O waith cenhadol yn Anheddiad Red River Canada i Athro Cymraeg yng Ngholeg Dewi Sant.

Mae'r wybodaeth am fywyd cynnar David Thomas Jones yn denau ac yn anghyson. Fe'i ganwyd rhwng 1795 a 1799 ac  yn ei eiriau ei hun daeth o 'stoc ffermio'. Treuliodd ddwy flynedd yn astudio yn Ysgol Ramadeg Llanbedr Pont Steffan dan ei sylfaenydd y Parchedig Eliezer Williams, ac yn ystod y cyfnod hwn y derbyniwyd ef gan y Gymdeithas Genhadol Gristnogol yn ymgeisydd ar gyfer gwaith cenhadol. Galluogodd y cyflog blynyddol o £40 a ddarparai’r gymdeithas i Jones iddo gwblhau ei astudiaethau yn Llanbedr Pont Steffan, ac yn dilyn hyn parhaodd â’i hyfforddiant diwinyddol dan y Parchedig Thomas Sharpe yn  Mattishall. 

Erbyn Awst 1823, ar ôl ei urddo'n ddiacon ac yn offeiriad, roedd Jones ar fwrdd llong Cwmni Bae Hudson, y Prince of Wales , ar ei ffordd i Ganada. 

Picture of sailing ships

Llun: Llangau Cwmni Bae Hudson y Prince of Wales ac Eddystone yb ffeino gyda'r inuit addi ar Ynysaedd Savage Uchaf Hudson Culfor, Canada gan Robert Hood a gedwir Llyfrgell ac Archifau Canada. (https://commons.wikimedia.org/wiki/File:HBC-Upper_Savage_Islands-Hudson_Strait.jpg)

Y bwriad oedd y byddai'r Jones dibrofiad yn gweithio dan awdurdod John West, Caplan cyntaf Cwmni Bae Hudson (CBH). Fodd bynnag, roedd West wedi ei wneud ei hun yn amhoblogaidd yng ngolwg George Simpson, llywodraethwr adran ogleddol CBH, ac wedi cael ei alw adref.  Fodd bynnag, ystyriai Simpson fod Jones yn 'great acquisition'1 ac felly y bu. Gyda chymorth ei gydweithiwr y Parchedig William Cockran, a ymunodd â Jones yn 1825, datblygodd presenoldeb Cristnogaeth Brotestannaidd yn gyflym ar hyd afon Red. Erbyn 1836 roeddent wedi goruchwylio gwaith adeiladu Sant Paul  (neu’r Eglwys Ganol fel y’i gelwid) a Sant Andrew (sef yr Eglwys Uchaf) yn ogystal â sefydlu Cenhadaeth Indiaidd a oedd yn gwasanaethu Indiaid Salteaux. Yn ôl adroddiadau Cymdeithas Genhadol yr Eglwys roedd y cynulleidfaoedd ar y Sul ar gyfartaledd dros 450 o bobl a thros 600 o unigolion wedi eu bedyddio yn yr anheddiad. Rhoddodd un o’r ymsefydlwyr y disgrifiad hwn o Jones: 'fine and eloquent preacher; tender-hearted, kind, and liberal to a fault… he was all but idolized'2. 

Yn 1828 dychwelodd Jones am gyfnod byr i Brydain gan ddychwelyd y flwyddyn ganlynol gyda'i briodferch, Mary. Ychydig ar ôl dychwelyd, awgrymodd y dylid adeiladu ysgol breswyl neu academi 'for the moral improvement, religious instruction, and general education of Boys; the sons of Gentlemen belonging to the Fur Trade'3. Gyda chymeradwyaeth y Llywodraethwr Simpson adeiladwyd yr Academi ac roedd yn cynnwys adain ar wahân i ferched o dan oruchwyliaeth Mary Jones. Hon fu etifeddiaeth Jones, oherwydd erbyn 1835 roedd tri ar hugain o fechgyn a phedair ar hugain o ferched yn mynychu Academi Red River, a unwyd yn 1833 ag ail Academi yn Kildonan ac  yn 1849  daeth yn Goleg Sant Ioan. Fodd bynnag, roedd Jones a Cockran  yn llai llwyddiannus gyda'r ysgol breswyl i’r Indiaid sefydlwyd gan  John  West, yn bennaf oherwydd gwrthwynebiad y Llywodraethwr Simpson a'i wrthodiad i ganiatáu i blant Indiaidd newydd ei mynychu. 

Illustration of a church

Llun: Eglwys Brotestannaidd ac Ysgol Genhadu, Trefedigaeth Red River 1820-1840 (https://commons.wikimedia.org/wiki/Category:Mission_schools#/media/File:Protestant_Church_and_Mission_School,_Red_River_Colony.jpg) (c) C. Heath. Wikimedia Commons

Oherwydd awyrgylch gwleidyddol anheddiad Red River roedd rhaid i Jones droedio llwybr anodd. Fe’i brawychwyd gan y modd y byddai’r masnachwyr ffwr yn ecsbloetio'r boblogaeth ond roedd y diwylliant Indiaidd yr un mor wrthun iddo. Yn gaplan i CBH a chenhadwr i'r Gymdeithas Genhadol Gristnogol, ymdrechodd i osgoi gwrthdaro a chadw’r ddysgl yn wastad. Dechreuodd yr awyrgylch gofidus a'r amodau caled effeithio ar iechyd Jones. Roedd bywyd cenhadwr yn anheddiad Red River yn golygu oriau hir mewn amodau rhewllyd yn yr hydref, y gaeaf a'r gwanwyn, tra roedd yr haf yn drymaidd a’r mosgitos yn bla. Yn nyddiadur Jones yn 1837 mae'n dweud y byddai’n codi am 4 a.m. i farchogaeth i Grand Rapids, yn gadael Cockran  am 9:00 a.m., ac yn pregethu yn yr anheddiad Indiaidd am 11:00,  gan ddychwelyd adref am 9:00 p.m. Mae cofnod arall yn disgrifio sut y syrthiodd ef a'i geffyl i mewn i afon a chael eu gorfodi i barhau â'u taith yn wlyb diferu ac yn crynu4. 

Yn 1836 dioddefodd Jones gyfres o drychinebau; ym mis Mehefin cafodd y newyddion fod ei fam wedi marw ac nad oedd y Gymdeithas Genhadol Gristnogol bellach yn gallu darparu cefnogaeth ychwanegol i anheddiad Red River; yr haf hwnnw cyrhaeddodd llong CBH yn rhy hwyr i ddadlwytho’r cyflenwadau angenrheidiol; ym mis Awst, difethodd haid o adar ei gnwd haidd ac ym mis Hydref, bu farw ei wraig Mary wrth roi genedigaeth i blentyn, gan adael  Jones i ofalu am bump o blant o dan bum mlwydd oed. Ar 11 Awst 1838 dychwelodd e a'i deulu  adref ac yn 1839 roedd Jones yn gweithio’n gurad yn Eglwys Llambed. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno fe'i penodwyd yn Athro'r Gymraeg yng Ngholeg Dewi Sant. Fodd bynnag, byr fu ei yrfa addysgu oherwydd yn dilyn trawiad paralytig yn 1843 roedd yn rhaid iddo  ymddeol i fywoliaeth Llangoedmor, lle bu farw ar 26 Hydref 1844. 

Adroddodd ei ysgrif goffa yn Yr Haul ei fod wedi ei ddonio â’r rhinweddau uchaf; yn bregethwr ei fod yn fwy dawnus o lawer na’r cyffredin; yn Gristion ei fod yn ddidwyll a diduedd5. 

Ffynonellau: 

Ar gyfer y cofiant hwn manteisiwyd yn helaeth ar  erthygl a ysgrifennwyd gan D.T.W. Price ac a roddodd yn garedig i archif y  Brifysgol. 

Price, D. T. W, 'A Welsh Missionary At Canada’s Red River Settlement, 1823-38’Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,  xxvii (1991-2), tt. 217-244 

Johnson, S.M. a T.F. Bredin. Jones, David Thomas, Dictionary of Canadian Biography. Ar gael: http://www.biographi.ca/en/bio/jones_david_thomas_7E.html  [darllenwyd: 23 Mai 2020] 

Llyfrgell Genedlaethol Awstralia. Ar gael: https://trove.NLA.gov.au/  [darllenwyd 23 Mai 2020].