Ganwyd Howell Prichard yn 1805 yn Trallong, Sir Frycheiniog, i'w rieni Howell Prichard ac Elizabeth Powell. Roedd ei dad yn ffermwr ac wedi priodi Elisabeth Powell y flwyddyn flaenorol. Roedd gan Howell ddau frawd a phedair chwaer; Elizabeth, Thomas, Elizabeth, William, Sarah a Rees.

Cyn iddo gael ei dderbyn i Goleg Dewi Sant, roedd Howell wedi mynychu Coleg Crist, Aberhonddu. Roedd Howell yn un o'r myfyrwyr cyntaf i gofrestru yn Llanbedr Pont Steffan, gan ymuno â'r coleg ar y diwrnod agoriadol, 1 Mawrth 1827, yn 21 oed. Roedd llawer o'i gyd-fyfyrwyr hefyd o gefndiroedd amaethyddol a byddai'r gobaith o gael bywyd i ffwrdd o ffermio wedi cynnig sicrwydd ariannol, statws ac, i rai, antur. Roedd rheolau'r coleg yn llym a chafodd rhai myfyrwyr eu diarddel; cafodd Howell ei hun ei geryddu yn nhymor Mihangel yn 1828 am ryw ddrygioni anhysbys. Ymhlith y troseddau a allai arwain at ddiarddel myfyrwyr dros dro roedd rhegi, gadael y campws gyda'r nos, meddwdod ac absenoldebau dro ar ôl tro heb ganiatâd. 

Ordeiniwyd Howell yn Ddiacon yng nghapel y Coleg ym mis Awst 1829 ac fe’i penodwyd yn Gurad Cyflogedig Dulas, Henffordd. Y flwyddyn ganlynol, sefodd Howell ei arholiadau ond ni chafodd ei dderbyn i fod yn Offeiriad, yn fwyaf tebygol oherwydd ei ddiffyg gwybodaeth o'r ysgrythur, Lladin neu ddiwinyddiaeth nag am ymddygiad gwael. Dair blynedd yn ddiweddarach penodwyd Howell yn Gurad Cyflogedig of Llansanffraid a Llansbyddyd yn esgobaeth Dewi Sant. Ym mis Medi 1834, fe wnaeth Howell ailsefyll ei arholiadau yn llwyddiannus ac fe’i ordeiniwyd yn offeiriad yng nghapel y Coleg. Parhaodd i gyflawni ei ddyletswyddau offeiriadol yn Llansbyddyd am y deng mlynedd nesaf.  

Yng nghanol yr 1840au, daeth tro ar fyd i Howell pan gafodd ei benodi i ardal Montpelier, Jamaica. Roedd Esgob Jamaica wedi gwneud ceisiadau yn yr Ecclesiastical Gazette am sawl swydd wag ar yr ynys ac, ar argymhelliad ei Esgob, penodwyd Howell yn Gurad yn Jamaica. Un o'i ddyletswyddau cynharaf yn 1844 oedd claddu'r Parchedig William Fraser yn Falmouth, Trelawny; roedd Fraser wedi gwasanaethu'r eglwys yn Jamaica ers 1806. 

Planhigfa siwgr oedd ardal Saint James, Montpellier yn Jamaica yn wreiddiol. Roedd y blanhigfa wedi newid dwylo sawl gwaith ers iddi gael ei chreu gan y Capten Francis Sadler yn yr 1740au ac, erbyn 1840, roedd yr ystâd yn eiddo i deulu de Walden. Yn dilyn diddymu caethwasiaeth, dechreuodd yr ystâd ddioddef yn ariannol, fel llawer yn y trefedigaethau. Yn 1848, gorchmynnodd Tŷ'r Cyffredin ymchwiliad i sefyllfa economaidd y trefedigaethau ddegawd ar ôl rhyddfreinio; yn 1806 roedd siwgr Gorllewin India wedi cynrychioli 55.1% o farchnad Gogledd yr Iwerydd, ond erbyn 1851 roedd wedi gostwng i ddim ond 13%. Gwaethygwyd y dirywiad ar ôl rhyddfreinio gan y dirwasgiad economaidd yn Ewrop yn 1846-1847 a gafodd ganlyniadau dramatig ar y diwydiant siwgr yn Jamaica. Yn yr hinsawdd economaidd ansicr ac ansefydlog, derbyniodd planwyr Jamaica lai a llai o gyfalaf gan fasnachwyr a chyllidwyr Prydain gan arwain at lawer o achosion o fethdaliad. Erbyn yr 1850au, roedd ystâd Montpellier wedi newid i ffermio gwartheg. 

Chwaraeodd Howell Prichard ran sylweddol yn adfywiad yr ystâd a’r ynys, fel y gwnaeth llawer o’r clerigwyr a gyrhaeddodd yn ystod yr 1830au-1850au. Daethpwyd â Howell ei hun drosodd i’r wlad i “gynorthwyo’r Gwyddelod a’r Albanwyr amddifad” yr effeithiwyd arnynt gan y diddymiad a’r dirywiad economaidd. Roedd yr eglwys yn un o golofnau’r ynys yn ystod yr amseroedd caled hyn a dywedodd yr Anrhydeddus Arglwydd Walden fod “Clerigwyr Eglwys Loegr yn cael mwy o ddylanwad bob dydd ar y Negros, ac yn cydweithredu â'r perchnogion wrth annog diwydiant”. 

Montpellier Estate, Saint James.

Llun: Ystad Montpellier. Saint James o A picturesque tour of the Jamaican Island gan James Hakewill,1825. Hurst and Robinson & Co. (https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Hakewill,_A_Picturesque_Tour_of_the_Island_of_Jamaica,_Plate_12.jpg)

Yn 1846 priododd Howell Mary Harriet Marrett, merch ieuengaf y Capten Joseph Marrett o’r Llynges Frenhinol, yn Eglwys Sant Michael, Swanswick, Jamaica. Ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd Mary ferch o’r enw Mary Elisabeth, a dwy flynedd yn ddiweddarach ganwyd eu hail ferch, Louisa Gwenllian Sarah. Yn ystod y cyfnod hwn, bu Howell yn ymwneud â sefydlu eglwys newydd, Capel Sant Paul, Montpellier a fynychwyd gan lawer o drefolion Bae Montego a’r ardaloedd allanol. Dywedodd Howell, wrth ysgrifennu yn ôl at ei bapur newydd lleol yng Nghymru, The Cardiff and Merthyr Guardian, y byddai sefydlu’r capel “o ddiddordeb i lawer o’ch darllenwyr” a nododd fod llawer ohonynt yn ffrindiau ac yn berthnasau iddo. Dywedodd, “er ei fod wedi byw am nifer o flynyddoedd yn yr hinsawdd drofannol a nychlyd hon, [mae fy] iechyd corfforol a meddyliol yn dda iawn”. 

Erbyn 1850, roedd Howell yn gymeriad adnabyddus ar ynys Jamaica a nododd y Jamaica Almanac yn 1851 ei fod hefyd yn rheolwr banc cynilion Sant James, rhywbeth nad oedd yn anghyffredin bryd hynny i barchedigion ac aelodau’r eglwys. Mae hefyd wedi'i restru fel Curad yr Ynys ar Ynys Sant James. Roedd Howell yn cadw golwg ar y datblygiadau yn ei sir a'i wlad enedigol trwy ei danysgrifiad i bapur newydd The Cardiff and Merthyr Guardian. 

Ar ôl bod yn un o fyfyrwyr cyntaf y coleg, roedd Howell hefyd yn un o'r graddedigion cyntaf, ac yn 1853 dychwelodd i sefyll yr arholiad ar gyfer ei Radd Baglor mewn Diwinyddiaeth yn llwyddiannus o dan siarter newydd 1852. Dychwelodd Howell i Jamaica, ond ar ôl dioddef ychydig flynyddoedd gydag iechyd gwael, gadawodd yr ynys ac, yn 1859, dechreuodd swydd fel Curad yn Knockin, Swydd Amwythig. 

Mae Cyfrifiad 1871 yn cofnodi bod Howell a’i wraig wedi cael merch arall, Howellina Powell Milner Prichard, a anwyd yn 1864, tra bod papurau’r flwyddyn honno’n adrodd ei fod yn rhoi nawdd i Gymdeithas Gorawl Knockin. Yn 1876, bu Howell yn byw’n hapus ym Melverley yn Swydd Amwythig a threuliodd y pum mlynedd nesaf yno. Bu farw Howell ym mis Ebrill 1881 yn 76 oed, a chladdwyd ef yn Eglwys Plwyf Melverley. 

Ysgrifenwyd gan: 

Thomason, K. (2018). The ‘First Alumnus’ ? – Revd. Howell Prichard). The Link (XXI), 18-19. Cyrchwyd o https://www.uwtsd.ac.uk/media/uwtsd-website/content-assets/documents/lampeter-society-/thelink2018.pdf