Harry Thomas (1897-1955) oedd y dyn cyntaf o Lanbedr Pont Steffan i ddod yn esgob yn Lloegr.
Roedd Harry yn fab i Theophilus John Thomas, a oedd yn arddwr a'i wraig, Caroline, Thomas gynt. Fe'i bedyddiwyd yn Aberdâr ar 12 Medi 1897 a bu’n ddisgybl yn Ysgol Castell Cyfarthfa, Merthyr Tydfil. Gwasanaethodd yn y Gatrawd Gymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac enillodd dair medal ond hefyd darn o siel Almaenig yn ei gefn.
Ar ôl iddo adael y fyddin, mynychodd Knutsford Orination Test School. Sefydlodd y Parchedig P.B. 'Tubby' Clayton yr ysgol gyda'r nod o addysgu cyn-filwyr er mwyn iddynt allu ennill y cymwysterau yr oedd eu hangen arnynt i fynd i'r brifysgol a gweithio tuag at gael eu hordeinio. Aeth Thomas ymlaen i astudio yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Enillodd ysgoloriaeth Butler, gwerth £30 ar gyfer ei flwyddyn olaf. Ochr yn ochr â'i gwaith academaidd, roedd yn gyfranogwr egnïol ym mywyd y coleg. Dywedwyd amdano ei fod yn dal cymaint o swyddi yn y coleg ag unrhyw fyfyriwr arall hyd at yr amser hwnnw yn ôl pob tebyg. Ymhlith y rhain, roedd yn Llywydd Cyfarfod y Myfyrwyr, Llywydd Dadleuon Lloegr, Llywydd yr Undeb Cristnogol, is-gapten y tîm golff ac yn ysgrifennydd y tîm rygbi. Dywedwyd ei fod yn siaradwr poblogaidd a phwerus, ond yn ganwr drwg-enwog.
Ar ôl cwblhau ei radd, cafodd Thomas ei ordeinio'n ddiacon ym 1923 ac yna yn offeiriad ym 1924. Yn dilyn curadiaethau yn St Brides's Major gyda Wick ac yna yn South Hinksey gyda New Hinksey, dychwelodd i addysg uwch i astudio yng Ngholeg Oriel, Rhydychen. Yna treuliodd gyfnod byr fel cenhadwr yn Sansibar gyda'r UMCA (Universities Mission for Central Africa). Dychwelodd i Brydain ym 1930 i ddod yn is-ganghellor yng Ngholeg Diwinyddol Ely. Ysgrifennodd E.L. Mascall yn ei lyfr cofiannau, Saraband, "Mae'r Is-brifathro Harry Thomas wedi bod yn genhadwr yng Nghanol Affrica, ond wedi'i daro gan fellten ac roedd mewn iechyd gwael; fe wnaeth wella'n rhyfeddol ..." Roedd enw gan y coleg am ei Eingl-Gatholigaeth eithafol. Y gred gyffredinol oedd nad oedd unrhyw obaith o gael dyrchafiad eglwysig gan y dynion a gafodd eu hyfforddi yn Ely! Roedd Mascall yn teimlo bod yr hyfforddiant diwinyddol a dderbyniodd yn amwys iawn. Fodd bynnag, roedd yn cofio gyda gwerthfawrogiad bywyd y gymuned a oedd wedi'u hordeinio a'r pwyslais ar y ddisgyblaeth o weddïo'n rheolaidd.
Aeth Thomas tramor eto ym 1936. Roedd William Wand, ei ddeon yng Ngholeg Oriel bellach yn Archesgob Brisbane. Roedd Wand wedi recriwtio Thomas fel prifathro St Francis College, Milton trwy un o'i gomisariaid esgobion. Unwaith eto, fe'i hystyriwyd fel y coleg diwinyddol mwyaf Eingl-Gatholig yn Awstralia. Ochr yn ochr â hyn, daeth Thomas yn Archddiacon yn Brisbane ym 1938. Bu hefyd yn gwasanaethu fel dirprwy'r archesgob pan oedd Wand yn absennol naill ai dramor neu rhywle arall yn Awstralia. Yn ogystal â hyn, bu'n ganon preswyl ar gyfer Eglwys Gadeiriol St John's yn Brisbane.
Dychwelodd Wand i Brydain ym 1943 a chafodd ei benodi’n Esgob Caerfaddon a Wells. Unwaith eto, dilynodd Thomas ef i'w esgobaeth newydd ac ym 1945, fe'i cysegrwyd yn Esgob Cynorthwyol ar gyfer Taunton yng nghladdgell Eglwys Gadeiriol St Paul's. Dywedwyd iddo gael ei groesawu ym mhob ficerdy fel un o'r teulu. Bu'n gadeirydd Pwyllgor Addysg yr Esgobaeth am flynyddoedd lawer. Roedd hefyd yn Is-Ymwelydd i Goleg Dewi Sant ac yn Is-lywydd Cymdeithas Llanbedr Pont Steffan.
Yn ystod haf 1955, aeth Thomas yn sâl. Bu farw bythefnos yn ddiweddarach yn ysbyty yn Wells a chynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Gadeiriol Wells. Gadawodd ei weddw, Léonie, Tod gynt, a mab. Dywedwyd am Thomas, "Bydd sawl yn ei gofio, nid yn unig fel esgob bugeiliol a oedd yn coleddu'r ffydd ac athrawiaeth lawn yr eglwys, ond fel darlithydd anhygoel ... mae pobl eglwysig Gwlad yr Haf yn galaru am golli gwir dad yn Nuw."
Ffynonellau
Bishop of Taunton. (11 Gorffennaf 1955). Times. Cyrchwyd 17 Chwefror 2021 o https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS218715371/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=1b87ac0e
Harry Thomas, beloved Bishop of Taunton. (15 Gorffennaf 1955). Church Times. Cyrchwyd 17 Chwefror 2021 o https://www.ukpressonline.co.uk/ukpressonline/view/pagview/ChTm_1955_07_15_012
Thomas, Rt Rev. Harry. (2021). WHO’S WHO & WHO WAS WHO. Cyrchwyd 17 Chwefror 2021 o https://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540891.001.0001/ww-9780199540884-e-243652.
Price, D. T. W. (1990). A History of Saint David’s University College Lampeter. Volume Two: 1898-1971. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Mascall, E.L. (1992). Saraband: the memoirs of E.L. Mascall. Cyrchwyd 17 Chwefror 2021 o https://books.google.co.uk/books?id=pSeILfiO5pcC&pg=PA102&redir_esc=y#v=onepage&q&f=false
Kidd, A.P. (1990). The Brisbane episcopate of William Wand 1934-1943. (Traethawd Meistr). Prifysgol Queensland, Awstralia. Cyrchwyd 17 Chwefror 2021 o https://core.ac.uk/download/pdf/15077813.pdf
Ysgrif goffa (1955). The Bulletin of the Lampeter Society, 8,15
Who’s who. (1923). S. David’s College Magazine, N.S. 12(4),155