Roedd John Owen (1854-1926) yn athro Cymraeg yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ac yn ddiweddarach yn brifathro yno. Gadawodd Llanbedr Pont Steffan i ddod yn esgob Tyddewi.
Ganed Owen yn Ysgubor Wen, Llanengan yn Sir Gaernarfon. Roedd ei dad, Griffith Owen, yn wehydd a ddatblygodd i fod yn fasnachwr gwlân. Ei fam oedd Ann Jones gynt. Roedd y teulu'n grefyddol; bu Griffith Owen yn ddiacon am nifer o flynyddoedd yng nghapel Methodistiaid Calfinaidd Bwlch yn Llanengan. Mynychodd Owen yr Ysgol Brydeinig yn Llanengan ac yna Ysgol Ramadeg Botwnnog. Pan oedd ond yn bymtheg oed, penododd ei brifathro ef yn feistr cynorthwyol, gan roi cyfle iddo baratoi ar gyfer mynediad i'r brifysgol.
Yn 1872, dyfarnwyd ysgoloriaeth fathemategol i Owen yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Dywedodd yn ddiweddarach fod awyrgylch y coleg yn y dyddiau hynny yn ‘awyrgylch Cymreig.’ Er mawr siom i Owen, graddiodd yn 1876 gyda gradd ail ddosbarth yn unig. Erbyn hyn, roedd wedi dechrau ymbellhau o’i deyrngarwch cynharach i'r capel. Hyd yn oed tra roedd yn dysgu ym Motwnnog, roedd wedi dechrau mynychu eglwys y plwyf lleol. Yna yn Rhydychen, dylanwadwyd arno gan A.M.W. Christopher, rheithor Sant Aldates. Ar ôl gadael y brifysgol, ystyriodd yrfa yn ordeinio, ond penderfynodd ddysgu am ychydig flynyddoedd yn gyntaf. Ei swydd gyntaf oedd fel meistr cynorthwyol yn ysgol ramadeg Appleby yn Westmorland. Ar yr adeg hon, cyfarfu ag Amelia Longstaff a'i phriodi; cawsant bedwar mab a chwe merch.
Yn 1879, dychwelodd Owen i Gymru i ddod yn athro’r Gymraeg ac yn ddarlithydd y Clasuron yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Cafodd ei gadarnhau a’i ordeinio y flwyddyn honno, cyn cael ei offeirio yn 1880. Mae Price yn nodi efallai mai ef oedd yr athro Cymraeg mwyaf trylwyr a ddysgodd erioed yn Llanbedr Pont Steffan. Yn wir, roedd yn fwy cartrefol yn y Gymraeg nag yn y Saesneg. Yn ystod amser Owen yn Llanbedr Pont Steffan, tyfodd y dewis o astudio'r Gymraeg i safle cryfach, gyda phwyslais ar hanes a diwylliant Cymru, ar gyfieithu i’r Saesneg ac o'r Saesneg, ac ar baratoi pregeth. Fodd bynnag, roedd yn anodd cynnwys y Gymraeg fel pwnc ar gyfer y radd BA, gan nad oedd yr arholwyr allanol o Rydychen a Chaergrawnt yn ei siarad. Dim ond yn 1888, ar ôl i Owen symud ymlaen, y daeth y Gymraeg yn elfen ddewisol o'r radd lwyddo. Yn ystod ei gyfnod yn Llanbedr Pont Steffan, daeth Owen yn adnabyddus fel hyrwyddwr yr eglwys yng Nghymru. Cymerodd ran yn yr ymgyrch ‘Eglwys mewn Perygl,’ gan ddadlau dros statws parhaus yr Eglwys yng Nghymru fel eglwys wladol sefydledig.
Yn 1885, penodwyd Owen yn warden Coleg Llanymddyfri; roedd ei rôl yno yn fwy agored i annog traddodiadau Cymreig y sefydliad. Roedd yn parhau i gadw mewn cysylltiad agos â Llanbedr Pont Steffan, gan ei fod yn arholwr allanol yn y Gymraeg. Fodd bynnag, roedd ei arhosiad yn Llanymddyfri yn fyr. Yn 1889, fe wnaeth A.G. Edwards, esgob Llanelwy a rhagflaenydd Owen yn Llanymddyfri, wahodd Stephens i ymuno ag ef fel deon. Disgrifiwyd Owen fel ‘deon dadleuol esgob milwriaethus.’ Roedd yr eglwys yn wynebu bygythiad dadsefydlu, yn ogystal â drwgdeimlad mawr dros y degwm, a dalwyd i Eglwys Lloegr hyd yn oed gan anghydffurfwyr. Ceisiodd Owen wahanu'r ddau fater, ac ennill cefnogaeth yn Lloegr. Cynyddodd ei gyfraniad mewn addysg; dywedwyd ei fod yn dangos bron cymaint o frwdfrydedd dros fuddiannau addysg genedlaethol â buddiannau ei eglwys ei hun. Yn benodol, cafodd ei enwebu i wasanaethu ar bwyllgor siarter Prifysgol Cymru, a ffurfiwyd ym mis Tachwedd 1891.
Unwaith eto roedd amser Owen fel deon yn fyr. Yn 1892, fe'i penodwyd yn bumed prifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Roedd ei egni yno yn syfrdanol; dywedwyd nad oedd unrhyw un yn fwy addas ar gyfer y gwaith. Dywedodd Timothy Rees yn ddiweddarach bod ‘yr holl fyfyrwyr yn teimlo ei effaith. Gwnaeth argraff dda ar y bobl frwdfrydig, a dychrynodd y bobl ddiog. Roedd hyd yn oed ei weld yn cerdded ar draws y cwadrangl ar ei ffordd i ddarlithoedd, gyda'i gap yn gam a'i gŵn o chwith, a'r pentwr anochel o lyfrau wedi'u pentyrru o dan ei fraich, fel gwylio byddin yn mynd dros y bryn.’ Yn ogystal ag arwain y coleg, bu Owen yn darlithio'r Testament Newydd ac mewn Diwinyddiaeth yn gyffredinol.
Ar yr adeg hon, bu Owen yn ymladd brwydr hir ond aflwyddiannus i goleg Llanbedr Pont Steffan gael ei gynnwys yn rhan o Brifysgol Cymru, ynghyd â'r colegau yn Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd. Iddo ef, roedd y coleg yn rhoi graddau o dan siarter frenhinol, felly roedd yn amhosibl dychmygu y dylid ei eithrio. Fodd bynnag, dadleuodd cefnogwyr Prifysgol Cymru fod Coleg Dewi Sant wedi’i sefydlu fel coleg diwinyddol i hyfforddi dynion ifanc ar gyfer y weinidogaeth. Felly, dylid ei drin fel unrhyw goleg enwadol arall. Bu Owen yn deisebu i'r Cyfrin Gyngor, gan ddatgan ‘Nid ydym yn gwrthwynebu Prifysgol Cymru. I’r gwrthwyneb, rydym o'i blaid, ac mae'r Coleg hwn wedi mynegi dro ar ôl tro ei barodrwydd i gydweithredu ym mudiad Prifysgol Cymru, ond dylai fod yn Brifysgol Cymru mewn gwirionedd ac mewn enw...' Roedd yn dadlau bod Llanbedr Pont Steffan yn dysgu pynciau eraill yn ogystal â diwinyddiaeth, ac nid oedd yn gorfodi unrhyw brofion barn crefyddol. Ar ôl i'w ddeiseb gael ei gwrthod, cyfarfu Owen â'r prif weinidog, W.E. Gladstone, ym Mhenarlâg yn ystod haf 1893. Cytunodd Gladstone i fewnosod cymal yn siarter Prifysgol Cymru, a oedd yn caniatáu i gynyddu nifer y colegau. Felly, gallai fod yn bosibl i Goleg Dewi Sant ddod yn rhan o'r Brifysgol rhyw dro yn y dyfodol. Sicrhaodd Owen siarter newydd ar gyfer y coleg yn Llanbedr Pont Steffan ym 1896. Sefydlodd hyn gyngor y coleg a chadarnhaodd fod y sefydliad wedi’i sefydlu i ‘dderbyn ac addysgu pob unigolyn, boed hynny ar gyfer Gorchmynion Sanctaidd ai peidio.’
Yn 1897, penodwyd Owen yn Esgob Tyddewi, yr esgobaeth fwyaf yng Nghymru a Lloegr ar y pryd. Dywedodd Daniel Parry-Jones amdano, ‘Ef oedd yr Esgob mwyaf Cymreig a fu erioed: craig o Gymreictod wedi'i naddu o'r gadwyn Cyn-Gambriaidd honno sy'n brigo yn y gogledd.' Enillodd Owen enw da fel yr ‘esgob brwydrol,’ ond roedd hefyd yn drafodwr medrus. Yn y gwrthdaro hir dros ddatgysylltu, casglodd lu o wybodaeth fel y gallai'r Eglwys gyflwyno ei hachos yn y ffordd orau bosibl. Daeth yn brif lefarydd, gan siarad mewn 80 cyfarfod cyhoeddus yn hanner cyntaf 1912. Ar ôl pasio’r ddeddf, bu’n cynorthwyo i ddelio â phroblemau ymarferol trefnu talaith newydd Cymru. Tua diwedd ei gyfnod fel esgob, llwyddodd i sicrhau sefydliad esgobaeth newydd yn Abertawe ac Aberhonddu, gyda'r hen eglwys briordy yn Aberhonddu yn dod yn eglwys gadeiriol.
Yn anffodus, dinistriwyd palas esgob Owen yn Abergwili, ychydig y tu allan i Gaerfyrddin, gan dân yn 1903. Er i’w deulu ddianc, roedd cost ailadeiladu'r palas yn golygu bod Owen mewn dyled fawr. Sbardunodd y pwysau cysylltiedig ddirywiad sylweddol i iechyd Owen. Roedd Owen wastad wedi dioddef o flinder nerfol yn gysylltiedig â gorweithio a dim digon o ymarfer corff. Nawr fe brofodd waeledd nerfol, gan olygu bod gweithio yn amhosibl. Parhaodd ei iechyd gwael i fod yn broblem am weddill ei oes. Yn ystod haf 1926, dywedodd wrth ffrind ‘Rwy’n tynnu fy arfwisg i ffwrdd.’ Bu farw yn Llundain ym mis Tachwedd 1926, a chladdwyd ef yn Abergwili. Mae delw iddo yn yr eglwys gadeiriol yn eglwys gadeiriol Tyddewi.
Ffynonellau
Ellis, T. I., (1959). OWEN, JOHN (1854 - 1926), egsob. Dictionary of Welsh Biography. Cyrchwyd ar 12 Hydref 2020, o https://biography.wales/article/s-OWEN-JOH-1854
Walker, D. (2008, 03 Ionawr). Owen, John (1854–1926), esgob Dewi Sant.Oxford Dictionary of National Biography. Cyrchwyd ar 12 Hydref 2020, o https://www-oxforddnb-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-35347.
Price, D. T. W. (1977). A History of Saint David’s University College Lampeter. Volume one: to 1898. Caerdydd: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Davies, T.H. (1928). Ysgrif goffa. Y Gwir Barchedig John Owen, Esgob Tyddewi (1854-1926). Transactions on the Honourable Society of Cymmrodorion. 1926-1927. Cyrchwyd ar 14 Hydref 2020, ohttps://journals.library.wales/view/1386666/1403194/205#?xywh=-1920%2C-52%2C6254%2C3824
The Bishop of St. David's. (1926, 5 Tachwedd). Times, 9. Cyrchwyd o https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS151198565/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=8074799e
Parry-Jones, D. (1975). A Welsh country parson. Llundain: B.T. Batsford.