Clerigwr, ysgolhaig a geiriadurwr

Mae cylchgrawn Coleg Dewi Sant ar gyfer 1903 yn cynnwys coflith i Daniel Silvan Evans, wedi’i ysgrifennu gan y Pennaeth Llewellyn John Montfort Bebb, lle mae’n disgrifio Evans fel ‘the most distinguished student who has owed his early training to Lampeter’. Ganwyd ef ym mhentref bychan Llanarth, yn Sir Aberteifi. Yn fab i ffermwr, dangosodd Evans ei rinweddau academaidd yn gynnar yn ei fywyd, gan gyhoeddi ei gasgliad cyntaf o gerddi a thraethodau, Blodue leuainc, pan oedd yn bump ar hugain mlwydd oed, a roddwyd iddo’r enw barddol   Daniel Las. Wedi dechrau pregethu i’r gynulleidfa Annibynnol yr oedd ef hefyd yn aelod ohoni, penderfynodd Evans ar yrfa yn y weinidogaeth, ac yn 1845, ef oedd y pedwar canfed myfyriwr i fynychu Coleg Dewi Sant. Tair blynedd yn ddiweddarach, cafodd ei ethol yn Ysgolhaig a Darlithydd Cymraeg, ond ar ôl wyth mis yn unig o addysgu, ordeiniwyd ef yn ddiacon, yn offeiriad yn ystod y flwyddyn ganlynol, a rhoddwyd iddo ei guradiaeth gyntaf yn Llandygwnning (Llandegonwy) ar Ben Llŷn. Ar ôl pum mlynedd, symudodd i fod yn gurad  ym mhlwyf cyfagos Llangian, a deng mlynedd yn ddiweddarach, penodwyd ef yn Rheithor Llanymawddwy, ym Meirionydd. Yn 1876, cynigiwyd i Evans breswylfa Llanwrin yn Sir Feirionydd, lle y bu’n Rheithor am ddwy ar bymtheg mlynedd. Mewn cydnabyddiaeth o’i wasanaeth plwyfol hir, gwnaethpwyd ef yn Ganon Anrhydeddus Bangor yn 1888, cynigiwyd iddo Sedd Brebendaidd yn yr Eglwys Gadeiriol yn 1891, a gwnaethpwyd ef yn Ganghellor Bangor yn 1895 ac yn Gaplan i Esgob Bangor yn 1899. 

Yn ystod ei fywyd, cyfunodd Evans ei waith plwyfol â’i weithgareddau academaidd, gan gyhoeddi, cyfieithu a golygu tipyn sylweddol o waith. Er ei brif ddiddordeb oedd y Gymraeg, roedd ganddo hefyd ddiddordeb mewn llên gwerin a hanes Cymru, ac yn 1882 ysgrifennodd ar y cyd Ysten Sioned, casgliad o chwedlau gwerin, straeon ysbrydion, cerddi a phenillion. Ef oedd golygydd Archaeologia Cambrensis rhwng 1871 a 1875, ac yn 1878, gwnaeth olygu Celtic Remains gan Lewis Morris.  

Roedd ganddo ddiddordeb gydol oes yn academia, ac am gyfnod, roedd yn Arholwr Cymraeg i Goleg Dewi Sant, a rhwng 1875-1883 yn Athro Cymraeg rhan amser ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Dyfarnwyd iddo, yn 1897,  Gymrodoriaeth o dair blynedd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen er mwyn cydnabod ei enwogrwydd fel ysgolhaig Cymraeg, ac yn 1901, rhoddwyd iddo’r radd anrhydeddus D.Litt. gan Brifysgol Cymru. 

Ond etifeddiaeth Evans yw ei eiriadur mawr; gwnaeth Pennaeth Bebb honni y cafodd hwn ei ddechrau pan oedd Evans yn Llambed, gan ddweud ‘Whenever he read a book, from Llywarch Hen down to Ceiriog or Daniel Owen, he read it with a view to collecting materials for his lexicon’. Cyhoeddodd Evans eiriadur Cymraeg - Saesneg mewn dwy gyfrol yn 1852 a 1858, ond ni chyhoeddwyd rhan gyntaf y Geiriadur Cymraeg tan 1887. Cwblhawyd y gyfrol gyntaf, mor bell â’r llythyren ‘C’, erbyn 1893, a chyhoeddwyd rhifyn cyntaf yr ail ran yn 1896. Ond, er gwaethaf help gan ei fab John, ni chafodd y geiriadur fyth ei gwblhau. Erbyn iddo farw, roedd Evans wedi cynhyrchu dros 1900 o dudalennau ar gyfer ei eiriadur, ond wedi cyrraedd y llythyren ‘E’ yn unig, y rhan olaf hon yn cael ei chyhoeddi yn 1906 gan Walter Spurrell.   

Bu farw Evans ar Ebrill 13eg 1903, yn bum mlwydd a phedwar ugain oed, a chladdwyd ef ym mynwent Cemaes, ger Llanwrin. Yn ei goflith, awgrymodd y Pennaeth Bebb y byddai sefydlu llyfrgell Gymraeg wedi’i henwi ar ei ôl yng Ngholeg Dewi Sant yn goffâd addas iddo ‘to kindle an interest in the study of Welsh literature and history’, ond, yn drist, ni ddigwyddodd hyn. Ond yn Eisteddfod Llambed, a gynhaliwyd ym mis Awst 1907, gwnaeth y coleg gynnig gwobr am ‘Life and Work of Chancellor Silvan Evans’. Flynyddoedd wedyn, ar Orffennaf 5ed 1956, gwnaeth Esgob Bangor weinyddu mewn gwasanaeth a fynychwyd gan y bardd a’r awdur Cymraeg T.H. Parry-Williams, er mwyn gosod carreg fedd ar fedd Evans. Cedwir ei lawysgrifau a’i bapurau preifat yn archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  

Ffynonellau: 

Hughes, R. E. (1959). Evans, Daniel Silvan (1818-1903), cleric, translator, editor, and lexicographer. Dictionary of Welsh Biography. Ar gael oddi wrth: https://biography.wales/article/s-EVAN-SIL-1818 [Adalwyd ar Fai 27 2020]. 

Lloyd, J. E., and Beti Jones. Evans, Daniel Silvan (1818-1903), Welsh scholar and lexicographer. Oxford Dictionary of National Biography. Ar gael oddi wrth: https://www-oxforddnb-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-33034?rskey=corBJo&result=1 [Adalwyd ar Fai 27 2020]. 

St David’s College Magazine, Vol. VIII, No. 6, June 1903, pp.253-255. 

St David’s College Magazine, Vol. IX, No. 5, February 1907, p.268.