Dywedwyd am Stanley Meadows (1914-2009) neu ‘Canon Stan’: ‘roedd e’n ddyn nodedig, a wnaeth pethau hynod, mewn cyfnod rhyfedd.’
Daeth Meadows o gefndir breintiedig. Roedd ei dad, Henry Richardson Meadows, yn fasnachwr mewnforio. Roedd Stanley yn un o chwech o blant. Yn eironig, roedd ei dystysgrif geni wedi’i hysgrifennu yn Almaeneg; ganwyd ef yn Riesisheim, yn Alsace, ar Chwefror 23 1914. Roedd gan ei deulu dŷ hefyd ger Llyn Como; dysgodd y Stanley ifanc Eidaleg pan oedd ar ei wyliau yno. Addysgwyd Meadows yn Ysgol Wellington, Gwlad yr Haf, ac yna, fe ymunodd ef â’r Gwarchodlu Coldstream. Yn 1936, gwnaeth sefyll yn wyliadwrus yn angladd George V.
Ond penderfynodd Meadows ymadael â’r Fyddin a pharatoi ar gyfer cael ei ordeinio. I’r perwyl hwn, daeth i Goleg Dewi Sant, Llambed, i astudio Diwinyddiaeth. Ond er gwaethaf hyn, aflonyddwyd ar ei addysg gan ddechreuad yr Ail Ryfel Byd. Aeth yn ôl i’r Fyddin fel ail is-gapten gyda Ffiwsilwyr Swydd Gaerhirfryn. Ei ddyletswydd gyntaf oedd diogelu arfordir Swydd Efrog rhag goresgyniad posibl yn Sandsend, i’r gogledd o Whitby. Yn 1941, anfonwyd ef i Dde Affrica; gwnaeth wasanaethu fel capten cudd-ymchwil gyda’r Wythfed Fyddin am weddill y rhyfel yn Ewrop. A dweud y gwir, ef oedd un o’r ychydig bobl a gafodd ganiatâd i weld signalau’r gelyn ar ôl iddynt gael eu rhagod a’u datgodio gan Enigma ym Mharc Bletchley. Yn dilyn rhyddhad Rhufain yn 1944, treuliodd sawl mis yn y ddinas dragwyddol.
Ar ddychwelyd adref, aeth Meadows yn ôl i Lambed i ail-gydio ar ei astudiaethau. Er gwaethaf ei fagwraeth, dewisodd weithio mewn ardaloedd canol dinas, yn hytrach na mewn plwyfi mwy cyfoethog. Yn 1948, daeth yn gurad yn eglwys St Mark, Worsley; gwnaeth dreulio ail guradiaeth yn eglwys y Drindod, Littleborough. Ei swydd nesaf oedd rheithor eglwys St George, Charlestown, Salford, o 1951 tan 1961. Yn dilyn hyn, symudodd i St George â St Barnabas ym Miles Platting, mewn ardal ganol dinas boblog iawn ym Manceinion. Yno, gwnaeth Meadows oruchwylio cyfuniad llwyddiannus tri phlwyf, yn ogystal â goruchwylio adeiladu eglwys newydd, sef eglwys St Cuthbert. Ochr yn ochr â’i ddyletswyddau eraill, roedd Meadows yn gaplan i 45ain Brigâd Barasiwtiau’r Fyddin Diriogaethol, a gwnaeth ef ei hun neidio nifer o weithiau. Gwobrwywyd ef â’r Fedal Diriogaethol yn 1961. Ni wnaeth Meadows erioed geisio cuddio’r hyn yr oedd ef yn ei feddwl. Ar un achlysur, gwnaeth esgob Manceinion ofyn iddo pam oedd y groes yn eglwys St Cuthbert ar ongl. Fe atebodd, ‘It is like the Rector – slightly left of centre.’
Gwnaethpwyd Meadows yn ganon anrhydeddus yn 1971. Chwe blynedd yn ddiweddarach, gwnaethpwyd ef yn Ddeon Gwlad Ardwick. Gwnaeth barhau i gynnal gwasanaethau ar ôl iddo ymddeol, yn ogystal â gweithio fel tywysydd rhan amser yn Eglwys Gadeiriol Manceinion.
Roedd yn ddringwr ac yn gerddwr brwdfrydig. Yn ystod ei lencyndod, bu’n hyfforddwr yng Nghanolfan Plas Y Brenin, Eryri. Yn ddiweddarach, roedd e’n aelod o’r Rucksack Club; Yn 1969, ef oedd llywydd y Manchester Pedestrians Club.
Priododd ef dair gwaith; daeth ei briodas gyntaf, i Violet Smith yn 1940, i ben gydag ysgariad ar ddiwedd y rhyfel. Daeth ei ail briodas, i Edna Walker yn 1982, i ben â’i marwolaeth. Yn 1989, priododd ef Ivy Harris; gwnaeth hi fyw tan 2008. Gwnaeth merch o’i briodas gyntaf ei oroesi.
Bu farw Meadows ar Sul y Pasg, 2009.
Ffynonellau
Obituary of The Rev Canon Stanley Meadows Intelligence officer who saw the decoded Engima intercepts and later worked as a priest in Manchester. (2009, May 14). Daily Telegraph. Adalwyd oddi wrth https://infoweb.newsbank.com/resources/doc/nb/news/128CD0812E5A2E30?p=UKNB
Death of a very remarkable man. (2009, May 22). Manchester Evening News. Adalwyd oddi wrth https://www.manchestereveningnews.co.uk/news/local-news/death-of-a-very-remarkable-man-920270
Tributes to hero clergyman. (2009, May 15). Manchester Evening News. Adalwyd oddi wrth https://www.manchestereveningnews.co.uk/news/greater-manchester-news/tributes-to-hero-clergyman-919586