Aled Edwards

Aled Edwards yw prif weithredwr Cytûn: Eglwysi ynghyd yng Nghymru, ac mae’n ymgyrchydd dros alltudion.

Mae Edwards yn Gymro Cymraeg ac yn frodor o Ogledd Cymru. Magwyd yn Nhrawsfynydd, pentref yn Eryri. Yn drist, bu farw ei dad David ychydig cyn chweched pen-blwydd Aled, ac fe godwyd gan ei fam, Katie. Mynychodd Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, ac yna astudiodd Hanes a Diwinyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant. Yn Llanbed, daeth yn Llywydd Undeb Gristnogol y coleg. Ar ôl graddio, hyfforddwyd i fod yn offeiriad yng Ngholeg y Drindod, Bryste. Ordeiniwyd yn ddiacon yr Eglwys yng Nghymru  yn 1979, ac yn offeiriad yn 1980.  

Swydd glerigol gyntaf Edwards oedd dirprwy gurad yng Nglanogwen, ychydig o filltiroedd i’r de-ddwyrain o Fangor. Yn dilyn hyn, gwnaeth weithio fel ficer Llan Dinorwig a Phenisa’r-waun (eto ger Bangor) o 1982 tan 1985. Ei rôl nesaf oedd rheithor Botwnnog, Prosiect Eciwmenaidd Lleol ar y cyd rhwng yr Anglicaniaid a’r Presbyteriaid ym Mhen Llŷn. Yn 1999, symudodd i’r de er mwyn cychwyn ar ei swydd fel Ficer Eglwys Dewi Sant, sydd yng nghanol Caerdydd.   

Yn 1999, yn dilyn datganoli yng Nghymru, penodwyd Edwards yn Swyddog Cyswllt cyntaf Cytûn yn y Cynulliad Cenedlaethol. Fel rhan o’i rôl newydd, dechreuodd gymryd rhan weithredol iawn ym maes gwleidyddiaeth. Mae wedi dweud ‘mae gennyf argyhoeddiad cryf bod eciwmeniaeth yn llifo fel rhan o ewyllys Duw ar gyfer Ei eglwys a’r byd. Credaf yn gryf mewn Cymru lle mae pobl yn dod at ei gilydd i greu math newydd o genedligrwydd bywiog a chymdeithas nad yw’n gadael neb ar ôl – yn enwedig y sawl mwyaf archolladwy a’r rhai sydd wedi’u  gwahardd.’ Llyfr cyntaf Edwards oedd Transforming Power: a Christian Reflection on Welsh Devolution, (Cyhoeddiadau’r Gair, 2001). Ef hefyd oedd golygydd  From Protest to Power: stories from The National Assembly for Wales (Cyhoeddiadau’r Gair, 2003). Mae wedi bod yn gefnogwr cadarn o ddatganoli yng Nghymru, gan ysgrifennu ‘Ers y datganoli, mae Cymru wedi dod yn gymuned fwy cynhwysol a chroesawgar sy’n cael ei llunio’n fwyfwy gan ymrwymiad at gyfleoedd cyfartal a hawliau dynol a rennir.’  

Yn 2006, daeth Edwards yn brif weithredwr Cytûn. Hefyd, yn ystod y flwyddyn honno, rhoddwyd iddo OBE am ei wasanaethau elusennol yng Nghymru.  

Drwy gydol ei amser yng Nghytûn, cafodd Edwards enw da am fod yn ymgyrchydd dros alltudion. Mae wedi bod yn gadeirydd i Gyngor Ffoaduriaid Cymru ac i Alltudion ar Waith (Displaced People in Action; DPIA), elusen a leolir yng Nghaerdydd. Yn ogystal ag eiriol drostynt, mae DPIA wedi helpu alltudion i feddu ar sgiliau iaith Saesneg er mwyn iddynt ailhyfforddi a dod o hyd i waith.  

Drwy DPIA, gwnaeth Edwards sefydlu Grŵp Meddygon Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru (Wales Asylum Seeking and Refugee Doctors Group; WARD).  Er gwaethaf eu potensial enfawr, roedd hi’n anodd dros ben i feddygon a deintyddion a oedd yn alltudion fod yn rhan o’r system a geir yn y DU. Roedd y broses yn rhwystrol yn ogystal ag yn un ddrud. Bwriad y cynllun WARD, a ddechreuodd yn 2002, oedd helpu meddygon a oedd yn geiswyr lloches i gael eu cofrestru gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC). Yn enwedig, gwnaeth eu helpu i basio’r profion iaith Saesneg  sydd yn angenrheidiol os ydynt am weithio o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Gwnaeth hefyd ddarparu canolfan galw heibio er mwyn eu galluogi i gael mynediad at y rhyngrwyd ac at gyfnodolion meddygol a chyfleusterau eraill. Yn 2018, meddai Edwards fod y cynllun hwn o’r radd flaenaf wedi ailhyfforddi dros gant o feddygon sydd wedi cofrestru gyda’r GMC,  a gallai fod werth dros £30 miliwn i’r GIG. Dywedodd Brian Gibbons, Cyn-weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cynulliad Cymru, ‘Os oes gennym bobl yng Nghymru sydd wedi cael eu hyfforddi’n feddygon, yna, rydym am iddynt weithio fel meddygon. Mae’r math cynllun o les i bawb – y meddyg a all ddefnyddio ei sgiliau, y GIG a’r cleifion.’  

Yn ystod yr Hydref, 2008, treuliodd Edwards bythefnos o wyliau  yng Ngharliffonia yn ymgyrchu gydag ymgyrch Barak Obama. Mwynhaodd ei amser gyda’r tîm a wnaeth hyfforddi gwirfoddolwyr i wneud galwadau ffôn er mwyn cysylltu â phleidleiswyr mewn taleithiau a oedd yn dangos gogwydd.  Siaradodd hefyd am ymateb Ewrop i’r etholiad mewn digwyddiad ymgyrchu a gynhaliwyd yn  Sonoma, a leolir yng ngwlad gwin Califfornia. Disgrifiodd Edwards ei brofiadau yn West Wing Wales – Obama for America, a Welsh campaign experience (Cyhoeddiadau’r Gair, 2009). Mae hefyd wedi sôn am weld hanes yn digwydd o flaen ei lygaid.  

Roedd Edwards yn aelod o Bwyllgor Cymru ar y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o 2007 tan 2017. Cafodd ei dderbyn yn aelod o Orsedd y Beirdd yn 2008, gan fabwysiadu’r enw Barddol Aled Madryn. Dyfarnwyd iddo Wobr Cydnabod Cyflawniad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2010 a daeth yn Ganon Metropolitanaidd yn yr Eglwys yng Nghymru yn 2014. Roedd yn gyfarwyddwr Stadiwm y Mileniwm ccc rhwng  2013 a 2017. Yn ogystal, mae wedi darlledu’n rheolaidd ar deledu iaith Gymraeg a Saesneg.  

Heblaw am ei waith, roedd Edwards hefyd yn rhedwr hirbell brwdfrydig, a gwnaeth hyd yn oed gystadlu mewn wltra-farathonau er mwyn codi arian ar gyfer elusennau. Yn ogystal â rhedeg marathon Llundain, gwnaeth orffen y ras wltra 50 km o hyd drwy Barciau Brenhinol Llundain a’r ras 100 km o’r enw ‘Race to the Stones’ (sy’n dilyn llwybr cenedlaethol y Ridgeway). Mae’n briod i Marie, therapydd lleferydd ac iaith ers dros ddeugain mlynedd. Mae ganddynt dri o blant sy’n oedolion, Seimon, Meleri a Steffan, a chwe ŵyr. 

Ffynonellau 

Edwards, Rev. Canon Aled, (born 4 Oct. 1955), Chief Executive, Cytûn Churches Together in Wales, since 2006. Who's Who & Who Was Who. Adalwyd Ionawr 15 2021, oddi wrth https://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540884.001.0001/ww-9780199540884-e-151488. 

Cytûn. (2021). The Reverend Aled Edwards OBE. Adalwyd Ionawr 15 2021, oddi wrth https://www.cytun.co.uk/hafan/?page_id=101&lang=en 

Anglican Communion News Service. (2006, May 4). Churches Together in Britain and Ireland on behalf of CYTUN. [Datganiad i’r Wasg]. Adalwyd Ionawr 15 2021, oddi wrth https://www.anglicannews.org/news/2006/05/churches-together-in-britain-and-ireland-on-behalf-of-cytun.aspx 

Order of the British Empire – The Queen’s birthday honours. (2006, June 17). The Times. Adalwyd Ionawr 15 2021, oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/1124F7D67308B668?p=UKNB 

Edwards, A. (2018). Silence is not an option – Wales must advocate for the poor and oppressed. Adalwyd Ionawr 15 2021, oddi wrth https://nation.cymru/opinion/silence-is-not-an-option-wales-must-advocate-for-the-poor-and-oppressed/ 

Edwards, A. (2017). Evidence for Local Government and Communities Committee. Response from Displaced People in Action. Adalwyd Ionawr 15 2021, oddi wrth https://business.senedd.wales/documents/s57718/RAS%2046%20-%20Displaced%20People%20in%20Action.h 

Brindley, M. (2005, September 19). The Western Mail: refugee doctors now at work. Western Mail. Adalwyd Ionawr 18 2021, oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/10CBFE8DCD934FB0?p=UKNB 

Edwards, A. (2011). Before the referendum tomorrow, ask what devolution has done for Wales. Adalwyd Ionawr 18 2021, oddi wrth https://www.opendemocracy.net/en/opendemocracyuk/before-referendum-tomorrow-ask-what-devolution-has-done-for-wales/ 

Edwards, A. (2008). Aled Edwards. Adalwyd Ionawr 18 2021, oddi wrth http://alededwards.blogspot.com/2008/06/ 

Edwards, A. (2009, January 21). The Western Mail: watching history unfold in the US. Adalwyd Ionawr 18 2021, oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/125E067F5F6575D8?p=UKNB