Flora Winfield yw Ymgynghorydd Cymodi Archesgob Caergaint. Mae’n rhan o uwch dîm Palas Lambeth, ac mae’n arwain gweinidogaeth gymodi Justin Welsby.

Addysgwyd Winfield yn Uwchysgol Ferched Portsmouth, ac yna yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llambed. Graddiodd hi yn 1985, ac yna, daeth yn weithiwr lleyg Christ Church, Abbeydale, Swydd Gaerloyw. Ar ôl astudio am dystysgrif mewn diwinyddiaeth yng Ngholeg Ripon, Cuddesdon, Rhydychen, ordeiniwyd hi yn ddiacones yn 1989.  Daeth hin ddiacones blwyfol ym Mhlwyf Ecwmenaidd Stantonbury ac Willen, Milton Keynes, partneriaeth ecwmenaidd rhwng yr Anglicaniaid, y Bedyddwyr, y Methodistiaid, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, y Catholigion a Byddin yr Iachawdwriaeth  Yn dilyn hynny, gweithiodd fel Swyddog Ecwmenaidd Sirol cyntaf Swydd Gaerloyw.  

Yn 1994, ordeiniwyd Winfield yn offeiriad, un o glerigwyr benywaidd cyntaf Eglwys Loegr. Ei swydd nesaf oedd fel caplan a thiwtor yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen. O 1997 tan 2002, bu hi’n Ysgrifenyddes i Local Unity ac yn Ymgynghorydd i Dŷ’r Esgobion ar gyfer Cyngor Archesgobion Eglwys Loegr. Hefyd yn 1997, daeth hi’n gaplan i Luoedd arfog Ei Mawrhydi; felly hi oedd caplan benywaidd cyntaf y fyddin ym Mhrydain. Yn 2002, daeth Winfield yn Ganon Preswyl yn Eglwys Gadeiriol Caer-wynt ; bu ei rôl yn cynnwys annog a chydlynu staff a gwirfoddolwyr y gadeirlan wrth iddynt ofalu am ymwelwyr. Roedd hi hefyd yn gyfrifol am ddatblygu gwaith addysgol ac annog gofal bugeiliol y gadeirlan.  Yna, symudodd i’r World Conference of Religions for Peace, yn wreiddiol fel Ysgrifenyddes Gynorthwyol Gyffredinol ac yna fel Ymgynghorydd Arbennig. Mae gweledigaeth Religions for Peace yn rhagweld byd lle mae cymunedau crefyddol yn cydweithio’n effeithiol dros heddwch; mae’r mudiad hwn wedi ymrwymo ei hun i arwain ymdrechion ar gyfer hyrwyddo cydweithrediad amlgrefyddol effeithiol dros heddwch ar lefelau byd-eang, rhanbarthol, cenedlaethol a lleol.  

Winfield oedd penoffeiriad St Mary-at-Hill, eglwys gan Christopher Wren yn Billingsgate, Dinas Llundain, o 2008 tan 2014. Ochr yn ochr â hyn, hi hefyd oedd Ysgrifenyddes Perthnasau Anglicanaidd Archesgob Caergaint. Yna, treuliodd hi dair blynedd fel Cynrychiolydd Parhaol Y Cymundeb Anglicanaidd i’r Cenhedloedd Unedig yn Geneva. Yn 2017, daeth Winfield yn Gynrychiolydd Arbennig Archesgob Caergaint i’r Weriniaeth; crëwyd y rôl hon ymlaen llaw cyn cynnal cyfarfod Penaethiaid Llywodraethau’r Weriniaeth yn Llundain ym mis Ebrill 2018. Penodwyd Winfield gan yr Archesgob Justin Welby yn 2019 fel ei Ymgynghorydd Cymodi, ac yn rhan o uwch dîm Palas Lambeth. Yn ogystal ag efengylu, bod yn dyst ac ailgychwyn gweddïo, mae Welby yn ystyried cymodi yn un o’i dair blaenoriaeth bersonol. Mae Winfield yn goruchwylio’r mentrau cymodi y gwnaeth Welby eu  sefydlu. Er enghraifft, mae ‘The Difference Course’ yn ceisio cyfarparu Cristnogion i fod yn gymodwyr yn eu cymunedau eu hunain. Mae ‘Women on the Front Line’ yn canolbwyntio ar rôl menywod fel unigolion sy’n hyrwyddo heddwch pa le bynnag y ceir gwrthdaro; gall arweinwyr sy’n fenywod ddarganfod undod wrth rannu eu profiad o wrthdaro.  Cânt eu helpu i ddefnyddio’r sgiliau cywir i gynorthwyo eu cymunedau wrth iddynt ailsefydlu heddwch. Mae’r ‘Peacebuilding Team’ yn gweithio gydag eglwysi yn y parthau gwrthdaro anoddaf o gwmpas y byd.  

Winfield ac Elizabeth Welch oedd cydawduron Travelling together: a handbook on local ecumenical partnerships. Mae hwn yn llawlyfr cynhwysfawr ar bartneriaethau ecwmenaidd lleol a gafodd ei gyhoeddi gyntaf gan Churches Together yn Lloegr yn 1995, ac yna ei ailgyhoeddi fel fersiwn ddiweddaredig yn 2004. Dilynodd Winfield hyn gyda Releasing energy: how Methodists and Anglicans can grow together (2000); Growing Together: working for unity locally (2002) a Working with Partner Churches in the Diocese: a handbook for new bishops (2002). Yn Growing Together, gwnaeth hi ddadlau bod undod Cristnogol yn ymwneud â chyfeillgarwch, y fath o gyfeillach sy’n gorfoleddu yn amrywiaeth, yn ogystal ag yn y pethau hynny sydd gennym yn gyffredin, ac sy’n parhau i garu a pharchu hyd yn oed wrth wynebu anghytundebau.     

Yn 2010, dyfarnwyd i Winfield Ddoethuriaeth mewn Diwinyddiaeth gan Athrofa Ddiwinyddol Virginia. Mae hi’n Ganon Emeritws yn Eglwys Gadeiriol Caer-wynt. Mae hi’n briod â’r Canon Jonathan Gough, un arall o raddedigion Llambed ac Archddiacon Richmond a Craven. 

Ffynonellau 

Archbishop of Canterbury (2019). Archbishop of Canterbury appoints new Advisor for Reconciliation. Adalwyd ar Awst 10 2020, oddi wrth https://www.archbishopofcanterbury.org/news/latest-news/archbishop-canterbury-appoints-new-advisor-reconciliation 

Archbishop of Canterbury (n.d.) The Archbishop’s staff team. Adalwyd ar Awst 10 2020, oddi wrth https://www.archbishopofcanterbury.org/lambeth-palace/archbishops-staff-team#na 

Winfield, Rev. Canon Flora Jane Louise, DL; Archbishop of Canterbury’s Special Representative to the Commonwealth, since 2017. (2019). Who’s Who & Who Was Who.Adalwyd ar Awst 10 2020, oddi wrth https://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540884.001.0001/ww-9780199540884-e-247397. 

Welsh, E. & Winfield, F. (2004). Travelling together: a handbook on local ecumenical partnerships. Adalwyd oddi wrth https://www.cte.org.uk/Publisher/File.aspx?ID=45303 

New pastor will spread the word. (2002, March 26). Hampshire County PublicationsAdalwyd oddi wrth https://infoweb.newsbank.com/resources/doc/nb/news/10D865D14794A5F1?p=UKNB 

50 Religions for Peace. (2020). Vision, mission & principles. Adalwyd ar Awst 10 2020, oddi wrth https://rfp.org/learn/vision-mission/