Gwnaeth Maurice Jones (1863-1957) arwain Coleg Dewi Sant, Llambed, am bedair blynedd ar ddeg, a’i achub ar adeg pan oedd cyflwr y coleg i weld yn anobeithiol.

Daeth Maurice o Drawsfynydd, ychydig o filltiroedd i’r de o Ffestiniog. Ef oedd yr ail o saith o blant William Jones, crydd y pentref, a’i wraig Catherine. Ond er gwaethaf cyflwr diymhongar eu cartref, roedd yn llawn o lyfrau. Ac eithrio’r rheithor, Maurice oedd yr unig unigolyn yn y pentref i dderbyn papur newydd Saesneg yn rheolaidd. Ysgrifennodd Maurice yn ddiweddarach fod ei yrfa addysgol wedi bod ‘entirely due to an accident.’ Cynigiwyd iddo le am ddim yn Ysgol Friars Bangor gan ei phrifathro, D. Lewis Lloyd, mab yng nghyfraith ei reithor lleol. Ar ôl Ysgol Friars, mynychodd Maurice Goleg Crist Aberhonddu pan symudodd Lloyd yno. Felly, achubwyd Jones rhag gweithio drwy gydol ei oes naill ai fel crydd, neu yn chwareli llechi Blaenau Ffestiniog.  

Ar ymadael â’r ysgol, aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen ac enillodd radd dosbarth cyntaf mewn diwinyddiaeth; ef hefyd oedd cocs cwch y coleg. Yn ddiweddarach, gwnaeth gyfaddef mai ei reswm am fod yn glerigwr oedd y ffaith mai’r Eglwys oedd yr unig gorff a oedd yn fodlon ei helpu’n ariannol i dderbyn hyfforddiant. Ond ni wnaeth fyth ddifaru gwneud y dewis hwnnw. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1886, dim ond pythefnos ar ôl iddo orffen ei gwrs. Bu’n gurad yng Nghaernarfon ac yn y Trallwng, cyn gwneud cais i fod yn gaplan yn y fyddin am dâl offeiriad o £300 y flwyddyn (yn hytrach na £120 am fod yn gurad). Yn drasig, yn ystod y blynyddoedd hyn, bu farw ei wraig gyntaf Catherine (Griffith gynt) o’r ddarfodedigaeth a’u dau blentyn bach. Byddai ef yn priodi ddwywaith eto; bu farw ei ail wraig Emily (Longmore gynt) yn 1906. Priododd ef Jenny Bell yn 1911.  

Treuliodd Jones bum mlynedd ar hugain yn y fyddin, yn gwasanaethu’n fyd-eang. Roedd ef bob amser wedi gallu trafod dynion yn dda, ac felly roedd e’n arbennig o addas ar gyfer y swydd hon. Treuliodd chwe blynedd ym Malta, ac yno bu’n Gadeirydd Bwrdd Arholwyr y Brifysgol ac o’r Comisiynwyr Sifil. Yn ystod Rhyfel y Boer, bu ef yn gaplan i’r Arglwyddi Roberts a Kitchener. Byddai Roberts yn mynychu tri gwasanaeth bob dydd Sul, a Kitchener dim ond un yr wythnos (i fodloni Jones). Yna, treuliodd Jones dair blynedd ar ddeg ar wyliadwriaeth gartref a’u dilyn gyda chyfnod yn Jamaica. Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, dywedwyd wrtho, fel uwch gaplan, y byddai’n cael parhau i aros ar y ffrynt gartref. Gwnaeth ymddeol o’r fyddin yn gaplan dosbarth cyntaf yn 1914.  

Gyrfa nesaf Jones oedd fel clerigwr cefn gwlad; penodwyd ef i weithio o breswylfa Rotherfield Peppard, Coleg yr Iesu, ychydig o filltiroedd i’r gorllewin o Henley-on-Thames, yn Swydd Rydychen. Yn ôl pob sôn, roedd gan ei bregethau rym anferth. Ochr yn ochr â’u waith plwyfol, roedd yr hawl ganddo i ysgrifennu ac i weithredu, yn rhinwedd ei swydd, fel arholwr yn Rhydychen. Roedd ef bob amser wedi parhau i astudio, pa le bynnag y cafodd ei anfon. Dyfarnwyd iddo radd BA gan Brifysgol Rhydychen yn 1907, ac yna DD yn 1914 am ei lyfr St Paul the Orator, (Hodder a Stoughton, 1910)Yn awr, cynhyrchodd nifer o lyfrau a rhes o erthyglau yn y Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. Dros y deng mlynedd nesaf, cyhoeddodd The New Testament in the Twentieth Century (Macmillan, 1914); The Epistle to the Philippians (Methuen, 1918); The Four Gospels (SPCK, 1921) a The Epistle of St Paul to the Colossians (SPCK, 1923).  

Penodwyd Jones yn bennaeth Coleg Dewi Sant, Llambed, sefydliad a oedd wedi hen ddigalonni. Roedd cynllun ei ragflaenydd, Gilbert Cunningham Joyce, i’w drawsnewid i goleg diwinyddiaeth ôl-raddedig wedi methu, ond roedd y coleg wedi’i hollti gan ymraniadau. Dim ond deg a thrigain o fyfyrwyr oedd gan y coleg erbyn hyn, ac roedd ei statws a’i safonau yn is nag erioed o’r blaen yn ei hanes.  Roedd penodiad Jones wedi rhyfeddu pawb. Roedd bron yn drigain mlwydd oed; roedd eisoes wedi gwneud cais i fod yn Athro Cymraeg ar ddau achlysur, ac unwaith i fod yn bennaeth, ond heb ddod ar unrhyw restr fer. Meddai yn ddiweddarach ‘After having been rejected on three previous occasions Lampeter in its distress had called me to come to the rescue.’  

Roedd pobl gwasg yr iaith Gymraeg wrth eu boddau pan benodwyd Jones. Medd Morgan, ‘Apart from the election of Timothy Rees to Llandaff …. , it is difficult to imagine a more inspired appointment within the new Church during these years.’ Mae’n debyg mai ateb Jones i broblemau Llambed oedd cynyddu nifer y myfyrwyr ond gadael gwaith y coleg, i ran helaeth, heb ei newid.  Dechreuodd ei waith yn Llambed gydag ymgyrch recriwtio un dyn, gan bregethu ledled Cymru, yn enwedig yn ei ardal frodorol yng ngogledd y wlad. Ymwelodd Jones â nifer o ysgolion uwchradd gan ddarganfod nad oedd neb o gwbl yn gwybod am Goleg Dewi Sant. Cynyddodd nifer y myfyrwyr o 75 yn haf 1923 i 126 yn Hydref 1924. Dan arweinyddiaeth Jones, daeth Llambed i ran helaeth yn le i hyfforddi clerigwyr ar gyfer y dyfodol. Ystyriodd ef y coleg yn ‘ home sanctified by religious discipline as well as sound learning.’ 

 Erbyn i Jones ymddeol yn 1938, roedd gan Lambed ddau gant o fyfyrwyr preswyl. Roedd ef wedi llwyddo codi proffil a morâl Llambed, rhoi’r coleg ar sylfaen ariannol gadarn a chyfoethogi statws yr iaith Gymraeg ynddo. Roedd ef yn agos at y myfyrwyr, ac roedden nhw’n ei adnabod fel ‘Prinny Bach’. Meddai Price ‘it is clear that this ‘wise, understanding and friendly man often went out of his way to help those in need and distress.’  

Daeth Jones yn ganon yn eglwys gadeiriol Tyddewi yn 1923. Yn yr un flwyddyn, daeth hefyd yn gymrawd Coleg yr Iesu, Rhydychen. Mewn cyferbyniad, roedd yn aelod o Orsedd y Beirdd, a’i enw barddol oedd Meurig Prysor. Ef oedd trysorydd yr Eisteddfod o 1925 i 1938, a daeth bron yn Archdderwydd yn 1935. Roedd yn Is-lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.  

Ar ymddeol, symudodd Jones i Lundain, a gwelwyd dau gartref yn cael eu bomio. Yn 1944, erbyn hyn yn ei wythdegau, daeth ef yn offeiriad Bradden, pentref bach yn ne Northamptonshire.  Ar ôl tair blynedd yno, symudodd yn ôl i Lundain, gan barhau i arwain y gwasanaethau Sul. Bu farw yn ei gartref yn  Addington, Surrey, ym mis Rhagfyr 1957. Meddai awdur ei goflith yn y Church Times ‘His short, stocky figure, pugnacious, with a zest for life; his amazing memory for names and faces, keen wit, sound scholarship and practical wisdom were sadly missed when, in his nineties, he found that his legs could no longer carry his heart where it longed to be.’ 

Ffynonellau 

Price, D.T.W. (1990). A History of Saint David’s University College Lampeter. Volume two: 1898-1971. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru 

Canon Maurice Jones. (1957, December 9). Times. Adalwyd ar Chwefror 17 2021 oddi wrth  https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS218323337/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=c4710a29 

Canon Maurice Jones. Scholarly Principal of Lampeter. (1957, December 13). Church Times. Adalwyd ar Chwefror 17 2021 oddi wrth  https://www.ukpressonline.co.uk/ukpressonline/view/pagview/ChTm_1957_12_13_013 

Ellis, M. G., (2001). JONES, MAURICE (1863 - 1957), priest and college principal. Dictionary of Welsh BiographyAdalwyd ar Chwefror 17 2021 oddi wrth   https://biography.wales/article/s2-JONE-MAU-1863 

Morgan, D. (2011). The Span of the Cross. 2nd edition. Adalwyd ar Chwefror 18 2021 oddi wrth  https://www.google.co.uk/books/edition/The_Span_of_the_Cross/8TC-DwAAQBAJ?hl=en&gbpv=1&dq=maurice+jones+and+factionalism&pg=PT124&printsec=frontcover