Ganwyd Charles Ferdinand Brigstocke yn 1808 yn Llawhaden, Sir Benfro, a dilynodd ei dad Thomas, ficer Llawhaden, i'r Eglwys. Ar ôl mynychu'r ysgol yn Hwlffordd, aeth i Goleg Dewi Sant yn ugain oed, ac ar ôl graddio yn 1832, cafodd ei benodiad cyntaf ym Mryste.  Dychwelodd i Sir Benfro yn gurad  dan y Parch. Ddr Humphrey yn Ninbych y Pysgod a chafodd ei ordeinio gan Esgob Caerwynt yn 1837. Flwyddyn wedyn, ar argymhelliad y Gymdeithas er Taenu’r Efengyl a chymeradwyaeth Esgob Llundain, penodwyd Brigstocke yn gaplan yn Ne Cymru Newydd. 

Yn dilyn ychydig wythnosau yn Ryde ar ôl glanio ar 6 Rhagfyr, cychwynnodd Brigstocke ar y  daith bum niwrnod i dref Yass a oedd newydd ei sefydlu, a oedd heb eglwys na ficerdy ar y pryd. O’r herwydd, roedd angen i’r caplan newydd fyw mewn cwt un ystafell. Cynhaliodd Brigstocke wasanaethau dri Sul y mis, i ddechrau yn yr Hen Lys ac wedyn mewn eglwys dros dro. Yn ystod y cyfnod hwn, bu'n weithgar ei ymwneud â’r ymdrechion i godi arian i adeiladu eglwys ar gyfer y dref, ac yn 1847 gosodwyd sylfaen Eglwys Sant Clement ac fe'i hagorwyd yn 1850. 

St Clement's Anglican Church, Yass

Llun: Eglwys Anglicanaidd Sant Clement, YassMattinbgn (sgwrs : cyfraniadau/cc gan https://creativecommons.org/licenses/by/3.0)

Yn ogystal â chynnal gwasanaethau yn Yass, ymwelai Brigstocke â  threfi a  ffermydd ynysig ar draws ardal eang a oedd yn cynnwys Tumut, Gundagai,  Binalong, Boorwa, Adelong a Tarcutta. Roedd llawer o'i deithiau yn cynnwys pellteroedd rhwng 60 a 134km, ac fel llawer o weinidogion teithiol eraill, o bryd i’w gilydd, byddai angen iddo deithio i ardaloedd  y tu allan i'w ardal, a elwid yn 'dir neb'. Ar un o’i ymweliadau niferus, cydymdeimlai’r Esgob William Broughton ag anferthedd tasg Brigstocke a gydag amser penodwyd gweinidogion eraill i'r ardaloedd deheuol, ond roedd plwyf Brigstocke yn parhau’n fawr. Fodd bynnag,  roedd ganddo gryn egni, oherwydd, yn ogystal â'i waith plwyf, bu'n gyfrifol am adeiladu rheithordy ac  ysgol, roedd yn weithgar yn Sefydliad y Mecanyddion, yn rhan o waith adeiladu ysbyty ar gyfer y dref, yn rhoi hyfforddiant crefyddol i’r carcharorion lleol, a chanfu amser i weithredu’n  ysgrifenydd ar y llyfrgell danysgrifio. Ym mis Ebrill 1844 priododd â Susan Adye  a chael saith o blant gyda hi, bu farw dau o’r rhain yn eu plentyndod. 

Yn 1841, fodd bynnag, roedd Brigstocke yn rhan o ddigwyddiad a orfododd yr Esgob i ddirymu ei drwydded. Ymddangosodd llythyr dienw yn y Sydney Herald yn cyhuddo'r ynad lleol, Richard Hardy  o ‘breaking his Sabbath and countenancing moral laxity in the neighbourhood by riding to the hounds on the Sabbath’1. Roedd si mai Brigstocke oedd yr awdur a chynhaliwyd ymchwiliad, a thrwy gyd-ddigwyddiad,  un o'r Comisiynwyr oedd y Parch. Ddr Thomas Hassall, neu’r ‘Galloping Parson' fel y’i gelwid, gynt o Ysgol Ramadeg Llanbedr Pont Steffan. Cymharwyd llawysgrifen y llythyr ag un Brigstocke ei hun, ac er bod cryn amheuaeth mai ef oedd yr awdur, oherwydd  diffyg tystiolaeth llwyddodd i gael ei  adfer yn berson Yass.   Mae’n debygol mai’r amheuaeth barhaus mai ef oedd yr awdur, fodd bynnag, oedd wrth wraidd y penderfyniad i ddyfarnu iddo un ffyrling o iawndal yn unig pan enillodd yr achos yn y Goruchaf Lys yn erbyn Hardy am enllib maleisus. 

Roedd Brigstocke yn y papurau unwaith eto ym mis Gorffennaf 1852 pan ymgymerodd â'r gwaith o gladdu 73 o ddioddefwyr yn dilyn llif erchyll  Gundagai, a achosodd 89 o farwolaethau ac a adawodd dim ond tri adeilad yn sefyll. Wedi ugain mlynedd yn weinidog Yass, bu farw Brigstocke yn dilyn salwch mis yn  ddim ond  51 ac fe'i claddwyd y tu allan i festri drws Eglwys Sant Clement. Cydnabuwyd ei  waith caled a'i ymroddiad gan ei blwyfolion a agorodd gronfa danysgrifio ar gyfer ei garreg goffa, cofeb y tu mewn i'r eglwys a darpariaeth ar gyfer ei wraig a’i bum plentyn oedd yn dal yn fyw. 

Ffynonellau: 

Campbell, Ian, ‘Rev. Charles Ferdinand Brigstocke (1807-1859)’, Articles from “The Crossing Place” Newsletter, (n.d.). Adalwyd o  http://sites.rootsweb.com/~auscdfhg/articles_crossing_place.htm 

Comisiwn Eglwysig. (1842, Ebrill 15) The Sydney Herald Wedi dod ohttps://trove.nla.gov.au/newspaper/article/28651792?searchTerm=Charles%20ferdinand%20brigstocke&searchLimits=l-Title=37 

Phillip, Nan, 'Brigstocke, Charles Ferdinand (1807-1859), Australian Dictionary of Biography,1 (1966). Wedi dod o  http://adb.anu.edu.au/biography/brigstocke-charles-ferdinand-1826