Bu Roy Thomas Davies (1934-2013) yn Esgob Llandaf o 1985 tan 1999.

Un o Langennech oedd Davies, pentref a leolir ychydig o filltiroedd i’r dwyrain o Lanelli. Ei rieni oedd  Hubert, a oedd yn gweithio mewn ffatri, a Dilys. Oherwydd roedd llawer o bobl yn Llangennech yn siarad Cymraeg, yn ôl pob sôn, ni siaradodd ef unrhyw Saesneg tan oedd tua saith mlwydd oed. Ond roedd yn fachgen galluog, ac enillodd ysgoloriaeth i fynd i Ysgol Ramadeg Bechgyn Llanelli, ac yna, ysgoloriaeth arall i fynychu Coleg Dewi Sant, Llambed. Graddiodd yn 1955, ac ef oedd y cyntaf ers 1927 i ennill gradd dosbarth cyntaf gydag Anrhydedd yn y Gymraeg. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen; enillodd ddiploma mewn diwinyddiaeth a gradd B.Litt. yn 1959. Nesaf, derbyniodd hyfforddiant ar gyfer cael ei ordeinio yng Ngholeg Anglo-Gatholig St Stephen, Rhydychen. 

Treuliodd Davies ei weinidogaeth gyfan yng Nghymru. Ei swydd gyntaf oedd curad Eglwys St Paul, Llanelli, ac arhosodd yno am bum mlynedd. Ar ôl hynny, o 1964 tan 1967, bu’n Ficer Llanafan, pentref a leolir deng milltir i gyfeiriad y de-ddwyrain o Aberystwyth. Ei swydd nesaf oedd caplan yr Eglwys yng Nghymru i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Yna, daeth yn ysgrifennydd Cyngor Taleithiol Cenhadaeth ac Undeb yr Eglwys yng Nghymru. Yn 1979, symudodd yn ôl i weinidogaeth blwyfol, ac i fod yn ficer Eglwys Dewi Sant, Caerfyrddin. Bu’n Archddiacon Caerfyrddin o 1982 tan 1985, ac ochr yn ochr â hyn, yn Ficer Llanegwad o 1983 tan 1985. Yn 1985, penodwyd Davies yn Esgob Llandaf; arhosodd yn Llandaf tan iddo ymddeol yn 1999.  

Roedd Davies yn ŵr Uchel Eglwysig ymroddedig; byddai’n mynegi ei ffydd drwy ei ysbrydolrwydd sacramentaidd dwys, drwy ganolbwyntio ar weddïo a thrwy garu pobl. Er nad oedd yn bregethwr cyffrous, yn ôl pob sôn, roedd ganddo’r ddawn i esbonio’n syml ac o’r galon. Ond roedd wedi ymrwymo ei hun i gadw at y traddodiad Catholig, rhywbeth a fyddai’n golygu mynd yn groes i’r llif o ran y farn boblogaidd. Yn y 1970au, pleidleisiodd fel rhan o gorff llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru o blaid y cynnig bod yna wrthwynebiadau sylfaenol i ordeinio menywod yn offeiriaid. Yna, yn 1994, roedd ef yn un o ddau esgob a bleidleisiodd yn erbyn cynnig i ordeinio menywod. Pan fethodd y cynnig hwnnw, cafodd Davies lawer o feirniadaeth lem. Yn y diwedd, newidiodd ei farn. Yn 1996, gwnaeth eilio cynnig a oedd yn cefnogi ordeinio menywod yn offeiriaid, gan ddadlau ‘I cannot go on saying ‘Hold it’, because things cannot go on as they are … The danger with a stalemate is that we are going to be preoccupied with this matter at the cost of neglecting our wider mission.’ Ond drwy wneud hyn, gwnaeth gynhyrfu gelyniaeth yn ei gefnogwyr blaenorol. Yn anffodus, gwnaeth y mater hwn gymylu llawer o’i esgobaeth.  

Roedd Davies yn enwog am ei frwdfrydedd dros yr iaith Gymraeg, gan annog ei defnydd yng ngwasanaethau’r eglwys. Er na wnaeth ef hwn yn fater gwleidyddol, roedd yn sensitif i arwyddocâd ysbrydol y Gymraeg, yr iaith y gwnaeth nifer o bobl ei defnyddio gyntaf i weddïo ac i fynegi eu ffydd. Ar ôl ymddeol, gwnaeth werthfawrogi’n fawr gweinidogaethu mewn pentrefi lle y byddai’r Gymraeg yn cael ei siarad, yn ogystal â chynnal enciliadau achlysurol. Dychwelodd i Sir Gaerfyrddin i fyw yn Llangynnwr.  

Bu farw Davies, yn ddi-briod, ar Awst 7 2013.  Gofynnodd na ddylai gwasanaeth coffa gael ei gynnal ar ei gyfer yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, na molawd chwaith yn ei angladd yn Llangynnwr. Meddai ei olynydd, Barry Morgan, amdano ‘Bishop Roy was a true pastor of pastors …. He led a priestly life of prayer, devoted his life to the Church and he adored people …. His strong pastoral skills, coupled with a phenomenal memory for names and faces and a strong desire to foster the vocations of young people, endeared him to all who met him and he will be greatly missed throughout the diocese.’ 

Ffynonellau 

 Davies, Rt Rev. Roy Thomas, (31 Jan. 1934–7 Aug. 2013), Bishop of Llandaff, 1985–99. Who’s Who & Who Was Who. Adalwyd ar Ragfyr 16 2020, oddi wrth https://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540891.001.0001/ww-9780199540884-e-13123. 

The Rt Rev. Roy Davies – obituaries High church Bishop of Llandaff who changed his mind about women priests. (2013, September 2). Daily Telegraph. Adalwyd ar Ragfyr 16 2020, oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/14891D8E27912A68?p=UKNB 

Price, D.T.W. (1990). A History of Saint David’s University College Lampeter. Volume two: 1898-1971. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru 

Archbishop mourns ‘pastor of pastors.’ (2013, August 8). Western Mail. Adalwyd ar Ragfyr 16 2020, oddi wrth from https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/148139B579C68AE8?p=UKNB 

St Deiniol’s Group (2014). Crossing thresholds. Adalwyd ar Ragfyr 16 2020, oddi wrth http://cinw.s3.amazonaws.com/wp-content/uploads/2015/03/Crossing-Thresholds-English.pdf 

Morrison-Wells, J. (2014). The Rt Revd Roy Thomas Davies. The Link 67,14. Adalwyd ar Ragfyr 16 2020, oddi wrth https://www.uwtsd.ac.uk/media/uwtsd-website/content-assets/documents/alumni/lampeter-society/Link2014.pdf 

Williams, M. (2013, August 23). Obituary: the Rt Revd Roy Thomas Davies. Church Times. Adalwyd ar Ionawr 4 2021, oddi wrth from https://www.churchtimes.co.uk/articles/2013/23-august/gazette/obituaries/obituary-the-rt-revd-roy-thomas-davies