Reverend Alfred Augustus Mathews

Chwaraeodd Alfred Augustus (Alf) Mathews (1864-1946) rygbi dros Gymru, pan oedd yn dal yn fyfyriwr yn Llambed.

Ganed Alf yn Rhymni, ychydig filltiroedd i'r de-orllewin o Lynebwy. Roedd yn fab i Jenkin ac Elizabeth Mathews; ei dad oedd prif gyfrifydd ac yn ysgrifennydd Gwaith Haearn Rhymni ac roedd hefyd yn ynad. Alf oedd y pedwerydd mab; roedd ganddo dair chwaer. Cafodd ei addysg yn Llundain, yn Ysgol Bluecoat Christ’s Hospital. Wedyn, yn bymtheg oed fwy na thebyg, symudodd i Goleg Llanymddyfri, lle dysgodd chwarae rygbi. Cofnodir i Mathews chwarae i'r coleg yn erbyn Abertawe; sgoriodd gais ac enillodd Llanymddyfri o saith cais i ddim. 

Ymunodd Mathews â Choleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan yn 1883, gan raddio gyda gradd BA yn 1886. Roedd yn chwaraewr amryddawn dan gamp, a oedd yn rhagori mewn tennis a phumoedd. Cystadlodd yn y ras filltir, y ras ffos a pherth a'r ras rwystrau ym Mabolgampau’r Coleg yn 1885. Fodd bynnag, ei gamp orau oedd rygbi. Bu'n is-gapten y XV Rygbi yn nhymor 1884-85. Dywedwyd iddo gyfrannu:  

‘very largely to the success of the team both in the field and out of it. As one of the team’s organisers he has been most enthusiastic and as a player most unselfish, passing often and generally at the proper time. He is not fast but makes good use of his pace. This season he was first reserve half-back for Wales. May he succeed in getting the much-coveted ‘Colours’ next year.'  (St David’s College and School gazetterhif 1, Mai 1885) 

Reverend Alfred Augustus Mathews and the St David's College Rugby Team 1885-86

Llun: Tîm rygbi Coleg Dewi Sant, tymor 1885-86. Mae A. A. Mathews yn eistedd yn y canol, gyda'r bêl. Mae E. M. Rowland, a chwaraeodd hefyd dros Gymru, ar ddiwedd y rhes ganol i’r chwith. 

Enillodd Mathews ei unig gap dros Gymru yn y gêm yn erbyn yr Alban, a chwaraewyd ym Mharc yr Arfau Caerdydd ar 9  Ionawr 1886. Yn ôl y sôn, tynnodd capten Cymru, C. H. Newman, yn ôl fore'r gêm. Bu Mathews yn bartner i 'Buller'  Stadden  o Gaerdydd yn safle’r hanerwr. Yn ystod y gêm, arbrofodd Cymru gyda chwarae pedwar trichwarterwr yn hytrach na thri. Hwn oedd y tro cyntaf i hyn gael ei  wneud ar lefel ryngwladol. Fodd bynnag, chwaraeodd wyth blaenwr Cymru yn wael ac nid oeddent yn ddigon cryf i herio’r naw Albanwr oedd yn eu herbyn. Ychydig o gyfleoedd a gafodd cefnwyr Cymru i arddangos eu sgiliau. Hanner ffordd trwy'r gêm, aeth Cymru yn ôl i’r patrwm arferol, ond erbyn hynny roedd y drwg wedi ei wneud. Enillodd yr Alban o ddwy gôl ac un cais i ddim. Rhoddodd Cymru y gorau i batrwm y pedwar trichwarter ar gyfer y pedwar tymor nesaf. 

Graddiodd Mathews gyda gradd BA ym Mehefin 1886. Cafodd ei urddo'n ddiacon yn 1887 ac yn offeiriad yn 1888. Gwasanaethodd yn gurad yn Eglwys y Drindod Sanctaidd Abertawe rhwng 1887 a 1892 ac yn ficer yno tan 1897. Chwaraeodd yn rheolaidd dros Abertawe yn ystod tymhorau 1887-88 a 1888-89. Yn enwedig, roedd yn rhan o dîm Abertawe a chwaraeodd yn erbyn Brodorion Seland  Newydd (y tîm rygbi tramor cyntaf erioed i fynd ar daith). Enillodd y Brodorion 11-0. Ni pharhaodd gyrfa dosbarth cyntaf Mathews yn hir ar ôl hyn, er iddo barhau i chwarae i dîm ei blwyf. Daeth hefyd yn ddyfarnwr, gan ennill enw da am fod yn hollol deg. 

Roedd Eglwys y Drindod Sanctaidd, lle bu Mathews yn gweithio, yng nghanol Abertawe. Fe'i hadeiladwyd yn 1843 i geisio ymdopi â’r cynnydd cyflym ym mhoblogaeth y dref.  Roedd Mathews yn boblogaidd  a daeth yn dipyn o bersonoliaeth yn y dref. Ar ôl gorffen chwarae rygbi’n gystadleuol, ffurfiodd Glwb Pêl-droed y Drindod i'r dynion ifanc lleol. I ddiolch am hyn, dyma nhw’n rhoi beic iddo. Wedyn, yn 1897, ymadawodd Mathews  i fynd yn ficer Blaenafon gyda Chapel-Newydd yn Sir Fynwy. 

Y flwyddyn nesaf priododd Mathews ag Ethel Frances Evans, merch Dr Edward Beynon Evans, meddyg teulu o Abertawe. Roedd gan y pâr bedair merch ac un mab, Kenneth, a ddaeth yn gaplan milwrol ar y cadgriwser Norfolk gan ennill DSC. Priododd Barbara, merch ieuengaf Alf ac Ethel, â’r gwleidydd ceidwadol Henry Brooke, ac yn y pen draw daeth yn Farwnes Brooke o Ystradfellte. Eu hŵyr, Peter Brooke, oedd Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon  rhwng 1989 a 1992 pan fu’n un o benseiri'r broses heddwch. 

Yn 1904 symudodd Mathews i Eglwys Sant Paul, Casnewydd, lle arhosodd tan 1933. Yn 1930 fe'i penodwyd hefyd yn Ddeon Gwledig Casnewydd ac yn un o Ganoniaid Trefynwy.  Dywedwyd ei fod yn ddyn o weithgarwch diflino ac o egni di-ben-draw. Yn syth ar ôl cyrraedd ymdaflodd yn gyfan gwbl i waith y Plwyf. Oherwydd ei osgo hoffus a chydymdeimladol iawn, enillodd ymddiriedaeth ei gynulleidfa yn fuan a dechreuodd ar unwaith ar raglen estyniad i'r Eglwys.' Gweithiodd yn ddiflino hefyd i gefnogi'r eglwys dramor, yn enwedig codi arian ar gyfer ysbytai yn Peshawar a Mombassa. 

Roedd gweinidogaeth Mathews yn golygu ei fod yn deall y problemau a achoswyd gan dlodi a diweithdra. Yn benodol, roedd yn ymwybodol o'r trueni a ddaeth yn sgil alcoholiaeth. Rywbryd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, addunedodd i ymwrthod ag alcohol. Hyd yn oed yn ystod ei yrfa rygbi, yr oedd yn wyliadwrus o beryglon alcohol, gan ddweud, 'Yn aelod o dîm pêl-droed Abertawe gallaf dystio nad oes angen diod feddwol i symbylu campau chwaraeon, er fy mod i’n llwyr ymwrthodwr, dydw i byth yn brin o egni nac yn colli fy meddwl, a dydw i ddim yn hyfforddi chwaith yn ystod yr wythnos, a phe bai pawb yn ymatal rhag diodydd meddwol dydw i ddim yn credu y byddai angen hyfforddiant.' 

Yn 1933, symudodd Mathews i'w blwyf olaf, sef St Stephen a St Tatham yng Nghaer-went. Ar ôl iddo ymddeol, treuliodd saith mlynedd olaf ei fywyd yn Great MiltonLlanwen, ychydig y tu allan i Gasnewydd. Fe'i claddwyd gydag Ethel ym mynwent Eglwys Blwyf y Santes Fair, Llanwern. Mae ei wyrion Henry Brooke yn cofio 'dyn mawr iawn a charedig, gyda mwstas gwyn blewogo ychydig eiriau ond roedd ei gyfeillgarwch yn tywynnu.' 

Ffynonellau 

Pierce, D. Jenkins, J.M. & Auty, T. (2018). Who’s who of Welsh international rugby players. Charlcombe Books 

Walters, S. (2016). The fighting parsons: the role of St David’s College, Lampeter, in the early development of rugby football in Wales. Canolfan Peniarth

Ancestry. (2020).Canfuwydyn https://search.ancestrylibraryedition.co.uk 

Brooke, H. (2017). My Welsh grandfather. Canfuwyd 17 June 2020 yn https://sirhenrybrooke.me/2017/03/17/my-welsh-grandfather/ 

Newport past (n.d.). Reverend Alfred Augustus Mathews vicar of St Paul’s church Newport 1904-1933. Canfuwyd 18 Mehefin 2020 yn http://www.newportpast.com/gallery/photos/php/photo_page.php?search=&search2=&pos=1559