Ganed Alexander William (Wilhelm) Schapira, Iddew Rwsiaidd, 1847 i Stephan mab Ichil Moses Schapira, athro Hebraeg a Dora Kritschilsky. Tua 1868 troes yn Gristion a chafodd ei fedyddio yn Kishinev. Ffoes i Brydain i ddianc erledigaeth a chofrestru yng Ngholeg Dewi Sant ar 4 Hydref 1872. Mae Cofrestr y Tiwtoriaid yn cofrestru cofnodion ei fod yn “a converted Jew. Educated as a Rabbi. Clever and indefatigable, found great difficulty in acquiring Classics and passing examinations. After 7 terms accepted by the Church Missionary Society and left the College”.
Yn 1876 yn rhan o Gymdeithas Genhadol yr Eglwys teithiodd Schapira i Sierra Leone lle’r ordeiniwyd ef yn ddiacon. Cyfunodd waith cenhadol â rôl Athro Hebraeg a diwinyddiaeth yng Ngholeg Bae Fourah, Freetown. Sefydlwyd y Coleg gan Gymdeithas Genhadol yr Eglwys yn 1827, a’r bwriad gwreiddiol oedd iddo fod yn Ysgol Genhadol Anglicanaidd i hyfforddi athrawon. Ar ôl ymaelodi â Phrifysgol Durham yn 1876, daeth yn sefydliad dyfarnu graddau, gan ddilyn cwricwlwm Prifysgol Durham. Fel sefydliad hollgynhwysol ar gyfer dysgu uwch, gallai unrhyw fyfyriwr o gymeriad da a lwyddodd yr arholiad mynediad fynychu. Darparodd Cymdeithas Genhadol yr Eglwys ddwy ysgoloriaeth hefyd a thalu am y myfyrwyr hynny a ddymunai barhau â'u hastudiaethau mewn diwinyddiaeth.
Llun: Choleg Bae fourah, 1930 https://commons.wikimedia.org/wiki/File:SierraLeoneHofstra2.2.jpg
Ddwy flynedd wedyn yn 1878, ar ôl dychwelyd i Brydain a phriodi â Theresa Elvina, ordeiniwyd Schapira yn Llundain a daeth yn ddinesydd Prydeinig. Symudodd ef a'i deulu i Gaza lle parhaodd â'i waith cenhadol gyda Chymdeithas Genhadol yr Eglwys. Roedd y Gymdeithas wedi cymryd cyfrifoldeb am bedair ysgol yn ddiweddar, gan addysgu rhwng 250 a 300 o blant, ac ehangodd Schapira rôl addysgol y Gymdeithas ymhellach drwy agor ystafell ddarllen boblogaidd, a ddenai’r Mwslimiaid dosbarth uwch. Yn 1882 agorwyd fferyllfa, a chyda'r rhodd gan y diweddar Parchg John Venn o Henffordd, cyn-Brif Ysgrifennydd Cymdeithas Genhadol yr Eglwys, a chodwyd cronfa i sefydlu cenhadaeth feddygol barhaol. Yn 1879 daeth Schapira i sylw’r papurau newydd am rwystro dinistr darganfyddiad archeolegol pwysig. Wrth chwarela cerrig, darganfu'r brodorion gerflun carreg pymtheg troedfedd o dduw Philistaidd yr oeddent wedi ei ddinistrio'n rhannol cyn iddo ymyrryd, gan ddarbwyllo'r awdurdodau Twrcaidd i osod gwarchod drosto i atal ei ddinistrio'n llwyr.
Yn 1884 dychwelodd Schapira i Lundain lle bu'n gweithio’n gurad yn Sant Mark, Whitechapel. Mae cyfrifiad 1851 yn cofnodi mai gan y plwyf yr oedd y ganran uchaf o drigolion Gwyddelig a’r rhai a aned dramor, yn bennaf o'r Almaen, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl a Phrwsia. Roedd y trigolion hynny nad oeddent mewn gwaith tymhorol yn gweithio'n bennaf mewn busnesau teilwrio a gwneud ffrogiau, a ddenai nifer fawr o ddynion Iddewig i'r ardal. Roedd Schapira yn un o bedwar Iddew dychweledig a oedd yn gweithio yn y plwyf. Yn 1890 symudodd ef a'i deulu drachefn, yr adeg hon i Haifa lle daliodd swydd Cenhadwr yr Esgob tan 1895. Yn dilyn ail gyfnod yn gweithio yn yr East End, ac yn glerigwr cenhadol gyda Chronfa Eglwys Dwyrain Llundain, symudodd teulu Schapira am y tro olaf i Dde Cymru Newydd. Yno rhwng 1898 a 1914 bu Schapira yn dal swyddi curad yn Scotsdale, rheithor Cullenswood, offeiriad plwyf George Town, curad yn Woollahra ac wedyn yn olaf gweinidog Ynys Arglwydd Howe. Bu farw ar 14 Hydref 1915 ac mae wedi ei gladdu ym mynwent Waverley, Sydney. Ffynonellau:
Press, Michael D. (2016, 6 Medi). Cerflun marblys 10 troedfedd o Sews yn Gaza yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Textual Cultures, Material Cultures. Adalwyd o http://textualcultures.blogspot.com/2016/09/a-10-foot-marble-zeus-in-nineteenth.html
St George-in-the-East Church. (2020). Jewish Presence (5) – Clergy. Adalwyd o http://www.stgitehistory.org.uk/media/jewishconverts.html
Eglwys St George-in-the-East. (2020). St Mark Whitechapel (Goodman’s Fields) 1839-1925. Adalwyd o http://www.stgitehistory.org.uk/stmarkwhitechapel.html
Prifysgol Sierra Leone. (2014, 17 Gorffennaf) Historical Background. Adalwyd o http://www.tusol.org/historical