Ysgolfeistr, curad a dyddiadurwr oedd David Griffith (1841-1910). Mae ei ysgrifeniadau yn ffynhonnell o wybodaeth amhrisiadwy am hanes yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru.
Ganwyd Griffith yn Nhŷ Cnap, Y Bontnewydd, ger Caernarfon. Mynychodd yr ysgol eglwysig leol ac ymhen hir a hwyr, daeth yn ddisgybl-athro yn yr ysgol honno. Yna, aeth i Goleg Hyfforddi Gogledd Cymru, yng Nghaernarfon. Er iddo ymadael â’r coleg heb dystysgrif, oherwydd nawdd deon Bangor, James Henry Cotton, rhoddwyd iddo swydd athro didrwydded yn yr ysgol yng Nghapel Curig. Arhosodd yno am bedair blynedd ar ddeg; mae ei ddyddiaduron yn llawn o wybodaeth am bobl, lleoedd a llên gwerin yr ardal.
Yn 1875, aeth i Goleg Dewi Sant, Llambed i astudio ar y cwrs tystysgrif dwy flynedd. Roedd nifer o esgobion yn derbyn y ffordd ddwyflynyddol hon fel modd o ennill cymhwyster ar gyfer cael eich ordeinio. Fel Griffith, roedd y rhan fwyaf o bobl a oedd ar y cwrs yn gyn-athrawon ysgol gyda gwybodaeth dda am grefydd, ond heb lawer o allu yn y Clasuron. Teimlodd yn gryf ei fod dan anfantais wrth gystadlu â’i gyd-fyfyrwyr a oedd wedi cael gwell addysg nag ef; hefyd, yn ei farn ef, roedd y disgyblion a ddaeth o ysgolion bonedd yn snoblyd.
O 1877 tan 1883, bu Griffith yn gurad yn Eglwys y Santes Fair (St Mary), Aberdâr, ychydig o filltiroedd i’r de o Ferthyr Tudful. Ond yn ei farn ef, offeiriaid a oedd am Rufeineiddio pethau oedd ei gydweithwyr yno; hefyd, nid oedd yn hoff o gynulleidfa Saesneg eglwys St Elvan. Pan ddaeth yn gurad yn eglwys Gymraeg y Santes Fair (St Mair), gwnaeth feirniadu Piwritaniaeth ei chynulleidfa a dylanwad y sawl a oedd wedi ymadael â’r capeli Cymraeg ac yn ceisio newid yr eglwys i gapel. Ar Fedi 22 1881, ysgrifenodd yn ei ddyddiadur ‘English organists are the death of our Welsh psalmody.’
Ar ôl ei gyfnod yn Aberdâr, symudodd yn ôl i Ogledd Cymru; o 1883 tan 1896 bu’n gurad mewn nifer o blwyfi ar Ynys Môn. Yn dilyn arosiadau byrion yng Ngaerwen ac Amlwch, treuliodd naw mlynedd ym Mhentraeth. Yn y diwedd, gwnaeth gweryla gyda gwraig y rheithor. Gwnaeth gofnodi yn ei ddyddiadur, ‘the churchkilling Rectoress pounced upon us mercilessly for introducing the office of Holy Baptism into the Public Prayer for Sunday morning.’ Gwnaeth y sefyllfa waethygu’n gyflym. Pan wnaeth Griffith wrthod ymddiheuro, rhoddwyd iddo dri mis o rybudd.
Dilynodd cyfres o swyddi byrdymor eraill; gweithiodd yn Nhrefdraeth, sydd hefyd yn Sir Fôn, Hirwaun, Deri ger Bargoed, a Mallwyd. Ei swydd olaf oedd yng Nghwmafon, ychydig o filltiroedd o Flaenafon. Mae’n debyg roedd Griffith yn ddyn anodd. Roedd yn or-sensitif, roedd ganddo duedd i ddychmygu pethau afiach, ac roedd ef mor anfaddeugar y byddai hyd yn oed yn cofio pen-blwyddi rhai digwyddiadau annymunol. Roedd ganddo bob math o ragfarn – yn erbyn Saesonaeth yr Eglwys yng Nghymru, yn erbyn Byddin yr Iachawdwriaeth, ac yn erbyn yr Undodiaid. Wrth iddo fethu cael ei ddyrchafu, aeth yn chwerw tuag at Esgobion Cymru am eu bod nhw, yn ei farn ef, wedi colli cysylltiad â bywydau’r Cymry. Er hynny, roedd yn hael dros ben tuag at grwydriaid a’r sawl a oedd yn anghenus, gan olygu ei fod ef ei hun, bob amser, yn dlawd. Roedd yn ymweld â’i blwyfolion yn ddiflino, ac roedd yn enwog am ei ofal tuag at y sawl a oedd yn sâl neu yn hen. Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes a thraddodiadau’r eglwys leol, a gwnaeth gyfrannu erthyglau niferus at Yr Haul a’r Anglican Cymro.
Bu farw Griffiths ar Ionawr 12 1910, yn gurad o hyd. Nifer o flynyddoedd wedyn, cyfrannodd ei hen blwyfi drwy ychwanegu maen coffa at ei fedd. Mae ei bapurau yn Archifau Prifysgol Bangor.
Ffynonellau
Richards, T., (1959). GRIFFITH, DAVID (1841 - 1910), schoolmaster, cleric, and diarist. Dictionary of Welsh Biography. Adalwyd ar Ragfyr 1 2020, oddi wrth https://biography.wales/article/s1-GRIF-DAF-1841
Description of 'David Griffith, Curate, Journals and papers of David Griffith, Curate, 1853 - 1896. Archifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives. GB 222 BMSS DG' on the Archives Hub website. Adalwyd ar Ragfyr 1 2020, oddi wrth https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmssdg
Notes and comments. (1990). Journal of Welsh Ecclesiastical History, 7, 84. Adalwyd ar Ragfyr 1 2020, oddi wrth https://journals.library.wales/view/1127665/1128296/83#?cv=83&m=6&h=&c=0&s=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F1127665%2Fmanifest.json&xywh=-1670%2C-48%2C5804%2C3549
Price, D.T.W. (1977). A history of Saint David’s University College Lampeter. Volume one: to 1898. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Roberts, R.O. (1961). David Griffith (1841-1910). Province, 12(2), 60-66; 12(3),103-106