Roedd David Nicholas Lockwood (1923-2006) yn glerigwr cefn gwlad, yn fardd ac yn fywgraffydd.

Roedd Lockwood yn frodor o Scarborough. Nid oedd ei fagwraeth wedi bod yn hawdd; gwnaeth ei dad gefnu ar ei deulu pan oedd David dim ond yn bedair blwydd oed. Er bod ei fam yn gweithio fel llyfrgellydd, roedd y teulu yn dal i fod yn dlawd iawn. Mynychodd David Ysgol Ramadeg Drax, ond bu rhaid iddo ymadael â’r ysgol pan oedd yn bymtheg mlwydd oed er mwyn dod o hyd i waith. Dywedodd yn ddiweddarach mai ymadael â’r ysgol oedd un o’r pethau mwyaf caled y bu rhaid iddo ef ei wneud erioed. Am bedair blynedd, cyflogwyd ef fel garddwr yn y blanhigfa leol. Ar ôl hynny, daeth o hyd i waith mewn llyfrgell; gwnaeth hyn ei helpu i ennill ei dystysgrif ysgol uwchradd. Yn 1948, pan oedd yn bum mlwydd ar hugain oed, dechreuodd yng Ngholeg Dewi Sant, Llambed. Dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Phillips am ddwy flynedd, ac yna, gwnaeth raddio â gradd BA mewn Saesneg, gydag anrhydedd. Yn ôl Price, roedd Lockwood yn hoff iawn o Lambed.  

Hefyd, pan oedd Lockwood yn Llambed, gwnaeth gwrdd â’r ferch a fyddai, ymhen hir a hwyr, yn wraig iddo, sef Wilhelmina. Yn 1950, digwydd bod Lockwood yn un o grŵp o fyfyrwyr Llambed a seiclodd ar draws Ewrop er mwyn gweld perfformiad o Ddrama’r Pasg yn Oberammergau. Yn Heidelberg, gwnaeth gwrdd â grŵp o ferched o’r Iseldiroedd (wedi penderfynu cael gwydraid o gwrw yn lle mynychu’r Hwyrol Weddi gyda’i ffrindiau). Yn eu plith oedd Willy, a oedd bryd hynny’n fyfyrwraig yn astudio meddygaeth. Gwnaeth y pâr briodi yn 1954. Aethant ymlaen i gael tair merch, Diana, Helena, a Laura, ac i fabwysiadu mab, Peter. 

Ar ôl ymadael â Llambed, gwnaeth Lockwood baratoi ar gyfer cael ei ordeinio yn Queen’s College, Birmingham. Gwnaeth weithio fel curad yn Halesowen, ac yna yn Bewdley, ychydig o filltiroedd i’r gorllewin o Kidderminster. Yn 1960, daeth yn Rheithor Great Witley a Little Witley, yn ardal Bryniau  Malvern. 

Inside of Great Witley church

Llun: Eglwys Great Witley, lle’r oedd Lockwood yn rheithor 

Bu tueddiadau llenyddol gan Lockwood erioed, ac ochr yn ochr â’i waith plwyfol, roedd hi’n bosibl iddo ddod o hyd i amser i ysgrifennu. Ar ôl pedair blynedd, symudodd y teulu eto, y tro hwn i blwyfi  Hanley Castle a Hanley Swan, (hefyd yn ardal bryniau Malvern). Byddent yn aros yno am y ddwy flynedd ar bymtheg nesaf. 

Yn drist, ym mis Ebrill 1971, tarwyd y teulu â thrasiedi; cafodd Helena eu merch ganol, ei bwrw a’i lladd gan gar ar ei ffordd adref o’r ysgol. Dim ond un ar ddeg mlwydd oed oedd hi. Er i’r drasiedi siglo ffydd Lockwood yn fawr, daeth drwodd y profiad hwnnw gyda rhyw ymdeimlad newydd fod Duw yn ei fywyd. Yn ddiweddarach, ysgrifennodd lyfr amdano Helena, Love and Let Go (Mayhew-McCrimmon, 1975)i’w helpu ymdopi â’i alar. Meddai Lockwood roedd ef eisiau ‘pin Helena down, capture her as she was before time tidied up my memories of her.’ Yn ysgrifennu yn y Church Times, meddai Pruen am y llyfr, ‘Gently and poetically written, it is deeply personal, and is indeed one of those volumes which the author has written for his own sake as much as for that of his readers, who in a sense are eavesdroppers.’ 

Yn 1981, gwnaeth Lockwood ymddeol yn gynnar, gan fwriadu treulio ei amser yn ysgrifennu. Yn yr un flwyddyn, dyfarnwyd iddo radd MA gan Brifysgol Birmingham am ei thesis ar Thomas Carlyle. Yn 1962, gwnaeth ef ymaelodi â’r Kilvert Society, yn dathlu gwaith y clerigwr a dyddiadurwr Fictoraidd, Francis Kilvert. Gwnaeth Lockwood ddathlu canmlwyddiant a hanner genedigaeth Kilvert drwy ysgrifennu’r bywgraffiad cyntaf amdano, Thomas Kilvert, (Seren Books: Poetry Wales Press, 1990). Meddai Palmer am ysgrifennu Lockwood, ‘He has researched far and wide … and has come up with many fascinating titbits of information.’ Ddwy flynedd wedyn, gwnaeth Lockwood ei ddilyn gyda Kilvert, the Victorian (Seren Books, 1992). Cyflwynodd ef ddetholiad o ddarnau o ddyddiaduron Kilvert wedi’u trefnu yn ôl y flwyddyn. Ysgrifennodd Lockwood ragymadrodd i ddetholiad pob blwyddyn. Meddai Price nad oedd ef yn gallu meddwl am well gyflwyniad i Kilvert. Daeth Lockwood yn llywydd y Kilvert Society yn 1999. Cyhoeddodd hefyd sawl cyfrol o farddoniaeth:  Private View (a argraffwyd gan Stanbrook, 1968), Winter Wheat (Gomer, 1986), Marked Paper (Gomer, 1995) The Coming of Age (Three Peaks Press, 2004). 

Bu farw Lockwood yn ei gartref ar Fawrth 9fed 2006. Cynhaliwyd gwasanaeth i ddathlu ei fywyd yn Eglwys San Pedr, Y Clas ar Wy; claddwyd ef ym mynwent Eglwys Llowes, ychydig o gamau o’i gartref. 

Ffynonellau 

Price, D.T.W. (2006, November 2). The Revd. David Lockwood. Church Times. Adalwyd ar Chwefror 1 2021 oddi wrth https://www.churchtimes.co.uk/articles/2005/29-july/gazette/the-revd-david-lockwood 

Price, D.T.W. (2005). Obituary. The Reverend David Lockwood M.A. President of the Kilvert Society. The Journal of the Kilvert Society, 17,1-2.Adalwyd ar Chwefror 1 2021 oddi wrth http://www.thekilvertsociety.org.uk/assets/downloads/archive/kilvert-society-journal-17.pdf 

Cranston, P. (2005). A portrait of the Reverend David Lockwood priest and poet. The Journal of the Kilvert Society, 17,1-2.Adalwyd ar Chwefror 2 2021 oddi wrth http://www.thekilvertsociety.org.uk/assets/downloads/archive/kilvert-society-journal-17.pdf 

Pruen, H. (1975, July 25). Life & death. Love and let go. By David Lockwood (Mayhew-McCrimmon, 80 p.) Church Times.Adalwyd ar Chwefror 2 2021 oddi wrth https://www.ukpressonline.co.uk/ukpressonline/view/pagview/ChTm_1975_07_25_007 

Martin, J. (1976, June 4). Enter the trouble-sharers. Daily Telegraph.  Adalwyd ar Chwefror 2 2021 oddi wrth https://go.gale.com/ps/retrieve.do?tabID=Newspapers&resultListType=RESULT_LIST&searchResultsType=SingleTab&hitCou 

Palmer, B. (1990, July 27). Doyen of diaries. David Lockwood. Francis Kilvert. Seren Books, Poetry Wales Press £10.99. Church Times.Adalwyd ar Chwefror 2 2021 oddi wrth https://www.ukpressonline.co.uk/ukpressonline/view/pagview/ChTm_1990_07_27_011