Francis John Jayne (1845-1921) oedd ail bennaeth Coleg Dewi Sant, ac ef gwnaeth wasanaethu hiraf fel esgob Caerllion yn hanes yr esgobaeth honno.
Ganwyd Jayne yn Llanelli; ef oedd mab hynaf John Jayne, perchennog gwaith glo, a’i ail wraig Elisabeth Haines. Cafodd ei addysg yn Ysgol Rugby, ac yna, yng Ngholeg Wadham, Rhydychen, lle y gwnaeth rwyfo i’r coleg. Gwnaeth yn dda yn academaidd hefyd, gan ennill dosbarth cyntaf triphlyg mewn ‘Mods’, ‘Greats’, a Chyfreitheg a Hanes Modern. Yn ogystal, enillodd y wobr Hall-Haughton Uwch am astudio’r Testament Newydd yn yr iaith Roeg. Daeth yn gymrawd Coleg yr Iesu, Rhydychen, yn 1868; roedd yn ddarlithydd hanes modern yno rhwng 1871 a 1879. Ordeiniwyd Jayne yn 1870; ochr yn ochr â’i waith academaidd, gwnaeth weinidogaethu yn eglwys St Clement, mewn rhan ddosbarth gweithiol o’r ddinas. Ond, y flwyddyn ganlynol, gwnaeth ymddiswyddo fel curad pan benodwyd ef yn diwtor yng Ngholeg Keble, a oedd newydd gael ei sefydlu. Priododd ef ag Emily Sarah Garland yn 1872; cafodd y pâr chwe mab a thair merch. Roedd y sawl a oedd yn gyfarwydd ag ef yn ystod y cyfnod hwnnw yn ei gofio fel ‘a handsome, athletic man, with hair falling oddly over his brow, and a thoughtful, not to say reserved appearance.’
Penodwyd Jayne yn ail bennaeth Coleg Dewi Sant Llambed yn 1879. Yn ôl Price, rhaid bod Jayne wedi cyferbynnu’n anhygoel â’i ragflaenydd oedrannus, Llewelyn Lewellin, a fu farw yn ei swydd. Dywedwyd mai llwyddiant mwyaf bywyd Jayne oedd ei flynyddoedd yn Llambed, oherwydd caiff ei gofio fel ail sylfaenydd y coleg. Yn wahanol i Lewellin, roedd yn amharod i gymryd cyfrifoldebau clerigol ehangach, a gwnaeth ddefnyddio ei egni anferth ar gyfer adeiladu pob agwedd o’r coleg. Pan gyrhaeddodd Jayne, dim ond trigain o fyfyrwyr oedd gan y coleg; pan ymadawodd, saith mlynedd yn ddiweddarach, roedd eu niferoedd wedi dyblu i dros gant ac ugain. Yn ystod yr amser hwnnw cyflwynwyd statudau newydd a chyflawnwyd perthynas agos gyda phrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Cyflwynwyd cwrs trwyddedog mewn diwinyddiaeth o ddwy flynedd. Yn 1884, agorwyd, yn Llambed, Ysgol Coleg Dewi Sant; un o’i hamcanion oedd paratoi bechgyn ar gyfer y Coleg ei hun.
Wrth i nifer y myfyrwyr gynyddu, roedd yr adeiladau a oedd eisoes yn bodoli yn rhy fach ar eu cyfer. Agorwyd yr Adeilad Caergaint ar Fehefin 24 1887; gwnaeth gynnwys dwy ddarlithfa, labordy ffiseg, 21 o setiau o ystafelloedd dwbl, ystafell ymolchi a swyddfeydd.
Llun: Yr Hen Adeilad Caergaint, a adeiladwyd pan oedd Jayne yn bennaeth
Ailadeiladwyd capel y coleg, gan ostwng y llawr ac ychwanegu at y capel eil ogleddol. Weithiau, beirniadwyd Jayne am reoli staff Llambed yn awtocratig, ond roedd yr academyddion a benodwyd ganddo yn cynnwys ysgolheigion enwog fel T.F. Tout a Hastings Rashdall. Roedd yn gyfeillgar tuag at y myfyrwyr; ar brynhawniau Sul, byddai fel arfer yn mynd am droeon hir gyda’r glasfyfyrwyr. Mae’n debyg nad oedd ef wedi gwneud ymdrech i ddysgu’r Gymraeg; dywedwyd amdano ‘Yet never a word of Welsh knows he, more than his Grace of Canterburie.’
Methodd Jayne weithredu argymhellion Comisiwn Aberdâr, a wnaeth gymeradwyo sefydlu prifysgol Cymru ffederal. Ond rai blynyddoedd wedyn, gwnaeth ef gynnig yn Nhŷ’r Arglwyddi ‘that it was desirable that the assent of Her Majesty be withheld from the Draft Charter of the University of Wales until such portions of the Charter be omitted as prevent the inclusion of St David’s College, Lampeter, as a constituent College of the University of Wales.’ Er y gwnaeth Tŷ’r Arglwyddi dderbyn y cynnig, gwnaeth y llywodraeth ei anwybyddu.
Yn 1886, penodwyd Jayne yn Ficer Leeds, rôl bwysig, ac yn un a oedd yn aml yn arwydd o bethau mawr i ddod. Yn ystod ei gyfnod byr yno, dechreuodd gynnal gwasanaethau arbennig misol i ddynion, ac adeiladodd dŷ clwb ar gyfer athletau yng Nghlwb Hamdden yr Eglwys Blwyfol. Llwyddodd hefyd sefydlogi cyllidau’r plwyf, er gwaethaf y ffaith bod llawer o’r trigolion cyfoethocaf wedi dechrau symud i’r maestrefi.
Er hynny, dim ond ar ôl dwy flynedd yn unig, enwebwyd Jayne yn esgob Caerllion. Pan gafodd ei gysegru ar Chwefror 24 1889, ef oedd yr esgob ieuaf yn Eglwys Loegr. Yn ddiddorol, yn yr un flwyddyn, daeth gŵr chwaer ei wraig, y Parchedig A.G. Edwards, yn Esgob esgobaeth gyfagos, sef Llanelwy.
Treuliodd Jayne weddill ei yrfa yng Nghaerllion. Nid oedd llawer yn ei adnabod y tu allan i’w esgobaeth ei hun, a’i brif gryfder oedd ym maes gweinyddu. Roedd yn gyfarwydd iawn â’i esgobaeth ac roedd pawb ynddi yn ei adnabod; gwnaeth ei rhedeg gydag egni a doethineb. Roedd ei bregethau yn ystyriol ac yn ddiddorol, yn hytrach na bod yn huawdl. Roedd Jayne yn hoff o weithio’n dawel ac roedd yn casáu rhodres. Roedd ei eglwysyddiaeth ef ei hun yn gymedrol, a dywedwyd mai ei esgobaeth ef oedd efallai’r un fwyaf heddychol a threfnus yn Lloegr gyfan. Honnwyd weithiau ei fod ef yn penodi clerigwyr dibynadwy a gweithgar, yn hytrach na rhai oherwydd ei gwreiddioldeb a’i gweledigaeth eang.
Roedd Jayne yn fwyaf enwog am ei ddiddordeb mewn dirwest. Un o’i uchelgeisiau oedd cadw tŷ tafarn, oherwydd yn ei farn ef, y ffordd orau i leihau meddwdod oedd diwygio a gwella tai tafarn. Roedd yn cefnogi’r system Göteborg, system yr oedd Joseph Chamberlain hefyd ei ffafrio, a gwnaeth sefydlu’r People’s Refreshment House Association Limited. Ymhen hir a hwyr, roedd y gymdeithas honno yn berchen ar 130 o dafarnau a gwestai.
Yn anaml y byddai Jayne yn cymryd gwyliau. Yn y diwedd, cafodd waeledd drwy orweithio; gwnaeth ymddiswyddo ym mis Ebrill 1919. Yn drist, ni wnaeth ei iechyd wella; bu farw yn ei gartref, The Quarry, yng Nghroesoswallt ar Awst 23 1921. Claddwyd ef yn Bowden, Swydd Gaerlleon. Meddai ei goflith yn The Manchester Guardian ‘Simple, gentle, energetic, and unassuming, a sound scholar and a man of business, he represented a type of ecclesiastic which has been one of the chief glories of the Church of England.’
Ffynonellau
Price, D.T.W. (1977). A history of Saint David’s University College Lampeter. Volume one: to 1898. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Death Of Bishop Jayne. (1921, August 25). Times, 11. Adalwyd oddi wrth https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS186847513/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=c5fa0771
Price, D. (2007, January 04). Jayne, Francis John (1845–1921), bishop of Chester. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd ar Fedi 9 2020, oddi wrth https://www-oxforddnb-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-34162.
Dr. Jayne. (1921, Aug 25). The Manchester Guardian (1901-1959) Adalwyd oddi wrthhttps://search.proquest.com/docview/476495460?accountid=12799
Bishop Jayne. (1921, August 25). Daily Telegraph, 11. Adalwyd oddi wrth https://link.gale.com/apps/doc/IO0705743278/TGRH?u=nlw_ttda&sid=TGRH&xid=a0a9522a