Roedd Edward Arundel Verity (1822-1910) yn offeiriad plwyf a gafodd ei gyhuddo o ddwyn arian ei eglwys. Roedd hefyd yn gaplan y fyddin a honnodd ei fod wedi gweithio gyda Florence Nightingale. Roedd yn ecsentrig, yn radical ac yn un o offeiriad plwyf mwy lliwgar ei natur.
Ganwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Morgannwg, yn un o 14 plentyn i'r meddyg Dr Abraham Verity, a'i wraig Catherine Jenkins gynt. Fel ei frodyr, hyfforddodd Edward yn wreiddiol fel meddyg, ond wrth roi'r gorau i hyn, aeth i Goleg Tyddewi, Llanbedr-Pont-Steffan yn 1841. Cafodd ei ethol fel uwch-ysgolhaig ym mis Mehefin 1844. Enillodd BD yn 1853 (y flwyddyn gyntaf i'r coleg ddyfarnu'r cymhwyster).
Swydd glerigol gyntaf Verity oedd curad Trawden, Sir Gaerhirfryn. Dywedodd yn ddiweddarach ei fod ‘yn gweddu pob y rhanbarth fel yr oedd Livingstone yn Unyanembe yn Affrica.’ Dywedir iddo bregethu ei bregeth gyntaf mewn menig lelog, a siaradodd mewn acen nad oedd ei blwyfolion yn ei ddeall. Fodd bynnag, cafodd ei ordeinio fel offeiriad yn 1845, a'i benodi fel ficer cyntaf eglwys newydd, yr Holl Saint, Habergham, ar gyrion Burnley. Ar yr adeg hon, roedd gwasanaethau'n dal i gael eu cynnal yn yr ysgol. Adeiladwyd yr eglwys gan Sir James Kay Shuttleworth o Gawthorpe Hall a John a James Dugdale o Lowerhouse am £5,200, ac fe'i hagorwyd yn 1849. Ar y dechrau, roedd perthynas Verity â'r ddau deulu cyfoethog yn dda. Fodd bynnag, cododd ffrae. Yn ddiweddarach, dywedodd Verity mai'r rheswm dros hyn oedd ei gefnogaeth am y Mesur Deng Awr, a oedd yn cyfyngu oriau gwaith menywod a phlant 13-18 oed i ddeng awr y dydd. Yr hyn sy'n eironig yw ei bod yn debygol fod y Dugdales yn trin eu gweithwyr yn gymharol dda. Fodd bynnag, roedd Verity wedi colli cymeradwyaeth ei noddwyr pwerus. Gwrthododd y Dugdales a'r Shuttleworths ddarparu persondy.
Roedd Verity yn anllythrennog yn ariannol, ac erbyn y 1850au, roedd mewn anhawster ariannol. Roedd wedi rhoi benthyg £350 i'w dad yng nghyfraith, William Turner. Ad-dalodd Turner y ddyled ym mis Medi 1854, ond aeth yn fethdalwr yn fuan wedi hynny. Ym mis Mawrth 1855, cododd ei gredydwyr gamau gweithredu yn erbyn Verity i adennill yr arian, gan ddadlau fod yr ad-daliad gyfystyr â 'dewis twyllodrus' i aelod o'r teulu yn erbyn y dyledwyr eraill.
Gan glywed am ddiffyg caplaniaid, gwirfoddolodd Verity i wasanaethu yn y Crimea, gan adael curad yn rheoli yn Habergham. Soniodd am ysbyty yn Scutari yn ei ddyddiadur, ond nid am Florence Nightingale. Fodd bynnag, honnodd yn ddiweddarach ei fod wedi cwrdd â hi. Roedd y lleoedd y gwnaeth ymweld â nhw yn cynnwys Balaclava, Sebastopol, Inkerman, Varna a Shumla. Yna, marchogodd o Adrianople i Bucharest ar gefn ceffyl, gan ddisgrifio ei anturiaethau mewn llyfr o'r enw Adventures in European Turkey or a Ride over the Balkan Mountains. Ymddengys nad oes unrhyw gopïau ohono wedi goroesi.
Dychwelodd adref yn 1856. Er y dyfarnwyd ei fod yn fethdalwr ac iddo dreulio tri mis yn y carchar, roedd yn bendant na fyddai unrhyw beth yn gwneud iddo ymddiswyddo o'i swydd yn Habergham. Fodd bynnag, cynigiodd Syr James Kay Shuttleworth y swydd i Arthur Nicholls, gŵr ffrind teulu, Charlotte Brontë. Gwrthododd Nicholls y swydd; Ysgrifennodd Charlotte at ei ffrind, Ellen Nussey, ‘… mynegwyd dymuniad cryf y dylai Arthur ddod, ond nid yw hynny'n bosib o gwbl.’
Datblygodd Verity ddiddordeb mewn gweithgareddau undeb llafur, gan ennill enw fel un o'r ychydig glerigwyr yn Eglwys Lloegr a oedd yn radical. Annerchodd sawl cyfarfod yn ystod streic Padiham Weaver yn 1859. Roedd hefyd yn rhan o streic Gwehyddion Colne ac yn cefnogi Cyllellwyr Sheffield. Roedd wrth ei fodd â dadleuon a gallai siarad neu bregethu ar unrhyw bwnc heb fawr o rybudd. Cymharodd weithwyr y felin â chaethweision gwyn a pherchnogion y felin â deiliaid caethweision, gan gymharu'r melinau i leoliadau llawn drygioni. Siaradodd hefyd mewn sawl tref o blaid y symudiad undeb llafur.
Aeth pethau o ddrwg i waeth pan ddiflanodd set arian y cymun, a roddwyd gan y Dugdales. Cyfaddefodd Verity yn y pen draw iddo werthu'r set ar gyfer sgrap a chadw'r elw! Mae cofnod yn y gofrestr gladdu ar gyfer 1870 yn nodi: 'Ar y Sulgwyn ar 5 Mehefin, cafodd set Gwasanaeth Arian y Cymun ei ddwyn o'r eglwys hon ac ni chafodd ei ddychwelyd.' Honnodd Verity fod y set wedi cael ei rhoi iddo'n bersonol yn lle rhenti'r eisteddleoedd. Fodd bynnag, gwnaeth wardeiniaid yr eglwys ddwyn yr achos gerbron Brawdlysoedd Lerpwl ar 23 Rhagfyr 1870. Canfu y rheithgor bod Verity yn euog, a gorchmynnwyd iddo dalu gwerth yr arian gwreiddiol, ynghyd â chostau sylweddol.
Yna yn 1872, cyhuddwyd Verity o dorri i mewn i'r fynwent i gloddio am gyrff marw John Dawson, a fu farw yn 1871, ac Alice Parker, a fu farw yn 1869. Dywedwyd bod Verity wedi claddu eu cyrff, ynghyd â dau blentyn William Beardsworth, mewn bedd arall. Yn achos Verity, esboniodd fod John Dawson wedi ei gladdu mewn bedd a oedd wedi'i addo i rywun arall. Roedd rhywun wedi gofyn am fedd Alice Parker, fel y gallai gladdu ei ail wraig ger ei wraig gyntaf. Dywedodd Verity bod oddeutu ugain o gyrff wedi cael ei symud dros y blynyddoedd.
Gan fanteisio ar ei waradwydd, dechreuodd Verity ar daith ddarlith o ogledd-ddwyrain Sir Gaerhirfryn, gan siarad am ‘The facts and incidents of my life in Lancashire; my trial and the lessons which may be learned from it.’ Mewn un ddarlith, disgrifiodd ei blwyfolion fel 'Torf anfoesgar, greulon nad oeddent yn ymwybodol o briodi: yn frwnt ac yn ddrewllyd: yn byw mewn tai â thri neu bedwar teulu.’
Er gwaethaf popeth, arhosodd Verity yn ei swydd yn Habergham am bedair blynedd ar ddeugain, gan ymddeol yn 1893 yn unig. Priododd ddwywaith; ei wraig gyntaf oedd Jane Isabella Turner. Ar ôl iddi farw yn 1857, ailbriododd â Jane Bibby, merch ei warden eglwys. Roedd yn dad i 14 plentyn; ond yn drist iawn, bu farw saith ohonynt yn ystod eu plentyndod. Yn y pen draw, aeth Verity a'i ail wraig, Jane, i fyw gyda'u mab, Frederick Abraham, yn Castleton, ger Rochdale. Bu farw Verity yno ym mis Awst 1910. Cafodd ei gladdu yn Habergham gyda'i ail wraig. Daeth 1,200 o bobl i'w angladd yn ôl pob sôn.
Ffynonellau
The Times. Coflith. Y Parchedig E.A. Verity. The Times. 25 Awst 1910. Ar gael yn: https://go-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/ps/retrieve.do?tabID=Newspapers&resultListType=RESULT_LIST&searchResultsType=SingleTab&searchType=AdvancedSearchForm¤tPosition=12&docId=GALE%7CCS152238873&docType=Obituary&sort=Pub+Date+Forward+Chron&contentSegment=ZTMA-MOD1&prodId=TTDA&contentSet=GALE%7CCS152238873&searchId=R12&userGroupName=walamp&inPS=true&ps=1&cp=12 [Accessed 30 April 2020]
Clercod Plwyfol Ar-lein Sir Gaerhirfryn. Eglwys yr Holl Saint, Habergham yn Sir Gaerhirfryn. Ar gael yn: https://www.lan-opc.org.uk/Burnley/Habergham-and-Habergham-Eaves/allsaints/index.html. [Mynediad ar 30 Ebrill 2020]
Brigg, M. Life in east Lancashire, 1856-60: a newly discovered diary of John O’Neil (John Ward), weaver, of Clitheroe. Transactions of the Historic Society of Lancashire and Cheshire. 1968;120:87-133. Ar gael yn: https://www.hslc.org.uk/wp-content/uploads/2017/05/120-7-Brigg.pdf [Accessed 1 May 2020]
Verity, T.E.A., wedi'i olygu gan Ward, J.T., (1977). Edward Arundel Verity, vicar of Habergham: ân Anglican parson of the Industrial Revolution. Transactions / Lancashire and Cheshire Antiquarian Society, 79,73-94
Hall, B. (1990). ‘Parson sham?’ – y Parchedig Edward Arundel Verity. Lancashire Local Historian, 5, 15-27