Moses Masamba Nthukah yw esgob esgobaeth Mbeere, Kenya.
Ganwyd Nthukah yn 1964. Hyfforddodd fel offeiriad yng Ngholeg Diwinyddiaeth a Datblygiad St Andrews, Kabare. Dyfarnwyd diploma iddo yn niwinyddiaeth ac offeiriadaeth yn 1993, cyn iddo gael ei ordeinio y flwyddyn ganlynol. Wedi hyn, parhaodd i astudio tra’n gweithio mewn sawl plwyf yn Kenya yn esgobaethau Embu a Mbeere. Enillodd radd mewn duwdod a thrwydded mewn diwinyddiaeth o Brifysgol St Paul, Limuru.
Symudodd Nthukah i Brydain ar ôl hyn, gan astudio ar gyfer MA yng Ngholeg Ridley Hall, Caergrawnt. Teitl ei draethawd ymchwil oedd Development as a form of pastoral ministry: with a case study of Njarange area project, Kenya. Dychwelodd i Kenya yn 2001 i weithio fel Deon Academaidd yng Ngholeg Diwinyddiaeth a Datblygiad St Andrews, Kabare. Hefyd, astudiodd ar gyfer MSc mewn rheoli datblygiad byd-eang drwy’r Brifysgol Agored.
Daeth Nthukah yn ôl i’r DU i astudio ymhellach yn 2003, gan wneud gwaith ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a Chanolfan Astudiaethau Cenhadaeth yn Rhydychen. Dyfarnwyd Doethuriaeth iddo mewn Diwinyddiaeth a Datblygiad Plwyfol gan Goleg Offeiriadol Tŷ Alcuin, Minnesota, yn 2014.
Yn ystod ei gyfnod ym Mhrydain, bu Nthukah hefyd yn gweithio fel offeiriad plwyf yn Esgobaeth Henffordd. Bu’n gweithio yng ngrŵp eglwysi Archenfield, yn ne a gorllewin y sir ac roedd yn byw mewn pentref bychan o’r enw Much Birch. Fodd bynnag, ni fu’n byw yno am gyfnod hir. Yn 2008, cafodd ei benodi’n esgob ei esgobaeth gartref, Mbeere, taith ddwy neu dair awr mewn car i’r gogledd-ddwyrain o Nairobi.
Crëwyd esgobaeth Mbeere o esgobaeth Embu yn 1997; mae’n cynnwys 62 plwyf gyda 239 o eglwysi. Dim ond yr ail esgob yw Nthukah, yn dilyn y Gwir Parchedig Gideon Ireri. Ar adeg penodi Nthukah, roedd yr esgobaeth yn llawn gwrthdaro a gwahaniaethu rhwng llwythau, a oedd yn adlewyrchu problemau hanesyddol. Daeth i’r amlwg fod yr esgob newydd yn gyfryngwr o fri cyn pen dim.
Ardal gras a lletgras yw Mbeere, ac mae’r rhan fwyaf o’i dinasyddion yn ffermwyr bychan. Tyfir india corn, ffa, pys gwartheg (cowpeas), pys colomennod (pigeon peas), miled a sorgwm fel cnydau cynhaliaeth, gyda gramau gwyrdd, ffacbys a chotwm fel cnydau arian. Dywedodd Nthukah, ‘Yr heriau cyffredin sy’n wynebu’r eglwys ym Mbeere yw tlodi a sychder a newyn rheolaidd, ond credaf y bydd Duw yn cryfhau ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer ymyriadau priodol.’ Helpodd Nthukah i ddatblygu Arloesedd Bywoliaethau Amaethyddiaeth Cynaliadwy (SALI). Roedd hyn yn galluogi ffermwyr bychan i addasu i newid hinsawdd drwy gyfuno ffyrdd modern a thraddodiadol o greu rhagolygon tywydd. Rhannodd y prosiect wybodaeth hinsawdd benodol i ardaloedd a rhagolygon tywydd, oedd yn golygu bod modd i ffermwyr blannu cnydau addas ar yr adeg briodol.
Roedd Undeb y Mamau Mbeere wedi nodi’r angen i blant byddar gael addysg uwchradd. Wrth weithio gydag Ymddiriedolaeth Affrica Peter Cowey, llwyddodd Nthukah i sefydlu Ysgol Uwchradd y Santes Fair Magdalen i Blant Byddar yn Riandu yn 2012. Gan weithio ochr yn ochr â phobl ifanc byddar ac anfyddar o Kenya , aeth tri grŵp o wirfoddolwyr o’r DU i’r wlad i helpu i adeiladu’r ysgol. Nod yr ysgol yw rhoi cyfle i blant byddar gael mynediad i gyflogaeth a gallu cynnal eu hunain, yn ogystal â datblygu eu sgiliau iaith a rhoi’r hyder iddynt gyfathrebu. Mae 80 o ddisgyblion yn yr ysgol ar hyn o bryd.
Roedd lle ar gyfer 300 o bobl yn unig yn y gadeirlan gyntaf, Eglwys St Peter gynt yn Siakago; ac yn 2013 penderfynodd synod esgobol adeiladu cadeirlan newydd yn ei lle gyda digon o le ar gyfer rhwng 2500 a 3000 o bobl. Roedd yr agoriad yn 2019 yn gyfle hefyd i ddathlu canmlwyddiant yr eglwys wreiddiol yn yr esgobaeth.
Hefyd, datblygodd Esgobaeth Mbeere Offeiriadaeth Chwaraeon dan arweiniad yr Eglwys ar gyfer efengyliaeth a chymod. Cafodd Nthukah ei ysbrydoli gan raglen chwaraeon ieuenctid; roedd ganddo weledigaeth ar gyfer defnyddio pêl-droed ar gyfer cenadaethau a rhoi newidiadau ar waith mewn cymunedau. Fel rhan o’r gwaith hwn, trefnodd ymweliadau gan y Parch. Andy Bowerman, caplan clwb Southampton yn Uwch Gynghrair Lloegr, a seren arfordir y de Kenya, Victor Wanyama
Mae Nthukah wedi ysgrifennu’n helaeth am sefydliadau ffydd a lleihau tlodi yn Kenya . Yn benodol, ef yw awdur Africa’s faith based organizations in transformational development: assessing poverty reduction and its implications for pastoral theology, (Lambert, 2015). Yn y gwaith hwn, archwiliodd natur ac effeithiolrwydd strategaethau sefydliadau Cristion i leihau’r argyfwng tlodi parhaus yn ei esgobaeth. Gyda Julius M. Gathogo, mae’n gydawdur A Fallow Goldmine: One Hundred Years of Mbeere Mission in Kenya (1919-2019), (Kairos, 2019).
Mae Nthukah yn angerddol dros rannu newyddion da Iesu Grist; cymod, cyfryngu a gwella; heddwch a chyfiawnder; datblygu trawsnewidiol; a materion cyd-destunol diwinyddol bugeiliol. Mae’n briod â Lucy Mothoni Masamba, ac mae ganddynt dri o blant sy’n oedolion.
Ffynonellau
BBC, Hereford & Worcester. (2008). The Revd. Moses is to become a bishop. Cyrchwyd ar 14 Medi 2020 o http://www.bbc.co.uk/herefordandworcester/content/articles/2008/09/19/herefordshire_priest_becomes_kenya_bishop_feature.shtml
Nthukah, M. (2020). Moses Nthukah, Diocesan Bishop at Diocese of Mbeere. [Tudalen LinkedIn]. LinkedIn. Cyrchwyd ar 14 Medi 2020 o https://www.linkedin.com/in/moses-nthukah-30871829/
WA Anglicana (2016, 18 Mai). Who will be the next archbishop of ACK? (2016). [Blogiad]. Cyrchwyd ar 14 Medi 2020 o https://waanglicana.wordpress.com/2016/05/18/who-will-be-the-6th-archbishop-of-ack/
Project Riandu Volunteers (d.d.). The need, the change-makers, the partnership and the impact. Cyrchwyd ar 14 Medi 2020 o http://www.projectriandu.com/the-project.html
Candle news Kenya. (2019, 15 Rhagfyr). Imposing Mbeere ACK Cathedral enriches beauty of Siakogo town. [Blogiad]. Cyrchwyd ar 14 Medi 2020 o http://candlenewskenya.blogspot.com/2019/12/imposing-mbeereack-cathedral-enriches.html