Reverend David Henry Davies

Ganwyd David Henry Davies,  neu ‘Ficer Cenarth’ fel yr oedd pawb yn ei adnabod, yn 1828 yn Sir Aberteifi. Un o ddisgynyddion teulu hen a mawr ei barch, ef oedd mab hynaf Daniel Owen Davies, a oedd yn llawfeddyg milwrol gyda 18fed Gatrawd y Troedfilwyr (Y Gwyddelod Brenhinol), a Margaret Coakeley Jenkins. Gwnaeth ei dad ymddeol o’r fyddin yn 1836, gan sefydlu ymarfer meddygaeth a gweithio yn Aberporth, Llanarth a’r Cei Newydd. Yn 1839, gwnaeth Davies ymgofrestru yn Ysgol Ramadeg Llangoedmor, ac yn 1844, cafodd ei brentisio i’w dad. Pedair blynedd wedyn, roedd yn gweithio yn Llundain fel ‘visiting assistant’ gyda’r Meistri Barrow & Nicholson. Ond cafodd dechreuad yr epidemig colera Asiaidd yn 1848-49 effaith fawr iawn ar Davies gan ei argyhoeddi mai gwaith cenhadol oedd ei alwedigaeth. Anfonodd gais at, a chafodd ei dderbyn gan Goleg Cenhadol yr Eglwys yn Islington, ond gwnaeth ei dad ei berswadio bod angen y fath gwaith yng Nghymru.

Felly, agorodd fferyllfa yn y Cei Newydd a gweithiodd fel cynorthwyydd yn ymarfer meddygaeth ei dad. Ym mis Gorffennaf 1855, gwnaeth Davies briodi Anne Harries, nith ei gyn-ysgolfeistr, ond yn yr un flwyddyn, ym mis Medi, bu farw ei dad yn sydyn o deiffoid y gwnaeth ef ei ddal oddi wrth forwr. Am fod cyngor cynharach ei dad wedi gwneud argraff arno, penderfynodd Davies i fod yn weinidog. Treuliodd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn dysgu Cymraeg ac yn ymwneud â bywyd y plwyf gyda chefnogaeth ei gyn-ficer, ond gan barhau hefyd i weithio yn ei fferyllfa. Ar Hydref 1af 1862, pan oedd yn 33 mlwydd oed, gwnaeth Davies ymgofrestru am ddwy flynedd yng Ngholeg Dewi Sant.    

Ordeiniwyd ef gan yr Esgob Thirlwall yn 1864, a chynigiwyd iddo guradiaeth ym mhlwyf Llanboidy, Sir Gaerfyrddin. Ar ôl blwyddyn, symudodd i blwyf Ystumllwynarth, ger Abertawe a chynigiwyd iddo, yn 1867, swydd yn Llan-non, ger Llanelli. Roedd pethau’n wael yno am nad oedd ficerdy nac arian ar gael i atgyweirio adeiladau’r plwyf. Ond erbyn 1870, roedd ficerdy wedi cael ei adeiladu, gyda Davies ei hun yn codi rhan fawr o’r arian, ac erbyn  1875, roedd yr ysgoldy wedi cael ei ymestyn. Roedd Davies yn ficer cydwybodol a dyfal, ac yn 1877, penodwyd ef i blwyf Cenarth yn Sir Gaerfyrddin. Arhosodd yn y plwyf hwnnw tan iddo ymddeol yn 1905, yn 77 mlwydd oed. Bu farw bum mlynedd yn ddiweddarach, a chladdwyd ef ym mynwent  Llanllwchaiarn, ger y Cei Newydd. 

 Roedd Davies hefyd yn naturiaethwr brwdfrydig ac yn enwog fel hynafiaethydd a chasglwr, er nad oedd modd iddo gofleidio ei ddiddordeb yn iawn tan farwolaeth ei ail gefnder, y Parchedig Henry Jenkins, a oedd hefyd yn hynafiaethydd ac yn archaeolegydd amatur.  Gwnaeth Davies etifeddu casgliad Jenkins ac ystâd Dyffryn Bern yng Ngheredigion. Daeth Davies yn aelod blaenllaw o’r Cambrian Archaeological Society, gan roi benthyg darnau a oedd yn ei gasgliad yn rheolaidd. Roedd ei ddiddordebau’n amrywio’n fawr, gan gynnwys ‘rare books, quaint china, swords and coins, broadsides and pearls, pictures and portraits, stamps and stones’. Roedd yn gasglwr llyfrau, yn enwedig llyfrau Cymraeg. Gwnaeth The Cambrian News and Merionethshire Standard adrodd yn 1903, bod Davies yn berchen 2,000 o lyfrau a phamffledi, gan gynnwys y rhan fwyaf o weithiau diwinyddol Griffith Jones ac argraffiad cyfan o’r Archaeologia Cambrensis. Yn ogystal â hyn, roedd ganddo gasgliad helaeth o lyfrau emynau a baledi a gafodd ei gymharu’n ffafriol â chasgliad Myrddin Fardd. 

Yn 1904, gwerthodd  Davies ei lyfrgell, gan gynnwys ei gasgliad o faledi, i Goleg Dewi Sant am  £110, ac ar y cychwyn, cafodd hwn ei arddangos yn Ystafell Gyffredin y Darlithwyr.  

Cyfeirnodau 

Thomas, W. (2005). David Henry Davies: fferyllydd, llengarwr, hynafiaethydd. Carmarthenshire Antiquary, 41, 113-120.

E.L.T (1906). The Rev. D.H. Davies, Vicar of Cenarth.St David’s College Magazine,Vol. IX, No.4, July 1906, 215-217.