadeirydd Pwyllgor Gweithredol Y Symudiad Ymosodol Anglicanaidd, ac er iddo gydnabod y cysylltau agos a oedd ganddi ag Eglwys Loegr, ymdrechodd i sicrhau bod Eglwys Loegr Canada yn llai dibynnol ar adnoddau a thraddodiadau’r fam-eglwys, ac mae’r cyflawniad hwn wedi’i ddyfynnu fel gorchest fwyaf William.  

Yn ystod y 1920au, gofynnwyd i William ystyried dychwelyd i Gymru er mwyn cael ei benodi’n Esgob Bangor, swydd y gwnaeth ef ei gwrthod oherwydd ei gariad tuag at y wlad a’r eglwys a wnaeth ei fabwysiadu. Yn 1926, penodwyd ef yn Archesgob cyntaf Huron a thrydydd Archesgob Ontario.  

Bu farw yn sydyn ar Hydref 7fed 1931, ar ôl bod ar daith conffyrmasiwn, ond cafodd ei gofio gan ei hen goleg, a wnaeth  gyhoeddi coflith teimladwy iddo yng nghylchgrawn y coleg.   

Ymgymerwyd â’r ymchwil hwn gan Elizabeth Cawdell. 

Ffynonellau 

A Column About People “David Huron”, Maclean’s January 1st 1930. Adalwyd oddi wrth https://archive.macleans.ca/article/1930/1/1/a-column-about-people 

A Family History a gedwir yn archifau’r Brifysgol 

Project Canterbury Leaders of the Canadian Church VIII David Williams by Archdeacon J. B. Fotheringham, 1943. Adalwyd oddi wrth http://anglicanhistory.org/canada/bheeney/3/8.html  

St David’s College Magazine Vol 12, 1928-1933, pp. 92-93.