Roedd Arthur Augustus Rees (1815-1884) yn bregethwr efengylaidd poblogaidd.
Arthur oedd seithfed plentyn, a phlentyn ieuengaf John Rees, tirfeddiannwr yng Nghaerfyrddin, a'i wraig Anne Catherine née Vander Horst, merch conswl Americanaidd ym Mryste. Roedd plentyndod Arthur yn ansefydlog. Bu ei dad yn byw am beth amser yn Ffrainc, tra arhosodd ei fam ym Mhrydain. Ymddengys nad oedd gan ei fam ddiddordeb arbennig ynddo. Pan oedd Arthur rhwng pump a thair ar ddeg oed, cafodd ei ‘daflu o gwmpas y wlad o un ysgol i'r llall.’
Roedd ei dad wedi bod yn swyddog morwrol, ac yn wir, roedd yn bresennol ym mrwydrau Camperdown a Copenhagen. Pan oedd yn dair ar ddeg oed, dilynodd Arthur ôl troed ei dad trwy ymuno â'r Llynges Frenhinol fel gwirfoddolwr o'r radd flaenaf. Arhosodd yn y llynges am bum mlynedd, gan wasanaethu yn gyntaf yn nwyrain Môr y Canoldir, ac yna yn bennaf yn nyfroedd Portiwgal. Gan ei fod braidd yn bengaled, weithiau byddai'n gwrthdaro gyda'i uwch swyddogion a chafodd ei chwipio sawl gwaith. Gadawodd y Llynges yn 1833 yn dilyn un o'r gwrthdrawiadau hyn, lle dywedodd ei gapten wrtho nad oedd yn ddigon addas i fod ar long.
Mae ansicrwydd ynghylch beth wnaeth Rees ar ôl iddo adael y Llynges. Roedd ganddo lais canu da, ac roedd yn gallu chwarae'r gitâr. Ymddengys iddo dreulio amser yn Llundain ar gyrion y byd theatraidd. Fodd bynnag, yn 1834 neu 1835, profodd dröedigaeth efengylaidd. Astudiodd ei Feibl, mabwysiadodd agwedd fwy difrifol tuag at fywyd, a daeth yn Gristion trylwyr. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, dysgodd Ladin a Groeg iddo'i hun. Ar ôl iddo wneud argraff dda ar rai clerigwyr o Fryste, fe wnaethant godi arian er mwyn iddo gael mynd i Goleg Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.
Derbyniwyd Rees yn fyfyriwr ar 1 Mawrth 1836. Roedd ei gyfoeswyr yn cynnwys Henry James Prince, mab ieuengaf perchennog planhigfa yng ngorllewin India. Roedd gan Rees a Prince gysylltiad agos am y tair blynedd nesaf; roeddent wrth wraidd grŵp o fyfyrwyr Cristnogol, ‘Brodyr Llambed.’ Er gwaethaf anghymeradwyaeth awdurdodau'r coleg o’u duwioldeb gorliwiedig, etholwyd Rees yn ysgolhaig Hannah More yn 1837 ac yn ysgolhaig Butler yn 1838.
Ar ôl iddo raddio, ymddengys bod Rees wedi treulio peth amser yng nghartref Prince yng Nghaerfaddon; cyfarfu hefyd ag Eleanor, ei ddarpar wraig, sef chwaer Prince. Derbyniodd Rees wahoddiad i weithio yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, ar ôl i Alfred Ollivant, ei diwtor yng ngholeg Llanbedr Pont Steffan, ei argymell i Reithor Sunderland, y Parchedig William Webb. Ordeiniwyd ef yn gurad yn 1841, ac ymddengys iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i amser mewn fam eglwys, Capel Sant Ioan, yn hytrach nag Eglwys Plwyf fwy parchus y Drindod Sanctaidd. Am ychydig, roedd pethau'n mynd yn dda; roedd yn boblogaidd a thyfodd ei gynulleidfa dosbarth gweithiol o ran maint. Fodd bynnag, ymddengys nad ef oedd y gŵr mwyaf diplomyddol. Ar ôl iddo bregethu gerbron cynulleidfa ychydig yn fwy chwaethus yn Houghton-le-Spring, bu cwynion am rywfaint o'i iaith ddigyfaddawd. Pan ymchwiliodd esgob Durham, Edward Maltby, i'r achos, roedd rhaid i Rees gyfaddef ei fod wedi traddodi pregeth ddifyfyr. Gorchmynnodd yr esgob iddo ysgrifennu ei bregethau yn llawn, a'i wahardd rhag pregethu y tu allan i'w blwyf ei hun. Er i Rees gael ei ordeinio’n offeiriad fis yn ddiweddarach, buan iawn y disbyddwyd amynedd ei reithor. Naw mis yn ddiweddarach, cafodd rybudd o dri mis. Dywedir bod tair mil o bobl wedi mynychu ei wasanaeth ffarwel.
Dychwelodd Rees ac Eleanor i'w chartref yng Nghaerfaddon. Gofynnodd Rheithor Walcott Sant Swithin iddo fod yn gyfrifol am gapel a gafwyd yn ddiweddar yn Thomas Street. Ymgymerodd Rees â’i ddyletswyddau â ‘brwdfrydedd ac egni… yn arbennig ymhlith y boblogaeth dlotaf.’ Fodd bynnag, gwrthododd esgob Durham gymeradwyo ei benodiad. Er gwaethaf protestiadau’r rheithor a’r gynulleidfa, cafodd Rees ei ddiarddel o’i rôl.
Cyhoeddodd Rees bamffledyn yn egluro ei deimladau; Solemn protest before the church and nation of the Rev. Arthur A. Rees, late minister of Thomas Street Episcopal Chapel, Bath: against his virtual ejection from the ministry of the Church of England, (T. Noyes, 1844). Yn y pen draw, sylweddolodd ei fod wedi ei ‘eni i fod yn wrthwynebwr,’ er ei bod hi'n well ganddo bob amser gael ei alw’n anghydffurfiwr.
Yn fuan wedi hynny, dychwelodd Rees i Sunderland, i ffwrdd o'r ardal lle'r oedd ei frawd-yng-nghyfraith cynyddol enwog yn gweithio. Yn y gogledd-ddwyrain, fe’i croesawyd yn ôl gan lawer o’i gyn-blwyfolion. Ar ôl etifeddu rhywfaint o arian gan ei dad, llwyddodd i adeiladu eglwys newydd, anenwadol. Agorodd Capel Rhydd Bethesda, Sunderland, ym mis Mawrth 1845; yn wahanol i'r mwyafrif o gapeli ar y pryd, nid oedd seddi i'w rhentu. Gweithiodd Rees yno hyd ei farwolaeth yn 1884. I ddechrau, roedd yn defnyddio llyfr gweddi ac yn pregethu mewn gwn ddu. Fodd bynnag, daeth yn fwy anghydffurfiol yn gyflym. Fe wnaeth George Müller, un o sylfaenwyr mudiad y Brodyr, fedyddio Rees fel credadun trwy drochiad llwyr. Dilynodd deuddeg cant o’i gynulleidfa esiampl Rees trwy gael eu bedyddio. Yn ogystal, mabwysiadodd Rees arfer y Brodyr o gynnal cymun bob wythnos ar fore Sul. Fodd bynnag, roedd ganddo'r enw am fod yn unbenaethol; roedd yn cael ei adnabod yn lleol fel ‘pab y Gogledd.’ Roedd y ffurf o lywodraeth eglwysig a fabwysiadodd yn tueddu tuag at Bresbyteriaeth. Roedd yn angerddol dros safbwyntiau apocalyptaidd, gan gysylltu ei ddamcaniaethau ag esgyniad a chwymp Napoleon III yn Ffrainc.
Roedd ffrindiau Rees yn cynnwys nifer o efengylwyr blaenllaw eraill, yn eu plith C.H. Spurgeon, F.B. Meyer a D.L. Moody. Roedd ei bamffled, Reasons for not co-operating in the alleged Sunderland revivals, (Wm. Henry Hills, 1859) yn gwrthwynebu menywod, ac yn arbennig Phoebe Palmer, a oedd yn pregethu yng nghyfarfodydd adfywio Sunderland. Roedd ymateb Catherine Booth, Female ministry: women’s right to preach the gospel (1861) yn un o rannau ffeministaidd mawr y 19eg ganrif. Mewn cyferbyniad, roedd capel Rees yn un o’r cyntaf i gynnal cenhadaeth Saesnig D.L. Moody yn 1873. Dywedir i’r term efengylau darddu gyda Rees, wrth iddo ddisgrifio Ira D. Sankey, a oedd yn unawdydd ac emynydd i Moody, fel cantores yr efengyl.
Bu farw Rees ym mis Ebrill 1884. Fe’i disgrifiwyd fel ‘un o’r gweinidogion mwyaf egnïol, gweithgar, dyfalbarhaol a llwyddiannus yng Ngogledd Lloegr.’
Ffynonellau
Stunt. T.C.F. (2006). Theearlydevelopment of Arthur Augustus Rees and his relations with the Brethren. Brethren Historical Review, 4(1),22-35. Cyrchwyd ar 26 Mawrth 2021 o http://www.brethrenhistory.org/qwicsitePro2/php/docsview.php?docid=422
Grass. T. (2013).Undenominationalismin Britain, 1840-1914. Yn: P.J. Lalleman, P.J. Morden & A.R. Cross (gol.), Grounded in grace: essays to honour Ian M. Randall. (tt. 69-84). Cyrchwyd ar 29 Mawrth 2021 o https://books.google.co.uk/books?id=_FQTEAAAQBAJ&pg=PA74&lpg=PA74&dq=sunderland+%22a.a.+rees%22&source=bl&ots=mTTZJWxXnz&sig=ACfU3U2u17rdVa65rglCUbGDgJ9rgnS85A&hl=en&sa=X&ved=2ahUKEwizrLeuotXvAhXhUBUIHf-SCHA4FBDoATACegQIBRAD#v=onepage&q=sunderland%20%22a.a.%20rees%22&f=false
Everett, J. (1867). The midshipman and the minister: the quarter-deck and the pulpit. Llundain: Hamilton, Adams, a'i gwmni. Cyrchwyd ar 26 Mawrth 2021 o https://www.google.co.uk/books/edition/The_Midshipman_and_the_Minister_the_Quar/rE8BAAAAQAAJ?hl=en&gbpv=1&dq=%22arthur+augustus+rees%22&pg=PA116&printsec=frontcover
Capel Rhydd Bethesda (2019). Hanes. Cyrchwyd ar 26 Mawrth 2021 o https://www.bethesdafreechurch.org/history
Murdoch, N. (1984). Female Ministry in the Thought and Work of Catherine Booth. Church History, 53(3), 348-362. Cyrchwyd ar 29 Mawrth 2021 o http://www.jstor.org/stable/3166274
Marwolaeth pregethwr Cymreig nodedig. (1884, 19 Ebrill). Weekly Mail. Cyrchwyd ar 29 Mawrth 2021 o https://newspapers.library.wales/view/3373088/3373092/86/
Marwolaeth pregethwr Cymreig nodedig. (1884, 18 Ebrill). Western Mail. Cyrchwyd ar 29 Mawrth 2021 o https://newspapers.library.wales/view/4314577/4314579/10/