Herbert Edward Ryle (1856-1925) oedd trydydd pennaeth Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Aeth ymlaen i fod yn esgob Caerwysg ac yna’n esgob Caer-wynt.
Herbert Edward Ryle (1856-1925) oedd trydydd pennaeth Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Aeth ymlaen i fod yn esgob Caerwysg ac yna’n esgob Caer-wynt.
Roedd Ryle yn ail fab i glerigwr; yn ddiweddarach, penodwyd ei dad, John Charles Ryle, yn esgob cyntaf Lerpwl. Bu farw mam Ryle, Jessie Elizabeth née Walker, pan oedd yn dair oed yn unig; cafodd ei fagu gan ei lysfam, Henrietta neé Clowes. Derbyniodd Herbert ei addysg yn Hill House, Wadhurst, Sussex, ac yna yng Ngholeg Eton. Aeth i Goleg y Brenin, Caergrawnt i astudio’r Clasuron; ar ôl cael ei anafu yn chwarae pêl-droed, dilynodd gwrs gradd aegrotat yn 1879. Fodd bynnag, yn 1881, dyfarnwyd gradd dosbarth cyntaf iddo mewn Tripos Diwinyddol, ar ôl iddo ennill pob un o’r tair gwobr a oedd ar gael, (Evans, Scholefield a Hebrew).
Ym mis Ebrill 1881, penodwyd Ryle yn gymrawd Coleg y Brenin. Cafodd ei ordeinio’n ddiacon yn 1882 ac yn offeiriad yn 1883. Hefyd, yn 1883, priododd Nea Hewish Adams, merch yr Uwch-frigadydd Hewish Adams o’r Reifflwyr Gwyddelig Brenhinol. Cawsant dri mab ond, yn drist iawn, bu farw dau ohonynt pan oeddynt yn blant ifanc.
Roedd Ryle yn arholwr yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1885 ac yn 1886. Yna, ym mis Gorffennaf 1886, ac yntau heb droi’n 30 oed, cafodd ei benodi’n Bennaeth. Ysgrifennodd Edward White Benson, Archesgob Caergaint, ato yn datgan ‘y gobaith anwylaf y daw’r Coleg yn fam dduwioldeb ac y bydd ei diwinyddiaeth yn denant byw ac yn dyst i’r enaid ac nid i’r meddwl yn unig.’ Er mai Ryle oedd y Pennaeth cyntaf o Loegr, dangosodd fwy o barch at draddodiadau Cymru na’i ddau ragflaenydd, Llewelyn Lewellin a Francis John Jayne. Cadeiriodd gyfarfodydd Bwrdd y Coleg gan ddangos pwyll a ffraethineb, roedd yn gyfrifol am ailfodelu’r cwrs anrhydedd mewn Diwinyddiaeth a dechreuodd ddiwygio systemau gweinyddiaeth ariannol y Coleg. Wrth sôn am Ryle, dywedodd T.F. Tout, yr Athro Saesneg a Hanes, ‘roedd ei ddifrifoldeb, ei ddiffuantrwydd, a’i ymdeimlad crefyddol dwfn yn ei wneud yn rym ysbrydol a moesol go iawn … bu’n fwyaf deniadol yng nghyswllt ysgafnach ein cymdeithas fach ni, - yn garedig, yn bwyllog, ac yn gymwynasgar.’ Syniad mwyaf radical Ryle oedd ei gynllun i sefydlu neuadd breswyl er mwyn galluogi myfyrwyr benywaidd i ddod i Lanbedr Pont Steffan. Fodd bynnag, nid arhosodd yng Ngheredigion yn ddigon hir i gyflawni hyn.
Ym mis Mawrth 1888, aeth Ryle yn ôl i Gaergrawnt i ddod yn Athro Hulseaidd mewn diwinyddiaeth yno. Ei brif faes diddordeb oedd yr Hen Destament. Gan weithio o fewn traddodiad ysgolheictod Anglicanaidd rhyddfrydol, cyflwynodd Ryle ganlyniadau ysgolheictod beirniadol o’r cyfandir, yn enwedig gwaith Julius Wellhausen. Dywedwyd ei fod wedi arwain ‘meddyliau dynion deallus i sylweddoli mai astudio hanes yr Hen Destament, pwnc nad oedd yn tramgwyddo ar ffydd, oedd ei unig gefndir deallusol diogel.’ Bu hefyd yn ddarlithydd poblogaidd a chyfeillgar.
Fel Athro Hulseaidd, roedd disgwyl i Ryle gyhoeddi rhai o’i ddarlithoedd. Gyda Montague James, cyhoeddodd gyfieithiad o Psalms of the Pharisees, commonly called The psalms of Solomon, (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1891). 120 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r gyfrol hwn yn dal i fod mewn print. Ail lyfr Ryle oedd The canon of the Old Testament: an essay on the gradual growth and formation of the Hebrew canon of scripture (Macmillan, 1892). Disgrifiodd yr adolygiad yn The Athenaeum y gyfrol hon fel yr ymgais mwyaf cywir a darllenadwy o hanes Canon Hebraeg a gyhoeddwyd yn y Saesneg hyd yn hyn. Hefyd, yn 1892, cyhoeddodd Ryle The early narratives of Genesis (Macmillan, 1892), gan ymdrin ag 11 o benodau cyntaf Llyfr Genesis gan nodi dylanwad mytholeg Fabilonaidd arnynt. Hefyd, golygodd Ryle Ezra, Nehemiah ac, yn hwyrach, Genesis yn Cambridge Bible for Schools. Cyhoeddodd Philo and Holy Scripture (Macmillan) yn 1895.
Cafodd Ryle ei ethol yn Llywydd Coleg y Frenhines, Caergrawnt yn 1896; ar ôl hyn, nid oedd ganddo lawer o amser i ysgrifennu. Yna, ym mis Rhagfyr 1900, penodwyd Ryle yn Esgob Caerwysg. Bu’n boblogaidd yn ei esgobaeth ond ni threuliodd amser hir yno. Ychydig dros ddwy flynedd yn ddiweddarach, daeth yn esgob ar esgobaeth fwy a chymhleth Caer-wynt. Yn ei rôl newydd, cyfarwyddodd fil o glerigwyr a rheolodd nawdd 140 o apwyntiadau. Fodd bynnag, roedd wedi gorfod gweithio’n galed iawn yn y ddwy esgobaeth; ym mis Ionawr 1904 cafodd bwl o wayw’r galon wedi’i ddilyn gan lid y pendics. Cafodd wellhad araf. Roedd hefyd wedi codi ofn ar uwch eglwyswyr ei esgobaeth newydd trwy wahardd arferion defodau penodol. Fodd bynnag, yn raddol, llwyddodd i ennyn ffydd y bobl a mawr oedd gofid yr esgobaeth gyfan pan adawodd ei swydd.
Ar ddiwedd 1910, ac yntau’n dioddef o gloffni yn ei droed, yn anfodlon, penderfynodd Ryle symud i ymgymryd â swydd ysgafnach. Cafodd ei benodi’n Ddeon Westminster ychydig cyn coroni George V. Roedd y blynyddoedd nesaf ymhlith blynyddoedd mwyaf ffrwythlon ei yrfa. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, bu’n gyfrifol am nifer o’r gwasanaethau arbennig a gynhaliwyd. Roedd ei bregethau wedi’u paratoi yn ofalus, yn syml eu ffurf ac yn uniongyrchol eu harddull. Dywedodd Archesgob William Temple nad oedd erioed wedi ‘clywed yr Efengyl syml yn cael ei phregethu mewn ffordd mor fendigedig.’
Sylweddolodd Ryle mai Westminster oedd yr olygfa naturiol ar gyfer defodau cenedlaethol mawr. Ar ddiwedd y rhyfel, newidiodd ei arddull seremonïol i adlewyrchu anghenion gwlad a oedd wedi colli cynifer o’i phobl â’r diddordeb newyddmewn pasiantri a symbolaeth. Yn benodol, aeth ati i hyrwyddo syniad David Railton y dylai milwr dienw Prydeinig gael ei gladdu yn yr abaty. Mae geiriau Ryle wedi’u harysgrifennu ar garreg fedd y Milwr Dienw sef ‘a British warrior unknown by name or rank.’
Yn ystod cyfnod Ryle fel Deon cafodd priodasau’r teulu brenhinol eu symud i Abaty Westminster a daethant yn ddigwyddiadau cyhoeddus. Bu’n cynorthwyo â’r gwaith o weinyddu priodas George VI ac Elizabeth Bowes-Lyon.
Yn 1920, lansiodd yr apêl gyhoeddus gyntaf i godi arian ar gyfer gwaith cynnal a chadw adeiladau’r abaty. Rhoddwyd £170,000 i gronfa Deon Ryle i’w defnyddio er mwyn atgyweirio gwaith cerrig yr abaty.
Urddwyd Ryle yn Farchog Urdd Frenhinol Fictoria yn 1911.
Nid oedd yn gryf yn gorfforol ac roedd ganddo hanes o broblemau ar ei galon. Torrodd ei iechyd yn hydref 1924. Bu farw yn y deondy ar 20 Awst 1925. Claddwyd ef yng nghorff Abaty Westminster ger bedd y Milwr Dienw.
Ffynonellau
FitzGerald, M., & Hawke, J. (2020, April 09). Ryle, Herbert Edward (1856–1925), dean of Westminster and biblical scholar. Oxford Dictionary of National Biography. Cyrchwyd ar 14 Ionawr 2021 o https://www-oxforddnb-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-35898.
Ysgrif goffa. (1925, Awst 21). Times, 12. Cyrchwyd ar 14 Ionawr 2021 o https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS202053909/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=da8d43af
Price, D.T.W. (1977). A History of Saint David’s University College Lampeter. Volume one: to 1898. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Adolygiad llyfr. (1893). The Athenaeum, (3403), 50-51. https://search-proquest-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/historical-periodicals/book-review/docview/9015386/se-2?accountid=130472
Death of Bishop Ryle. (1925, Awst 22). Daily Telegraph, 11. Cyrchwyd ar 14 Ionawr 2021 o https://link.gale.com/apps/doc/IO0705038614/TGRH?u=nlw_ttda&sid=TGRH&xid=ce749a32
Abaty Westminster. (2021). Herbert Edward Ryle. Cyrchwyd ar 14 Ionawr 2021 o https://www.westminster-abbey.org/abbey-commemorations/commemorations/herbert-edward-ryle#i12905